CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 15 Mai 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 15th May 2018 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs A. Davies (cadeirydd/acting chair) M. Williams, M. Wynne, E. Morgan, E.Rees a/and B.Jones. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a/and Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
17/60 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs.L. Hughes and C. Moses.
17/61 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. / There were no declarations of interest.
16/62 ADRODDIAD GAN SWYDDOG CYMORTH CYMUNEDOL YR HEDDLU/ REPORT BY PCSO
Roedd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH), Donavon Kerr, yn bresennol yn y cyfarfod, a rhoddodd adroddiad ar faterion o fewn y gymuned.
PCSO (Police Community Support Officer) Donavon Kerr attended the meeting and reported on matters within the community.
Roedd trefniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer cerbyd/gwn gwylio cyflymder yn y gymuned. Byddai hwn yn cofrestru cyflymder modurwyr ac yn amlygu presenoldeb yr heddlu.
Trafodwyd yr achosion diweddar o ddwyn beiciau cwad oddi ar ffermydd yn yr ardal.
Nododd PCSO Kerr fod y rheiny a oedd yn bresennol yn byw mewn cymuned hyfryd. Diolchwyd iddo am fod yn rhan o’r cyfarfod.
Arrangements had been made for the presence of a speed watch/gun within the community. This was to register the speed of motorist and to show a police presence.
A report on the recent spate of farm quad bikes within the area was discussed.
PCSO Kerr complimented all present on living in such a lovely community. He was thanked for attending the meeting.
17/63 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 20 Mawrth 2018 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Tuesday, 20th March 2018 be accepted as a correct record of proceedings.
17/64 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 17/53 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Dywedwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Rheolwr Priffyrdd newydd, sef Richard Waters. Roedd y Cynghorydd Sir Cefin Campbell wedi bod yn trafod y posibilrwydd o adfer y marciau coch ar hyd yr ardal hon o’r A40, a byddai’n cwrdd â Mr Waters yn fuan i drafod hyn. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
It was reported that CCC had appointed a new Highways Manager, Richard Waters. County Cllr. Cefin Campbell had been discussing the possibility of reinstating the red hatch markings along this area of the A40 and he was soon to meet Mr Waters regarding this. To review at the next meeting.
Cof/Min 17/53 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Cafwyd presenoldeb da yn y sesiwn hyfforddi ar 19 Ebrill 2018 gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Byddai’r diffibriliwr yn cael ei osod yn Siop Gymunedol Dryslwyn yn fuan iawn. Dywedodd y Cyng. B Jones nad oedd modd mabwysiadu’r ciosg BT yn Nerwen-fawr, felly penderfynwyd y byddai’r ail ddiffibriliwr yn cael ei leoli o dan yr hysbysfwrdd. Byddai hyfforddiant pellach yn cael ei drefnu yn Neuadd Llangathen, a byddai’r Cyng. Jones yn cynghori’r clerc ynghylch dyddiadau, er mwyn hysbysebu’r digwyddiad hwnnw. Penderfynwyd hefyd y dylid gosod sticeri/hysbysiadau ar y diffibrilwyr, yn nodi manylion ynghylch ei berchenogaeth, ynghyd â manylion cyswllt mewn argyfwng.
The training session on 19th April 2018 with Wales Ambulance Service had been well attended. The defibrillator was due to be installed at the Dryslwyn Community Shop very soon. Cllr. B. Jones reported that it was not possible to adopt the BT kiosk in Broad Oak therefore it was decided that the second defibrillator would be sited beneath the notice board. Further training, in Llangathen Hall is to be arranged, Cllr. Jones would advise the clerk on dates in order to advertise this event. It was also resolved that stickers/notices should be placed on the defibrillators, advising the public on their ownership and who to contact if need be.
Cof. / Min. 17/53 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE
Roedd safle’r fainc yn y lleoliad hwn bellach wedi’i gytuno, a byddai’r Cynghorwyr yn trefnu i’w gosod yn fuan. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
The site of the bench at this location had now been agreed upon and Cllrs. will be arranging the positioning of same soon. To review at the next meeting.
Cof. / Min. 17/53 (4) DARPARIAETH PENSIWN Y CLERC / CLERKS PENSION PROVISION
Roedd y clerc wedi cysylltu â’r Rheoleiddiwr Pensiynau am gyngor ar y mater hwn. Dywedwyd wrthi am argraffu llythyr safonol, a chan nad oedd yr holl feini prawf wedi’u bodloni, na fyddai’n rhaid ymaelodi â’r cynllun. Llofnododd y Cadeirydd a’r Clerc, ill dau, y llythyr, a fyddai’n cael ei gadw ar ffeil.
The clerk had contacted The Pensions Regulator for advise on this matter. She was advised to print off a standard letter and as all the criteria had not been met, it was not necessary to become a member of a scheme. Both the chair and clerk signed the letter which would be kept on file.
Cof. / Min 17/53 (5) ARWYDDION/SIGNS, BANC-Y-DDERWEN, BROAD OAK.
Roedd yr arwydd bellach wedi’i osod. Diolchwyd i’r Cyng. E Morgan am drefnu hyn.
The sign is now in place. Cllr. E. Morgan was thanked for arranging this.
Cof./Min 17/53 (6) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.
Byddai’r Cyng. Sir Cefin Campbell yn siarad â’r Rheolwr Priffyrdd, Richard Waters o Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch y mater yn ymwneud â monitro cyflymdra’r traffig ar y safle hwn.
County Cllr. Cefin Campbell is to speak to Highways Manager, Richard Waters of CCC regarding the matter of monitoring the speed of traffic at this site.
Cof / Min 17/53 (7) DIWYGIO ARWYDDION CYFRIF BANC / AMENDMENT TO BANK ACCOUNT SIGNATURIES
Mae Banc Lloyds wedi cadarnhawyd bod y diwygiadau angenrheidiol wedi’u gwneud ac roedd y llofnodwyr yn unrhyw un o’r canlynol: Cyng. M. Williams, E. Morgan, M. Wynne, L. Hughes, A. Davies and B. Jones ar clerc, M. Rees.
Lloyds Bank confirmed that the necessary amendments have been made and signatories are any two of the following: Cllrs. M. Williams, E. Morgan, M. Wynne, L. Hughes, A. Davies and B. Jones and the clerk, M. Rees.
Cof/Min 17/53 (8) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC
Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â Mr Ceri Davies, Swyddog Cynllunio yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, am ddiweddariad ynghylch y sefyllfa o ran caniatâd cynllunio. Byddai’r Cyng. C Campbell hefyd yn siarad â Mr Davies.
The clerk was asked to contact Mr Ceri Davies, Planning Officer, CCC for an up date on the situation regarding planning permission. Cllr. C. Campbell would also speak to Mr Davies.
Cof/Min 17/53 (9) CARAVAN, CAE LLOI, DRYSLWYN
Roedd hysbysiad wedi dod i law gan Dylan Jones, Is-adran Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd yn dweud bod y safle, i bob golwg, wedi cael ei adael. Byddai camau pellach yn cael eu trafod â Ceri Davies, Cyngor Sir Caerfyrddin. I’w adolygu fis nesaf.
Notification had been received from Dylan Jones, Planning Division, CCC who advised that the site appears to have been abandoned. Further action would be discussed with Ceri Davies, CCC. To review next month.
Cof/Min 17/53 (10) TRAC LLAWR CALED / HARD STANDING TRACK NEAR RHYD YR AFON, BROAD OAK.
Gofynnwyd i’r Clerc gysylltu â Ceri Davies, Swyddog Cynllunio yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, i ofyn pryd y gellid disgwyl cael caniatâd cynllunio.
The clerk was asked to contact Ceri Davies, Planning Officer, CCC to establish when planning permission may be expected.
Cof/Min 17/43 (1)YURT AR DIR I’R GORLLEWIN O / YURT AT LAND TO THE WEST OF LLAWR-Y-NEUADD, LLANDEILO
Nid oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law gan y Cyngor. Cytunodd y Cyng. C Campbell a’r Cyng. E Morgan fynd ar drywydd y mater.
No information had been received from CCC. Cllr. C. Campbell and Cllr. E. Morgan agreed to follow up the matter.
17/65 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. Llangathen Village Hall – Donation – Llythyr o ddiolch / Thank you letter.
2. HM Revenue & Customs – VAT 126 claim changes
3. Wales Air Ambulance – Llythyr o ddiolch / Thank you letter
4. Ysgol Gynradd Gymunedol Cwrt Henri Community Primary School – Llythyr o ddiolch / Thank you letter
5. Un Llais Cymru – Diolch am aelodaeth / membership acknowledgement / manylion cyswllt / contact details
– Cofnodion cyfarfod / minutes meeting 27/2/18 – Agenda 9/5/18
6. Cylch Meithrin Cwrt Henri – llythyr o ddiolch / thank you letter
7. Hywel Dda – Trawsnewid ein gwasanaeth iechyd / Our big NHS change. Holiadur wedi cwbwlhau / Questionnaire was completed.
8. Hywel Dda – Digwyddiadau Galw Heibio / Drop in Events
9. Zurich Municipa – Quote request
10. Elan City – The Evolis Radar Speed Sign
11. Urdd – Gwahodd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru i Sir Gaerfyrddin 2021 / Inviting Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru to Carmarthenshire 2021 – cyfarfod / meeting 25/6/18
12. Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd Young Farmers Club – llythyr o ddiolch / thank you letter
13. CSG / CCC – Hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad / Code of Conduct Training. Cyng/Cllrs. A. Davies, B. Jones and E. Rees i fynychu /to attend.
14. CSG / CCC – Manylion taliad praesept / precept remittance advice – £2400
Brochures / Circulars
1. Wicksteed 2. Glasdon 3. Cleks & Council Direct 4. Play for Wales 5. Hags
Requests for Financial Assistance
1. Bobath
e-mail correspondence
tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Came & Company Local Council Insurance (part of the Stackhouse Poland Group) are delighted to announce its sponsorship of ‘One Voice Wales’ / Mae Came & Company Local Council Insurance (rhan o Grwp Stackhouse Poland) yn falch o gyhoeddi eu nawdd i ‘Un…
* Papur Gwyrdd ‘Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl’ / Green Paper ‘Strengthening Local Government: Delivering for People’
* Fields in Trust – Active Spaces Grants Programme
* Joint One Voice Wales/SLCC Conference 16th May 2018 / Cynhadledd ar y Cyd Un Llais Cymru / SLCC 16 Mai 2018
* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion Mawrth 2018 / March 2018 News Bulletin
* Betsi Cadwaladr Stakeholder Reference Group Meeting – 19th January 2018 / Cyfarfod Grwp Cyfeiriol Budd-ddeiliaid Betsi Cadwaladr – 19 Ionawr 2018
* One Voice Wales Response to the Community and Town Council Review / Ymateb Un Llais Cymru i Adolygiad y Cyngor Cymuned a Thref
* The Importance of External Audit – A message from Deryck Evans Wales Audit Office / Pwysigrwydd Archwiliad Allanol – Neges gan Deryck Evans Swyddfa Archwilio Cymru
* Report from Age Cymru entitled ‘Showcasing tackling loneliness’
* One Voice Wales Innovative Practice National Awards 2018 Winners, Highly Commended and Commended Councils / Gwobrau Arfer Arloesol Cenedlaethol Un Llais Cymru 2018 – Enillwyr, Cynghorau Cymeradwy Iawn a Chymeradwy
* Vacancy – Up to 10 Brexit Interns / Swydd Wag – Hyd at 10 o Interniaid Brexit
* Atlantic School For Young Leaders
* Update on GDPR and Data Protection Bill – y clerc i cysylltu gyda / the clerk to contact Un Llais Cymru.
* For Information / Er Gwybodaeth Fwd: Further update on GDPR and Data Protection Bill
* People facing language and communication barriers need more support to help access public services/angen mwy o gymorth ar bobl sy’n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i’w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus
* Interested in a professional qualification in Facilities Management? / Diddordeb mewn cymhwyster proffesiynol Rheoli Cyfleusterau?
* Data Protection Fees / Ffioedd Diogelu Data
* Adolygiad CTC Review – “galw heibio” genedlaethol ar draws Cymru / “pop-in” sessions across Wales
* Ymateb Un Llais Cymru i Adolygiad y Cyngor Cymuned a Thref /One Voice Wales Response to the Community and Town Council Review
* One Voice Wales’ Innovative Practice Conference 4 July 2018 – Hafod a Hendre, Royal Welsh Showground / Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru 4 Gorffennaf 2018 – Hafod a Hendre, Maes y Sioe Amaethyddol
* Vacancy – Business Support x2 / Swydd Wag – Cymorth Busnes x2
* WANTED pls: Your ideas for photo locations of the Wales Coast Path
* New One Voice Wales Development Officer covering Mid and West Wales / Swyddog Datblygu newydd Un Llais Cymru ar gyfer y Canolbarth a’r Gorllewin
* A Guide to One Voice Wales Services / Arweiniad Gwasanaethau Un Llais Cymru **** c
* Natural Resources Bulletin – Issue 28 – May 2018
* Wales Audit Office Good Practice Exchange Forward Programme 2018/19 Rhaglen Blaenorol Gyfnewidfa Arfer Da 2018/19 Swyddfa Archwilio Cymru
wendi.patience@onevoicewales.org.uk
* DONT MISS OUT – UNDERSTANDING THE LAW TRAINING – AMMANFORD – THURSDAY 12TH APRIL – 6.30-9.00 / PEIDIWCH A CHOLLI ALLAN – HYFFORDDIANT DEALLTWRIAETH O’R GYFRAITH – RHYDAMAN – DYDD IAU 12FED
* MAKING EFFECTIVE GRANT APPLICATIONS TRAINING – ABERYSTWYTH – WEDNESDA 18TH APRIL – 6.30-9.00 / PEIDIWCH A CHOLLI ALLAN – HYFFORDDIANT GWNEUD CEISIADAU GRANT EFFEITHIOL – ABERYSTWYTH – DYDD MERCHER 18EG EBRILL – 6.30-9.00
* CARMARTHEN TRAINING / HYFFORDDIANT CAERFYRDDIN
* Don’t Miss out on – Introduction to Community Engagement Training – Carmarthen – Tuesday 8th May – 6.30-9.00 / Peidiwch â cholli allan ar – Hyfforddiant Cyflwyniad i Ymgysylltiad Cymunedol – Caerfyrddin – Dydd Mawrth 8fed Mai – 6.30-9.00
* Hywel Dda – Drop in Events/ Digwyddiadau Galw Heibio
* Llywodraeth Cymru Swyddi Gwag Penodiadau Cyhoeddus / Welsh Government Public Appointment Vacancies
* A picture of primary care in wales / Darlun o ofal sylfaenol yng nghymru
* 2018-19 National Pay Agreement – I Weithredu: Cytundeb Cyflog Cenedlaethol 2018-19
* TRAINING RUNNING – SPACES AVAILABLE – MODULE 17 – MAKING EFFECTIVE GRANT APPLICATION TRAINING – AMMANFORD – THURSDAY 17TH MAY – 6.30-9.00 / HYFFORDDIANT YN RHEDEG – LLEOEDD AR GAEL – MODIWL 17 – GWNEUD CEISIADAU GRANT EFFEITHIOL – RHYDAMAN – DYDD IAU 1…
* CODE OF CONDUCT TRAINING – CARMARTHEN – TUESDAY 22ND MAY – 6.30-9.00 / HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD – CAERFYRDDIN – DYDD MAWRTH 22AIN MAI – 6.30-9.00
LlinEvans@carmarthenshire.gov.uk
* Ymgynghoriad / Consultation Llinos Evans (Policy)
Licensing Act 2003.
Review of Licensing Policy Cumulative Impact Policy
Lammas Street, Carmarthen
Gambling Act 2005.
Review of Gambling Policy Consultation Document – forwarded to all Councillors.
* Adolygiad CTC Review – “galw heibio” genedlaethol ar draws Cymru / “pop-in” sessions across Wales
* Invitation to a Stakeholder Reference Group Workshop / Gwahoddiad i Weithdy Grwp Cyfeirio Rhanddeiliad *
* Public Health Network Cymru Sustainability Showcase
events@westminster-briefing.com Complying with the General Data Protection Regulation | Local Government Briefing | 12th June Westminster Briefing e-mail 28/3/18
surveys@webhost.snapsurveys.com
* Wales Audit Office survey of all Welsh town and community councils / Arolwg Swyddfa Archwilio Cymru o holl gynghorau tref a chymuned Cymru Wales Audit Office
Sovereign Contact Information on behalf of Ashlea Leggett
WelshGovernment@public.govdelivery.com
Natural Resources Bulletin – Issue 27 – April 2018 Welsh Government
Speeding statistics show… TWM Traffic on behalf of Libbie – TWM Traffic [info@twmtraffic.com] *** information forwarded to Councillors
April Newsletter/Cylchlythyr Ebrill – Review CTC Adolygiad
MMurray@carmarthenshire.gov.uk
Rights of Way initiative Martin Murray – y clerc i cysylltu gyda Mr Murray i ofyn am mapiau / the clerk to contact Mr Murray and request maps.
17/66 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Ystafell Ddarllen/Reading Room Cwrt Henri
Llogi Neuadd / Hire of Hall (hyfforddi /training defibrillator) 15.00
CSG / CCC – Taliadau etholiad /Elections Charge 2017 310.55
Trywydd
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation 33.84
M. Rees – Cyflog Mis Mai / May Salary 266.66
M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 121.03
D Morris (archwilydd / auditor) 200.00
BHIB (yswriant / insurance) 374.01
17/67 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau: / The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD / APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
E/37205 Roof Repairs to Ninfarium Gutters Aberglasney
Aberglasney Restoration Gardens, Llangathen Trust – Joseph Atkin SA32 8QH
Dim gwrthwynebiadau No objections
17/68 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn awyddus i gael barn Cynghorau Sir a Chymuned ynghylch y cynnig i adleoli’r cyfleusterau Damweiniau ac Achosion Brys. Roedd cynnig ar gyfer ysbyty newydd, a fyddai’n cynnwys Uned Damweiniau ac Achosion Brys, yn ardal Hendy-gwyn ar Daf, wedi cael ei gyflwyno. Awgrymodd y Cyng. Campbell y dylai aelodau’r cyngor fynegi eu barn.
Yn dilyn cyfarfod y Cyng. Campbell ag Ed Hunt o BT, canfuwyd bod 85% o Sir Gaerfyrddin yn manteisio ar gysylltiad Band Eang Cyflym Iawn ar y pryd. Roedd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i ymdrin â’r “mannau di-gyswllt”, a byddai’r gwaith mewn perthynas â hynny yn cael ei roi ar dendr. Fodd bynnag, roedd BT wedi dweud y gallai ymdrin â 95% o’r dasg honno ymhen 2-3 blynedd.
Byddai canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Cymunedau a Materion Gwledig ar gael ym mis Medi, pan fyddai gwahoddiadau yn cael eu hanfon i Gynghorau Cymuned i fod yn bresennol yng Nghanolfan yr Halliwell, Caerfyrddin.
Dywedodd y Cyng. Campbell wrth yr aelodau ei fod wedi enwebu’r Cyng. Mansel Charles yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd y llwybr beicio a gychwynnai yn Abergwili yn mynd rhagddo’n dda, a hynny er gwaethaf ambell rwystr, a fyddai, yn anffodus, yn oedi’r gwaith o’i gwblhau.
Hywel Dda Health Board are eager to gain the opinions of County and Community Councils regarding the proposed re-location of Accident and Emergency facilities. A proposal for a new hospital, incorporating A&E in the Whitland area has been put forward. Cllr. Campbell suggested that members of the council put forward their own opinions.
Following Cllr. Campbell’s meeting with Ed Hunt of BT it was established that 85% of Carmarthenshire was currently receiving Super Fast Broadband. Funds were being made available by Welsh Government to deal with the “not spots” and the work for this was to be put out on tender. BT, however, have said that they could deal with 95% of this task in 2 – 3 years.
The results of the Communities and Rural Affairs consultation will be made available in September when invites will go out to Community Councils to attend the Haliwell Centre, Carmarthen.
Cllr. Campbell informed members that he had nominated Cllr. Mansel Charles as chair to Carmarthenshire County Council.
The cycle track commencing in Abergwili was progressing despite a few hold ups which would unfortunately delay its completion.
17/69 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Roedd trigolion lleol wedi ysgrifennu ynghylch y bolardiau concrit ar faes y pentref yn Nerwen-fawr. Roeddent wedi cael eu difrodi, ac yn creu perygl, yn ogystal ag edrych yn anniben. Cytunodd y Cyng. Campbell i godi’r mater gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Local residents had written concerning the concrete bollards on the green in Broad Oak. They were damaged and posed a hazard as well as being unsightly. Cllr. Campbell agreed to take the matter up with CCC.
2. Dosbarthwyd llyfrynnau Cod Ymddygiad i’r Cynghorwyr. Byddai noson hyfforddi ar y Cod Ymddygiad yn cael ei chynnal ar 14/6/18. Byddai’r clerc yn gofyn i’r Cynghorwyr A Davies, B Jones ac E Rees gynnal yr hyfforddiant hwnnw.
Code of Conduct brochures were handed out to Councillors. There will be a training evening on the Code of Conduct – 14/6/18. The clerk to book in Cllrs. A. Davies, B. Jones and E. Rees.
3. Byddai’r clerc yn trefnu i gardiau llongyfarch gael eu hanfon ymlaen at y Cynghorydd Sir Mansel Charles ar gael ei benodi’n Gadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac i Mr a Mrs Bryan Jones, Cottage Inn, Pentrefelin, ar gael eu henwebu’n dafarn orau Cymru, a’r drydedd orau yn y Deyrnas Unedig.
The clerk to arrange for congratulatory cards to be forwarded to County Councillor Mansel Charles on his new position as chair to CCC and also to Mr and Mrs Bryan Jones, Cottage Inn, Pentrefelin on being nominated the best Public House in Wales and third in the UK.
4. Roedd parcio yn dod yn broblem yn ardal Derwen-fawr. Dywedodd y Cyng. Campbell y byddai’n mynd ar drywydd hyn.
Parking was becoming an issue in the Broad Oak vicinity. Cllr. Campbell will follow this up.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting together with the Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 17th July 2018 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….