AGM – 18.5.21

CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth  Mai 18, 2021.  Cyfarfod “virtual” yn defnyddio’r fformat “Zoom”.

Minutes of the Annual Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 18th May 2021. A virtual meeting using the format “Zoom” system .

Presennol / Present:  Cyng/Cllrs.: B. Jones (chair) A. Davies, C. Moses, E. Morgan, M. Williams, L. Hughes and E. Rees.

Hefyd yn presennol / In attendance  Mrs M.Rees (clerc / clerk

21/01  YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  / Apologies for absence were received from  Cyng. / Cllr. Cefin Campbell.

21/02 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST

Dros y flwyddyn flaenorol (Tachwedd 2020 – Mai 2021) cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol:  

Datganodd y Cyng. A. Davies ddiddordeb yn eitem 20/54 (2) yn Gohebiaeth ac eitem 20/55 (7) Cyfrifon i’w Talu. 

Over the previous year (November 2020 – May 2021) the following declaration of interest was registered:  

Cllr. A. Davies declared an interest in item 20/54 (2)  in correspondence and item 20/55 (7) Accounts for payment.

Cyfarfod mis Mai  2021/ May 2021 meeting

Cyng / Cllr A. Davies – eitem agenda / agenda item 6 – rhif cofnodion/minute reference 20/54 (2) a / and 20/55 (7) Donation to Royal British Legion / in memory of D T Davies OBE MM

21/03 COFNODION / MINUTES

Cynigiwyd gan Cyng. C. Moses ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y Cyfarfod  Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2020 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.

It was proposed by Cllr. C. Moses  and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the Annual Meeting held on 17th November 2020 be accepted as a correct record of the proceedings.

21/04  DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS

Roedd copïau o’r cyfrifon wedi cael ei danfon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.  Roedd y rhain wedi’u harchwilio gan Mr D. G. Morris. Yn dilyn trafodaeth am y cyfrifon, cynigiodd y  Cyng. E. Morgan, ac eiliwyd gan y Cyng. C. Moses y dylid derbyn bod y datganiad o gyfrifon yn gywir.  

Copies of the accounts had been forwarded to Cllrs  for the year ended 31st March 2021.  These had been audited by Mr D.G.Morris.  Following a discussion regarding the accounts, it was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. C. Moses that the statement of accounts be accepted as correct.  

21/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT

Trafodwyd yr Asesiad Risg a chytunwyd yn unfrydol y dylai pob cofnod barhau heb unrhyw ddiwygiad.  

The Risk Assessment was discussed and it was unanimously agreed that all entries should remain with no amendments.  

21/06 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT

Darllenwyd yn uchel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac fe’i trafodwyd gan yr aelodau. Cynigiwyd gan y Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan y Cyng. M. Wynne y dylai gael ei gymeradwyo gan y cyngor.

The Annual Governance Statement was read out and discussed by members. It was proposed by Cllr. E. Rees and seconded by Cllr. B. Jones that it be approved by the council.

21/07 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL / APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR

Penderfynwyd y dylid parhau i ymgymryd â gwasanaethau’r archwilydd mewnol, sef Mr D Morris. Gan fod Mr Morris wedi cytuno’n ffurfiol i’r rôl hon ym mis Tachwedd 2020 (o ganlyniad i COVID-19), penderfynwyd mai’r peth gorau fyddai gofyn i Mr Morris gytuno’n swyddogol i’r rôl unwaith eto er mwyn i’r cyngor fod ‘nôl ar y llwybr cywir ar gyfer cael cytundebau blynyddol.  Y clerc i ysgrifennu at Mr Morris.

It was resolved that the services of the internal auditor Mr D Morris be continued.  As Mr Morris had formally agreed to this role in November 2020 (due to COVID 19) it was deemed best to ask Mr Morris again for his official agreement to the role so that the council would be back on track to receiving annual agreements. The clerk to write to Mr Morris. 

21/08    PENODI CLERC/SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL  /   APPOINT CLERK / RESPONSIBLE FINANCIAL OFFICER

Cytunwyd yn unfrydol i ailbenodi M. Rees yn Glerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol

It was unanimously agreed to re-appoint M. Rees as Clerk/RFO

21/09  AMODAU GWAITH Y CLERC  /  CLERKS WORKING CONDITIONS

Trafododd bawb y dogfennau canlynol:       

The following documents were discussed by all:

Contract Gwaith y Clerc              Y Swydd-ddisgrifiad                              Graddau Cyflog

Y Polisi Cwyn Gyflogaeth         Y Polisi Gwerthuso

Clerks Work Contract              Job Description                                     Pay Scales

Grievance Policy                     Appraisal Policy

Gan fod angen cael cyngor ar rai o’r eitemau hyn, cytunwyd yn unfrydol y dylai’r Cynghorwyr canlynol wneud trefniadau i gael yr wybodaeth briodol a chytuno arni gyda’r clerc: 

y Cyng. B. Jones, y Cyng. A Davies a’r Cyng. E. Rees

Ar yr adeg hon, diolchwyd i’r clerc am ei gwaith ac, yn gyfnewid am hyn, cynigiodd y clerc ei gwerthfawrogiad o’r cymorth yr oedd pob Cynghorydd yn ei roi iddi. 

As advice was needed on some of these items, it was unanimously agreed that the following Councillors make arrangements to obtain the appropriate information and agree with the clerk:

Cllr. B. Jones, Cllr. A Davies and Cllr. E. Rees

At this point the clerk was thanked for her work and in return the clerk offered her appreciation to the support every Councillor offered her.

21/09 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRMAN

Cynigiodd y Cyng. M. Williams y dylai’r Cyng. B. Jones gael ei ailethol yn gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021-2022 i ddod, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. E. Morgan. Derbyniodd y Cyng. B. Jones y swydd yn briodol. Ar yr adeg hon diolchwyd o galon i’r Cyng. Jones am ei rôl o fod yn gadeirydd, a oedd eisoes wedi cael ei hymestyn o ganlyniad i COVID-19. 

It was proposed by Cllr. M. Williams and seconded by Cllr. E. Morgan that Cllr. B. Jones be re-elected as chairperson  for the coming 2021 / 2022 year.  Cllr. B. Jones duly accepted this position.  At this point Cllr. Jones was sincerely thanked for her role as chair which had already been extended due to COVID 19. 

21/09 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR 

Cynigiwyd gan y Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan y Cyng. B. Jones  bod y Cyng. E. Rees yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd.  Derbyniodd Cyng. E. Rees y swydd a diolchodd i’r aelodau.

It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. B. Jones that Cllr. E. Rees be appointed as Vice Chairman.  Cllr. E. Rees accepted the post and thanked members.

21/10 AELODAETH / MEMBERSHIP AFFILIATION

Cynigiwyd gan y Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan y Cyng. L. Hughes y dylai’r pwyllgor barhau â’i aelodaeth o Un Llais Cymru ac hefyd SLCC (Society of Local Council Clerks) mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.  

It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. L. Hughes to continue affiliation to Un Llais Cymru and SLCC (Society for Local Council Clerks) and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.

21/11  PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES

i.  Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room  –  Cyng. / Cllr. M. Williams

ii. Un Llais Cymru – Cyng. / Cllr. B. Jones a/and Cyng / Cllrs E. Rees

iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng / Cllr. B. Jones

iv.  Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING

Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 17 Mai 2022.

It was resolved that the next Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday, 17th May 2022.

Llofnod / Signed…………………………….

Dyddiad / Date………………………………….