Cofnodion Gorffennaf 2022 July Minutes

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 19 Gorffennaf 2022, yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.

Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 19th July 2022, in The Reading Room, Court Henry.

Presennol / Present: Cyng. Cllrs : E. Rees (Cadeirydd/Chair) B. Jones, Ann Davies,  E. Morgan, and C. Moses.

Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) .

22/01 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  Cyng / Cllrs L. Hughes, A. Davies a / and Cyng. Sir / County Cllr H. Jones.

22/02  DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.  There were no declarations of interest.

22/03 COFNODION / MINUTES 

Cynigiwyd gan Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan Cyng. Ann Davies  fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 17 Mai 2022 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.

It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. Ann Davies that the minutes of the meeting held on Tuesday, 17th May 2022 be accepted as a correct record of proceedings.

22/04  MATERION YN CODI  MATTERS ARISING

Cof/Min 21/68 (1)  A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN /  BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40

Roedd y cynghorwyr yn dymuno cael gwybodaeth am ddata cyflymder gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar gamau pellach.

Councillors were wanting to receive information regarding speed data from Welsh Government before deciding on further action.

Cof/Min 21/68 (2)  ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN

I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.  To be reviewed in the next meeting.

Cof/Min 21/68 (5) SBWRIEL / LITTER

Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater a gofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa.

The clerk was asked to follow up the matter and ask for an update on the situation.

Cof/Min 21/68 (6)  FELINDRE, GOLEUADAU STRYD / STREET LIGHTING

Roedd y bwlb watedd is y gofynnwyd amdano wedi cael ei newid.

The requested lower wattage bulb has been replaced.

Cof/Min 21/68 (7) LLWYBR BYSIAU YSGOL / SCHOOL BUS ROUTES DERWEN FAWR / BROAD OAK 

Yn dilyn ateb gan CSC, ni fyddai’r llwybr bysiau yn yr ardal hon yn newid.

Following a reply from CCC, the bus route in this area will remain unchanged

Cof/Min 21/68 (9)  BRYNDEWI ,BROAD OAK

Gofynnwyd i’r clerc wneud cais am ddiweddariad gan CSC ynghylch y mannau parcio yn y lleoliad hwn.  

The clerk was asked to request an update from CCC regarding the parking spaces at this location.  

Cof/Min 21/68 (10) DATHLIADAU JIWBILÎ PLATINWM Y FRENHINES / QUEENS PLATINUM JUBILEE CELEBRATIONS

Mynegodd y ddwy neuadd, Cwrt-henri a Llangathen, ddiddordeb mewn cael £70 i blannu coeden/llwyn/bylbiau yng nghyffiniau’r neuaddau. Sieciau i’w hanfon ymlaen i’r pwyllgorau perthnasol.

Both halls, Court Henry and Llangathen  expressed an interest in receiving £70 to plant a tree/shrub/bulbs within the vicinity of the halls.  Cheques to be forwarded to the relevant committees.

Cof/Min 21/68 (11) LLANGATHEN –  LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER 

Byddai’r mater yn cael ei adolygu yn yr hydref.

The matter will be reviewed in the Autumn.

Cof / Min 21/75 (4) MAES PARCIO CASTELL DRYSLWYN CASTLE CAR PARK

Roedd Ystad Gelli Aur Cyfyngedig wedi bod yn monitro’r cerbydau a oedd yn parcio dros nos ym Maes Parcio Castell Drylswyn. Byddai’n parhau i fonitro’r sefyllfa, a hefyd yn darparu arwyddion addas a fyddai, gobeithio, yn annog pobl i beidio â pharcio yno dros nos.

Golden Grove Estate Limited have been monitoring the overnight parking at Drylswyn Castle Car Park.  They will continue to monitor the situation and will also be providing suitable signage that will hopefully discourage overnight parking.

Cof/Min 21/68 (5) CYFYNGIADAU CYFLYMDER / SPEED RESTRICTIONS – FELINDRE

Roedd cais i ostwng y cyfyngiad cyflymder yn Felindre, Dryslwyn wedi cael ei drosglwyddo i Adran Rheoli Traffig CSC. Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater.

The request to reduce the speed limit in Felindre, Dryslwyn has been passed on to CCC, Traffic Management Department.  The clerk was asked to follow up the matter.

Cof/Min 21/68 (6) CONCEALED ENTRANCE – CAEAUNEWYDD, DRYSLWYN

Roedd cais i gyflenwi “Mynedfa Gudd” wedi’i anfon ymlaen i Adran Rheoli Traffig CSC. Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater.

The request to supply a “Concealed Entrance” has been forwarded to CCC, Traffic Management Department.  The clerk was asked to follow up the matter.

Cof/Min 21/68 (7) YSGOL CWRT HENRI SCHOOL – TRAFFIC CALMING MEASURES

Y clerc i ysgrifennu at CSC ynghylch mesurau tawelu traffig y tu allan i ysgol Court Henry

The clerk to write to CCC regarding traffic calming measures outside Court Henry school

Cof/Min 21/68 (8) MAP PLWYF / PARISH MAP

Roedd y clerc wedi darparu map o’r plwyf. Fodd bynnag, nid oedd yn un clir iawn, a byddai’r Cyng. E. Morgan yn mynd ati i chwilio am fersiwn fwy eglur.

The clerk had provided a map of the parish.  However, this was not very clear and Cllr. E. Morgan would look into providing a clearer version.

22/05    GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE

Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:

The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:

Un Llais Cymru / One Voice Wales

* Ceisiadau YN AGOR! / Applications NOW OPEN! www.heritagefund.org.uk/funding   

* JUNE TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT Mis Mehefin – to Cllrs 11/6

* Camau Cynaliadwy Cymru: Grantiau Gweithredu / Sustainable Steps Wales: Action Grants

* Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 / Revised Carmarthenshire Local Development Plan (LDP) 2018-2033

* JULY TRAINING DATES / ATGOFFA – DYDDIADAU HYFFORDDIANT MIS GORFFENNAF

* Vacant Position – Clerk/RFO – Glynneath Town Council / CYNGOR CYMUNED TALYLLYCHAU / TALLEY COMMUNITY COUNCIL / Clerk role Llanllawddog

* Canllaw Cynghorwyr Da / The Good Councillors Guide

* Call out for good practice/examples in response to global warming and climate change / Galwad am arfer da/enghreifftiau wrth ymateb i gynhesu byd-eang a newid hinsawdd

* Lunio Dyfodol Cymru | Shaping Wales’ Future

* The Finance and Governance Toolkit for Community and Town Councils / Y Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref 

* Cronfa Perchnogaeth Gymunedol – Community Ownership Fund

* CAVS – Community Halls Funding Opportunities 

* Ymgynghoriad Treth Gyngor Decach / A Fairer Council Tax Consultation

* Ynghylch : Cau Ffordd Dros Dro / Temporary Road Closure – U4001 Heol Pantyblodau, Capel Isaac,(SA19 7TL)  – 31/8/22 – 2 diwrnod/ 2 days

CSG/CCC

* Cronfa Ffyniant Cyffredin – Shared Prosperity Fund -Llinos Evans (Policy)

* Community Disabled Transport Scheme Carmarthenshire – Susan Smith 

* Cronfa Perchnogaeth Gymunedol – Community Ownership Fund – Llinos Evans (Policy)

* CAU FFORDD DROS DRO – YR U4039 PONTMYDDFAI, LLANDEILO/TEMPORARY ROAD CLOSURE FS-CASE-434595753 – Temporary Road Closure 21/9/22 – 2 diwrnod/2 days

* EMERGENCY ROAD CLOSURE – U4044 MOUNT ROAD, LLANGATHEN – (OneNetwork129644532)

* Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gar (CDLI) Revised Carmarthenshire Local Development Plan (LDP) 2018 – 2033

* Keep Wales Safe / Help Us Help You – Next Phase – Golley Slater

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Cynghorau Cymuned a Thref – profforma ar gyfer y datganiad taliadau – Independent Remuneration Panel for Wales – Community & Town Councils – statement of payment proforma * Grass cutting and general maintenance – A Jones ASJ Maintenance – 07852935661

* Clerks & Councils Direct   * Glasdon   * The Clerk SLCC

22/06  CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE

Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:

The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:

                                                                                    £

Trywydd – Cyfieithu/Translation                               41.26

(Mawrth/March)

Trywydd – Cyfieithu/Translation

Mai/May)                                                                  62.86

Cyflog y Clerc / Clerks Salary 

Gorfennaf/July                                                           231.56  

Awst/August                                                              231.56

Costau’r Clerc / Clerks Expenses                                81.83

Un Llais Cymru/One Voice Wales

aelodaeth / membership                                               84.00

Neuadd Llangathen Hall – rhodd/ donation                70.00

Ystafell Ddarllen / Reading Room 

Cwrt Henri – rhodd / donation                                      70.00

Lloyds Bank – Mai / May – £6774.85  Mehefin / June – 6152.39

 Cais am ad-daliad TAW wedi’i gyflwyno/cydnabod  / Claim for VAT refund submitted and acknowledged – £376.01

22/07 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS

Decisions made by CCC on planning applications:

Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:

PL/02915 – Llygad yr Haul, Capel Isaac, Llandeilo. SA19 7UB -Estyniad arfaethedig ystafell wely ar y llawr cyntaf yn y cefn ac estyniad arfaethedig ystafell haul ar y llawr gwaelod yn y cefn /Proposed rear first floor bedroom extension and rear ground floor sun room extension – TYNNWYD YN ÔL /WITHDRAWN

PL/02714 – Creu estyniad i’r ystafell de bresennol yn lle’r pebyll presennol, toiled newydd, ty gwydr newydd / Creation and extension to existing tea room to replace existing marquees, new WC, new  glasshouse – LISTED BUILDING GRANTED 

PL/02691 – Creu estyniad i’r ystafell de bresennol yn lle’r pebyll presennol, toiled newydd, ty gwydr newydd / Creation and extension to existing tea room to replace existing marquees, new WC, new  glasshouse – CANIATÂD LLAWN/FULL GRANTED

22/08   DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR   

Ar ôl cael manylion gan Phil Hill, Un Llais Cymru, ynghylch diffibrilwyr newydd, awgrymwyd bod y clerc yn siarad â Mr Hill ac yn darparu gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf.

Cadarnhawyd bod y diffibrilwyr cyfredol i gyd yn gweithio.

Having received details from Phil Hill, OVW, regarding new defibrillators, it was suggested that the clerk speaks to Mr Hill and to provide information at the next meeting.

The existing defibrillators were confirmed to be in working order.

22/09 TALIADAU I AELODAU CYNGOR CYMUNED / PAYMENTS TO MEMBERS OF COMMUNITY COUNCIL

Penderfynodd pob aelod a oedd yn bresennol optio allan o gael taliadau, ac, yn briodol, llofnodwyd y ffurflenni perthnasol ganddynt.  

Byddai’r clerc yn trefnu i’r datganiad blynyddol ar gyfer 2021-2022 gael ei anfon at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Roedd yn rhaid cyhoeddi’r ffurflen, nad oedd yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaethau, ar y wefan hefyd.

All members present made the decision to opt out of receiving payments and duly signed the relevant forms.  

The clerk to arrange for the annual return for 2021 / 2022 to be forwarded to Remuneration Panel for Wales.  The return, which was for nil payments, must also be published on the website.

22/10 CYNLLUN HYFFORDDI / TRAINING PLAN

Yn unol â’r rheoliadau newydd, trafodwyd Cynllun Hyfforddi gan bawb. Byddai’r clerc yn llunio cynllun i’w gymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.

In line with new regulations, a Training Plan was discussed by all.  The clerk to draft details of a plan for approval in the next meeting.

Roedd y clerc wedi dilyn Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar 4/7/22.

The clerk had attended  Code of Conduct Training on 4/7/22

22/11 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS

1. Gofynnwyd i’r clerc anfon llythyr o werthfawrogiad at y Cyn-gynghorydd Mark Williams.

    The clerk was requested to send a letter of appreciation to past Councillor, Mark Williams

2.  Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol i’w wahodd i gyfarfodydd y cyngor.

     The clerk was requested to contact the local PCSO and invite to council meetings.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING

Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ar 20 Medi 2022 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30yh.

It was resolved that the date for the next meeting of Llangathen Community Council will be held on 20th September 2022 in The Reading Room, Court Henry at 7.30pm.

                                    Llofnod / Signed…………………………….

                                    Dyddiad / Date………………………………….