Publication of audited accounts for the year ended March 2021
Publication of audited accounts for the year ended March 2021
Regulation 15(5) of the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 (as amended) requires that by 30 September 2021, Llangathen Community Council publish its accounting statements for the year ended 31 March 2021 together with any certificate, opinion, or report issued, given or made by the Auditor General. The accounting statements in the form of an annual return have been published on the Council’s website. However, the accounts are published before the conclusion of the audit. Due to the impact of COVID-19, the Auditor General has not yet issued an audit opinion.
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31
Mawrth 2021
Mae rheoliad 15(5) o Rheoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 30 Medi 2021, i Cyngor Cymuned Llangathen gyhoeddi ei ddatganiadau cyrfifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu parodied a gyhoddwyd, a roddwyd neu a waned gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae’r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag,cyhoeddir y cyfrifon cyn i’r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw’r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.
Agenda 21.9.21
Llangathen Community Council / Cyngor Cymuned Llangathen
Crachty Isaf, Capel Isaac, Llandeilo, Carmarthenshire. SA19 7UH
Tel: 01558 668349 / council@109.108.136.177 – www.llangathen.org.uk
Annwyl Syr/Madam,
Dymunaf eich hysbysu fod y cyfarfod nesaf o Gyngor Cymuned Llangathen i’w gynnal nos Fawrth, 21 Medi 2021 am 7.30yh, yn Yr Ysafell Ddarllen, Cwrt Henri.
I wish to inform you that the next meeting of Llangathen Community Council, will be held on Tuesday, 20th September 2021 at 7.30 p.m in The Reading Room, Court Henry.
Yr eiddoch yn gywir / Yours faithfully,
Mairwen G.Rees,
(Clerc/Clerk)
AGENDA
1. I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb / To receive apologies for absence.
2. I dderbyn datganiadau o ddiddordeb personol / To receive declarations of interest
3. Adroddiad gan/Report by PCSO Louise Lewis
4. Adroddiad gan/Report by Rachel Carter, Local Places for Nature Officer
5. I dderbyn cofnodion y cyfarfod diwethaf / To confirm the minutes of the last meeting.
6. I drafod materion sy’n codi o’r cofnodion / To consider matters arising from the minutes.
7. Diogelwch y Ffyrdd – A40 / Road Safety – A40
8. I ddarllen ac ystyried gohebiaeth / To read and consider correspondence.
9. I dderbyn polisi / Adopt Policy Cyfle Cyfartal / Equal Opportunity
8. I gymeradwyo cyfrifon i’w talu / To approve accounts for payment.
9. I ystyried ceisiadau cynllunio. www.carmarthenshire.gov.wales
To discuss planning applications. PL/02466
10. I dderbyn adroddiad y Cynghorydd Sîr /To receive the County Councillors report.
11. Unrhyw fater arall / Any other business
Cofnodion / Minutes, 20.7.2021
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 20 Gorffennaf 2021. Cyfarfod rhithwir yn defnyddio’r fformat “Zoom”.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 20th July 2021. A virtual meeting using the “Zoom” system .
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones ( Cadeirydd / Chair), A. Davies, C. Moses and/a L. Hughes.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk).
21/12 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. E. Rees, M. Williams, E. Morgan and C. Campbell.
21/13 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
21/14 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan Cyng. L. Hughes fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 18 Mai 2021 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. L. Hughes that the minutes of the meeting held on Tuesday, 18th May 2021 be accepted as a correct record of proceedings.
21/15 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 20/53 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Roedd ateb wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phryderon ynghylch llinellau gwyn wedi pylu ar gefnffordd yr A40. Roedd yn cadarnhau bod gwaith cynnal a chadw ac ailosod arwyneb wedi’i gynllunio ar gyfer y rhan honno o gefnffordd yr A40, a bod y gwaith yn amodol ar flaenoriaethu a’r cyllid a fyddai ar gael. Roedd gwaith hefyd wedi’i raglennu i unioni’r dirywiad lleol ac adnewyddu’r llinellau gwyn. Byddai’r gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl, yn ddibynnol ar argaeledd contractwyr.
A reply had been received from Welsh Government regarding the concerns of faded white lines on the A40 trunk road. They confirm that the section of the A40 trunk road is planned for resurfacing maintenance and is subject to prioritisation and available funding. It is also programmed to rectify the localised deterioration and refresh the white lining. Work to be carried out as soon as possible and is dependant upon contactor availability.
Cof/Min 20/53 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Roedd cynrychiolydd o CBRE (Cyfleustodau) wedi cysylltu â’r clerc ynghylch Adeilad Cyfnewid BT, Dryslwyn. Dywedodd fod y rheiliau ar ffin y ffens i gael eu hatgyweirio. Cadarnhawyd yn y cyfarfod bod hyn wedi cael ei wneud. At hynny, dywedodd y gwr bonheddig ei fod wedi gwneud amcangyfrif o’r gwaith gofynnol – paentio, ail-blastro rhai mannau – ac y byddai’n anfon hwn ymlaen at BT i’w gymeradwyo. Ar ôl cael ei gymeradwyo, byddai’r gwaith yn cael ei wneud.
A representative of CBRE (Utilities) had contacted the clerk regarding the BT Exchange Building, Dryslwyn. He advised that the railings on the fence boundary were to be repaired. It was confirmed in the meeting that this had been done. Also, the gentleman advised that he had calculated an estimate of the works required – painting, re-plaster areas – and would be forwarding this to BT for approval. Once approval was granted, then the work would be completed.
Cof/Min 20/53 (3) ROAD CWMHARAD I/TO SARNAGOL
Nodwyd bod angen draen croesi newydd. Mae’r ardal hon ar restr cynnal a chadw CSC
A new cross drain was called for at this location. This area is on the CCC list for maintenance.
Cof/Min 20/53 (4) ROAD FROM BROAD OAK TO CAPEL CROSS INN
Mae’r ardal hon ar restr cynnal a chadw CSG.
This area is on the CCC list for maintenance.
Cof/Min 20/53 (6) FELINDRE – TYLLAU / POT HOLES
Mae’r ardal hon ar restr cynnal a chadw CSC.
This area is on the CCC list for maintenance.
Cof/Min 20/53 (7) SBWRIEL / LITTER
Roedd neges gan Swyddog Amgylchedd Lleol CSC yn cadarnhau bod y mater dan reolaeth. Roedd y gwasanaethau glanhau mewn cysylltiad â’u contractwr enwebedig a, phan fyddent yn gallu gwneud y gwaith, yna byddai angen rhoi trefniadau ar waith gyda’r adran rheoli traffig i sicrhau systemau gwaith diogel. Roedd archeb am arwyddion Dim Sbwriel wedi ei gyflwyno, a byddai’r arwyddion yn cael eu gosod yn yr ardal wedi iddynt gyrraedd.
A message from CCC Local Environment Officer confirmed that the matter was in hand. Cleansing services were in contact with their nominated contractor and when they were able to carry out the work than arrangements would need to put in place with traffic management to ensure safe systems of work. An order for No Littering signs have been placed and will be erected in the area once received.
Cof/Min 20/53 (10) FELINDRE, STREET LIGHTING
Mynegwyd pryder ynghylch y golau stryd unigol yn Felindre. Roedd y golau’n cael ei ddiffodd am tua 2am. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â CSC i ofyn am iddo gael ei adael ynghynn yn ystod y nos/yn gynnar yn y bore.
Concern was expressed with regard to the single street light in Felindre. The light was being turned off at around 2am. The clerk was asked to contact CCC to request that this be left on during the night/early morning.
Cof / Min 20/50 SWYDD WAG AR GYFER CYNGHORYDD/ COUNCILLOR VACANCY
Roedd y swydd wag wedi cael ei hysbysebu yn unol â chyfarwyddiadau CSC. Hyd hynny, nid oedd yr un ymateb swyddogol wedi dod i law, ond roedd un unigolyn wedi dangos diddordeb yn y swydd.
The vacancy had been advertised as per instructions from CCC. To date there has been no official response but one person is showing an interest in the vacancy.
21/16 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
* Llythyron o ddiolch/Thank you letters- Cyng/Cllr E Thomas Cadeirydd/Chair Royla British Legion Llandeilo (rhodd/donation)
Apêl Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin 2020/21/ Carmarthenshire County Council Chair’s Appeal
Un Llais Cymru / One Voice Wales
* AID WALES/ONE VOICE WALES ONLINE EVENT / DIGWYDDIAD AR-LEIN CYMORTH CYNLLUNIO CYMRU / UN LLAIS CYMRU
* Learning lessons from the community-led response to COVID-19 in Wales Survey- Live today
* Mai | 19 May 2021 | Adfer o COVID-19 – galluogi arweinyddiaeth a phartneriaethau cymunedol allweddol | COVID recovery – enabling key community leadership and partnerships
* PLANNING AID WALES/ONE VOICE WALES ONLINE EVENT / DIGWYDDIAD AR-LEIN CYMORTH CYNLLUNIO CYMRU / UN LLAIS CYMRU
* Programme for Government / Rhaglen Lywodraeth
* Consultation Launch 28 June 2021: – Consultation on Qualifications of Clerks in Wales Regulations / Lansio Ymgynghoriad 28 Mehefin 2021 – Ymgynghoriad ar Reoliadau Cymwysterau Clercod yng Nghymru
* Summer of Fun / Haf o Hwyl – Comisiynydd Plant Cymru/Children’s Commissioner for Wales
* Conveyancing Fraud Awareness (leaflet)
* Whats App Scam…
* Mobile Phone Upgrade Scams are on the increase UK wide…
* Lleoedd Lleol ar gyfer Nature / Local Places for Nature / 22/7/21
* News update regarding significant changes to e-PIMS / Yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau sylweddol i e-PIMS
* Rachel Carter Local Places for Nature Officer – Cyflwyniad Rachel Carter Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Nature – It was agreed to invite Ms Carter to the next Llanagathen Community Council meeting.
* Cylchlythyr Comisiynydd Pobl Hyn Cymru/ Older People’s Commissioner’s Newsletter
* Neighbourhood Watch – Free Webinars About Scams In July…
* Change Newsletter / Cylchlythyr Newid Hinsawdd
* Cylchlythyr Mehefin 2021 / June 2021 Newsletter
* Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan – gwnewch gais nawr! – The All Wales Public Service Graduate Programme is back – apply now!
* UK Forestry Safe consultation goes live
* Cylchlythyr Diwygio Etholiadol Mehefin 2021 / Electoral Reform Newsletter June 2021
* CIC Hywel Dda Mis Gorffennaf / Hywel Dda CHC July newsletter
* OPERATION LONDON BRIDGE
* COMMUNITY HEALTH LEAFLETS
* Carmarthenshire Area Committee Meeting / Pwyllgor Ardal Caerfyrddin – Bin Notice
* Local Dev Plan
* Free Webinar – Local Places for Nature / Gweninar Rhad ac am Ddim – 22/7/21 2yp/pm
* Litter and dog fouling / Sbwriel a baw cwn – “am enghreifftiau o arfer da/mentrau gan Gynhorau Cymuned / Examples of good practice from Community Councils”
* One Voice Wales Innovative Practice Conference/ Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru 22/9/21
Cygor Sir Gar / Carmarthenshire County Council
* Actif 60+/ Actif 60+ Programme
* Bywyd Gwyllt yn eich Ward / Wildlife on your Ward profile. Wedi danfon ymlaen * Deaf Blind awareness session and further details
* Hate Crime and Mate Crime Training Dates
Welsh Government
* Rural Network News Round-up 2021 Issue 04; May 2021
* Compulsory Purchase Orders
* Ending Physical Punishment in Wales Newsletter
* Digital Inclusion – Bilingual information on Home Essentials from BT (Paul Davies / Homes)
* Government Consultation on a default 20mph speed limit (Paul Davies / Homes)
* Lleoedd Lleol ar gyfer Natur / Local Places for Nature – Llinos Evans (Policy)
Fforwm Cyswllt – Liaison Forum – TCC Mewn Mannau Cheddars / CCTV In Public Spaces
* Eich Gwasanaeth Plismona – Eich Dewis / Your Policing Service – Your Choice
* Audit Wales – Deryck Evans – Annual Audit
* Welsh Hearts – sign and share our petition to help save hearts in Wales
* Virtual Summit – A Guide To Broadcasting Council Meetings – Thursday 29 July, 10am – Dan Beacher, Cloudy Group
* Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda University Health Board – Building a healthier future after COVID 19: Have your say / Dweud eich Dweud.
* Focus on Play – Community and town councils
21/17 CLERKS CONTRACT
Cafodd contract a chyflog y clerc eu cwblhau a’u cymeradwyo gan bawb.
The clerks contract and salary was finalised and approved by all.
21/18 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Trywydd (Cyfieithu / Translation)
(Cof / Mins Mawrth /March) 51.55
(Cof / Mins Mai / May) 46.08
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Gorffennaf / July 231.56
Awst / August 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 133.15
Cadarnhaodd y clerc fod hawliad TAW gwerth £418.17 wedi cael ei gyflwyno i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
The clerk confirmed that a VAT claim had been submitted to HM Revenue and Customs totalling £418.17
Lloyds Bank – May Statement £6531.83 June Statement £6481.83
21/18 GRIEVANCE POLICY / POLISI IECHYD A DIOGELWCH / HEALTH & SAFETY POLICY
Roedd pob aelod wedi cael copïau o’r uchod a chytunwyd yn unfrydol i’w mabwysiadu.
All members had received copies of the above and it was unanimously agreed to adopt these.
21/19 DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Cadarnhawyd bod y ddau ddiffibriliwr (yn Nerwen-fawr a Siop Dryslwyn) yn gweithio’n iawn.
It was confirmed that the two Defibrillators (Broad Oak and Dryslwyn Shop) were in working order.
21/20 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following application was considered by the Council and their observations noted. The clerk to advise CCC accordingly.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/01503 Installation of Air Source Heat Pump Felindre Court
(Retrospective) Dryslwyn
Gosod Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer SA32 8RJ
(Ôl-weithredol)
No concerns/objections
PL/02207 Installation of French Doors – First Felindre Court
Floor & Juliette Balcony Drylswyn
Gosod Drysau Ffrengig – Llawr SA32 8RJ
Cyntaf a Balconi Juliette
No concerns/objections
21/21 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Cafwyd trafodaeth ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a’r llwybrau ar gyfer bysiau gwasanaeth.
Credwyd nad oedd bysiau’n aros wrth gysgodfan Sgwâr Dryslwyn mwyach; fodd bynnag, nodwyd bod pobl yn dal i aros yno. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â CSC ynglyn â’r llwybr bysiau swyddogol. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o osod arhosfan/cysgodfan fysiau ger Swyddfa Bost Dryslwyn.
A discussion took place regarding the public transport and the routes for service buses.
It was believed that buses no longer stopped at the Dryslwyn Square shelter although it has been noted that people do wait at this location. The clerk was asked to contact CCC regarding the official bus route. It was also discussed the possibility of a bus stop/shelter near Dryslwyn Post Office.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ar 21 Medi 2021. Byddai’r lleoliad yn dibynnu ar y canllawiau ynghylch COVID.
It was resolved that the date for the next meeting of Llangathen Community Council will be held on 21st September 2021. Location will be subject to COVID guidelines.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….
Key Information – meeting 21/9/21
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Key Information – meeting 21/9/21
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 21 Medi 2021 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 20th July 2021, at The Reading Room, Court Henri.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones ( Cadeirydd / Chair), A. Davies, C. Moses, E. Morgan, M. Williams and/a E. Rees.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) and Mrs A. Davies
YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. L. Hughes and C. Campbell hefyd/also PCSO Louise Lewis and Rachel Carter, Local Places for Nature Officer.
DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu
The following accounts were approved for payment
£
Trywydd (Cyfieithu / Translation) 29.52
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Medi/September 231.56
Hydref/October 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 103.73
EQUALITY & DIVERSITY POLICY
It was unanimously agreed to adopt the above policy
Planning Applications PL/02331 & PL/02466 – it was agreed to inform CCC that members have no concerns or objections to these applications.
Cyfarfod nesaf/ next meeting 16/11/21
M Rees (clerc/clerk)
PAYMENTS TO MEMBERS OF LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL FOR 2020 / 2021
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2021
1. Dyddiad cyhoeddi 6/8/21
2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
M Rees, Crachty Isaf, Capel Isaac, Llandeilo. SA19 7UH
Rhif Ffon: 01558668349 council@109.108.136.177
Rhwng yr oriau o 3 yp a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 20 Awst 2021
Ac yn dod i ben ar 17 Medi 2021
3. O 20 Medi 2021, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
∙ yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglyn â’r cyfrifon.
∙ yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ.
4. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Notice of appointment of the date for the exercise of electors’ rights
Llangathen Community Council
Financial year ending 31 March 2021
1. Date of announcement 6th August 2021
2. Each year the annual accounts are audited by the Auditor General for Wales. Prior to this date, any interested person has the opportunity to inspect and make copies of the accounts and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts etc relating to them for 20 working days on reasonable notice. For the year ended 31 March 2021, these documents will be available on reasonable notice on application to:
M Rees, Crachty Isaf, Capel Isaac, Llandeilo. SA19 7UH
Tel: 01558668349 council@109.108.136.177
between the hours of 3pm and 4pm on Monday to Friday
commencing on 20 August 2021
and ending on 17 September 2021
3. From 20 September 2021, until the audit has been completed, Local Government Electors and their representatives also have:
∙ the right to question the Auditor General about the accounts.
∙ the right to attend before the Auditor General and make objections to the accounts or any item in them. Written notice of an objection must first be given to the Auditor General. A copy of the written notice must also be given to the council.
The Auditor General can be contacted via: Community Council Audits, Audit Wales, 24 Cathedral Road Cardiff CF11 9LJ.
4. The audit is being conducted under the provisions of the Public Audit (Wales) Act 2004, the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 and the Auditor General for Wales’ Code of Audit Practice.
Key Information – meeting 20/7/21
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Key Information – meeting 20/7/21
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones ( Cadeirydd / Chair), A. Davies, C. Moses and/a L. Hughes.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk).
YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. E. Rees, M. Williams, E. Morgan and C. Campbell.
DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu
The following accounts were approved for payment
£
Trywydd (Cyfieithu / Translation)
(Cof / Mins Mawrth /March) 51.55
(Cof / Mins Mai / May) 46.08
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Gorffennaf / July 231.56
Awst / August 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 133.15
CLERKS CONTRACT
The clerks contract and salary was finalised and approved by all.
GRIEVANCE POLICY / POLISI IECHYD A DIOGELWCH / HEALTH & SAFETY POLICY
It was unanimously agreed to adopt the above policies
Planning Applications PL/01503 & PL/02207 – it was agreed to inform CCC that members have no concerns or objections to these applications.
Cyfarfod nesaf/ next meeting 14/9/21
M Rees (clerc/clerk)
AGM – 18.5.21
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth Mai 18, 2021. Cyfarfod “virtual” yn defnyddio’r fformat “Zoom”.
Minutes of the Annual Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 18th May 2021. A virtual meeting using the format “Zoom” system .
Presennol / Present: Cyng/Cllrs.: B. Jones (chair) A. Davies, C. Moses, E. Morgan, M. Williams, L. Hughes and E. Rees.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk)
21/01 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllr. Cefin Campbell.
21/02 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Dros y flwyddyn flaenorol (Tachwedd 2020 – Mai 2021) cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol:
Datganodd y Cyng. A. Davies ddiddordeb yn eitem 20/54 (2) yn Gohebiaeth ac eitem 20/55 (7) Cyfrifon i’w Talu.
Over the previous year (November 2020 – May 2021) the following declaration of interest was registered:
Cllr. A. Davies declared an interest in item 20/54 (2) in correspondence and item 20/55 (7) Accounts for payment.
Cyfarfod mis Mai 2021/ May 2021 meeting
Cyng / Cllr A. Davies – eitem agenda / agenda item 6 – rhif cofnodion/minute reference 20/54 (2) a / and 20/55 (7) Donation to Royal British Legion / in memory of D T Davies OBE MM
21/03 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. C. Moses ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2020 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. C. Moses and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the Annual Meeting held on 17th November 2020 be accepted as a correct record of the proceedings.
21/04 DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS
Roedd copïau o’r cyfrifon wedi cael ei danfon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Roedd y rhain wedi’u harchwilio gan Mr D. G. Morris. Yn dilyn trafodaeth am y cyfrifon, cynigiodd y Cyng. E. Morgan, ac eiliwyd gan y Cyng. C. Moses y dylid derbyn bod y datganiad o gyfrifon yn gywir.
Copies of the accounts had been forwarded to Cllrs for the year ended 31st March 2021. These had been audited by Mr D.G.Morris. Following a discussion regarding the accounts, it was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. C. Moses that the statement of accounts be accepted as correct.
21/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT
Trafodwyd yr Asesiad Risg a chytunwyd yn unfrydol y dylai pob cofnod barhau heb unrhyw ddiwygiad.
The Risk Assessment was discussed and it was unanimously agreed that all entries should remain with no amendments.
21/06 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT
Darllenwyd yn uchel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac fe’i trafodwyd gan yr aelodau. Cynigiwyd gan y Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan y Cyng. M. Wynne y dylai gael ei gymeradwyo gan y cyngor.
The Annual Governance Statement was read out and discussed by members. It was proposed by Cllr. E. Rees and seconded by Cllr. B. Jones that it be approved by the council.
21/07 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL / APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR
Penderfynwyd y dylid parhau i ymgymryd â gwasanaethau’r archwilydd mewnol, sef Mr D Morris. Gan fod Mr Morris wedi cytuno’n ffurfiol i’r rôl hon ym mis Tachwedd 2020 (o ganlyniad i COVID-19), penderfynwyd mai’r peth gorau fyddai gofyn i Mr Morris gytuno’n swyddogol i’r rôl unwaith eto er mwyn i’r cyngor fod ‘nôl ar y llwybr cywir ar gyfer cael cytundebau blynyddol. Y clerc i ysgrifennu at Mr Morris.
It was resolved that the services of the internal auditor Mr D Morris be continued. As Mr Morris had formally agreed to this role in November 2020 (due to COVID 19) it was deemed best to ask Mr Morris again for his official agreement to the role so that the council would be back on track to receiving annual agreements. The clerk to write to Mr Morris.
21/08 PENODI CLERC/SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL / APPOINT CLERK / RESPONSIBLE FINANCIAL OFFICER
Cytunwyd yn unfrydol i ailbenodi M. Rees yn Glerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol
It was unanimously agreed to re-appoint M. Rees as Clerk/RFO
21/09 AMODAU GWAITH Y CLERC / CLERKS WORKING CONDITIONS
Trafododd bawb y dogfennau canlynol:
The following documents were discussed by all:
Contract Gwaith y Clerc Y Swydd-ddisgrifiad Graddau Cyflog
Y Polisi Cwyn Gyflogaeth Y Polisi Gwerthuso
Clerks Work Contract Job Description Pay Scales
Grievance Policy Appraisal Policy
Gan fod angen cael cyngor ar rai o’r eitemau hyn, cytunwyd yn unfrydol y dylai’r Cynghorwyr canlynol wneud trefniadau i gael yr wybodaeth briodol a chytuno arni gyda’r clerc:
y Cyng. B. Jones, y Cyng. A Davies a’r Cyng. E. Rees
Ar yr adeg hon, diolchwyd i’r clerc am ei gwaith ac, yn gyfnewid am hyn, cynigiodd y clerc ei gwerthfawrogiad o’r cymorth yr oedd pob Cynghorydd yn ei roi iddi.
As advice was needed on some of these items, it was unanimously agreed that the following Councillors make arrangements to obtain the appropriate information and agree with the clerk:
Cllr. B. Jones, Cllr. A Davies and Cllr. E. Rees
At this point the clerk was thanked for her work and in return the clerk offered her appreciation to the support every Councillor offered her.
21/09 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRMAN
Cynigiodd y Cyng. M. Williams y dylai’r Cyng. B. Jones gael ei ailethol yn gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021-2022 i ddod, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. E. Morgan. Derbyniodd y Cyng. B. Jones y swydd yn briodol. Ar yr adeg hon diolchwyd o galon i’r Cyng. Jones am ei rôl o fod yn gadeirydd, a oedd eisoes wedi cael ei hymestyn o ganlyniad i COVID-19.
It was proposed by Cllr. M. Williams and seconded by Cllr. E. Morgan that Cllr. B. Jones be re-elected as chairperson for the coming 2021 / 2022 year. Cllr. B. Jones duly accepted this position. At this point Cllr. Jones was sincerely thanked for her role as chair which had already been extended due to COVID 19.
21/09 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR
Cynigiwyd gan y Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan y Cyng. B. Jones bod y Cyng. E. Rees yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd. Derbyniodd Cyng. E. Rees y swydd a diolchodd i’r aelodau.
It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. B. Jones that Cllr. E. Rees be appointed as Vice Chairman. Cllr. E. Rees accepted the post and thanked members.
21/10 AELODAETH / MEMBERSHIP AFFILIATION
Cynigiwyd gan y Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan y Cyng. L. Hughes y dylai’r pwyllgor barhau â’i aelodaeth o Un Llais Cymru ac hefyd SLCC (Society of Local Council Clerks) mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.
It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. L. Hughes to continue affiliation to Un Llais Cymru and SLCC (Society for Local Council Clerks) and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.
21/11 PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES
i. Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room – Cyng. / Cllr. M. Williams
ii. Un Llais Cymru – Cyng. / Cllr. B. Jones a/and Cyng / Cllrs E. Rees
iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng / Cllr. B. Jones
iv. Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 17 Mai 2022.
It was resolved that the next Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday, 17th May 2022.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….
- 1
- 2
- 3
- …
- 12
- Next Page »