Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 17 Ionawr 2023, Cyfarfod “virtual” yn defnyddio’r fformat “Zoom”.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 17th January 2023, a virtual meeting using the “Zoom” system .
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : C. Moses. (Cadeirydd/Acting Chair) Ann Davies, B. Jones and Anjuli Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Cyng/Cllr Hefin Jones and Mrs M.Rees (clerc / clerk).
22/37 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / appologies for absence from: Cyng / Cllrs. E. Rees, E. Morgan a/and L.Hughes.
22/38 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
22/39 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. Ann Davies ac eiliwyd gan Cyng. A. Davies fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 15 Tachwedd 2022 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. Ann Davies and seconded by Cllr. A. Davies that the minutes of the meeting held on Tuesday, 15th November 2022 be accepted as a correct record of proceedings.
22/40 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 22/26 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Bydd y Cyng. Hefin Jones yn rhoi gwybod pan fydd cyfarfod â Jonathan Edwards AS wedi ei drefnu.
Cllr. Hefin Jones will advise when a meeting with Jonathan Edwards MP has been agreed.
Cof/Min 22/26 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Adolygu dros y misoedd nesaf. To review over the coming months.
Cof/Min 22/26 (4) BRYNDEWI ,BROAD OAK
Y mater ynghylch parcio ym Mryndewi. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn mynd ar drywydd y mater.
The parking issue at Bryndewi. Cllr. Hefin Jones to pursue the matter.
1 BANCYDDERWEN, BROAD OAK
Y llwybr yn arwain i fyny at eiddo Bancydderwen. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn mynd ar drywydd y mater. The path leading up to the Bancydderwen properties. Cllr. Hefin Jones to pursue the matter.
Cof/Min 22/26 (5) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Er bod un draen wedi’i glirio roedd wedi ail-flocio ers hynny. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
Whilst one drain had been cleared it had since re-blocked. To review at the next meeting.
Cof/Min 22/26 (8) CASTELL DRYSLWYN CASTLE
Roedd CADW wedi cadarnhau bod y wal o amgylch y castell wedi’i harchwilio a’i bod ar restr ar gyfer gwaith atgyweirio. CADW confirmed that the wall surrounding the castle had been inspected and was on a list for repairs.
22/36 (1) STREET LIGHT, BROAD OAK
Dywedodd y clerc nad oedd y golau stryd, ger Old Forge, yn gweithio. Roedd CSC wedi cadarnhau cyn gynted ag y bydd y mynediad i’r gwaith wedi’i ddatrys, gall y gwaith atgyweirio ddigwydd.
The clerk reported the street light, near Old Forge, as not working. CCC confirmed that once the access to the workings were resolved then repairs may take place.
22/41 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
CCC
* Traffweb – Legislative Change – 30 mph – Restricted Road Reducing to 20 mph
– Newid Deddfwriaethol – Ffordd Gyfyngedig 30 mya yn gostwng i 20 mya
* Emergency Road Closure: U4042 Mount Road, Llangathen, SA32 8QD (one.network 132076795) *CAU FFORDD DROS DRO – YR U4039 PONTMYDDFAI, LLANDEILO/TEMPORARY ROAD CLOSURE FS-CASE-460033796 – (OneNetwork132061567)
* EMERGENCY ROAD CLOSURE – U4010 BROADK OAK (OneNetwork132002096)
* Cysgodfannau bysiau / Bus shelters
* Nadolig Llawen oddi wrth Arweinydd Cyngor Sir Gar/Merry Christmas from the Leader of Carmarthenshire County Council
* Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned – Community & Town Council Liaison Forum
* EMERGENCY ROAD CLOSURE: U4044 MOUNT ROAD, LLANGATHEN, SA32 8QD
* Cynllun Llesiant drafft – Draft Well-being Plan – ymgynghoriad yn cau / consultation to close 25/1/23
* Pared Gwyl Dewi / St David’s Parade – 4/3/23
* Bwletin CHTh | PCC Bulletin – Dyfed Powys Police
* Police funding consultation | Ymgynghoriad ariannu’r heddlu
Financial Assist
* YesCymru * Community Council Appeal 2022 – Apel Cyngor Cymuned 2022 * Wales Air Ambulance * CISS – Cancer Information & Support Services
Un Llais Cymru
* Christmas Greetings / Cyfarchion Nadolig
* Nodiadau Natur Sir Gaerfyrddin /Carmarthenshire Nature Notes and CNP Annual Report/Adroddiad ar Weithredu PNSG 2022
* JANUARY, FEBRUARY & MARCH 2023 TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT IONAWR, CHWEFROR A MAWRTH 2023
* Swydd Wag — Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant – Vacancy — Deputy Director Equality, Poverty and Children’s Evidence Division – Welsh Government.
* Newsletter – Older Peoples Commissioner for Wales / Cylchlythyr – Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
* Understanding the power of payroll savings schemes for employers and employees
* Distribution to TfW services this December and January – check before you travel – Bulletin
* Celebrate progress and innovation towards net zero at the Green Energy Awards 2023
* Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol / Electoral Administration and Reform White Paper
* Single-use Plastics Bill Infographic Material/Cynhyrchion Plastig Untro ffeithluniau
* Croeso i’n cylchlythyr Gaeaf / Welcome to our Winter newsletter
* Seaweed Farming Wales
* Assistance to get Town & County Council nominations for Carmarthenshire County Council School Admissions Forum
* Energy – support to vulnerable persons
* Dyfodol Cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth / The Future of Welsh Communities: call for evidence.
* Bullying and Harassment in Councils / Bwlio ac Aflonyddu mewn Cynghorau
*_Gofyn am eich pleidlais i Cricieth Creadigol/Request for your Vote for Creative Criccieth
* Launch of Amser third sector grant scheme and advert for independent assessors
* Public commemoration in Wales / Coffau Cyhoeddus yng Nghymru
* Democratic Engagement Grant / Y grant ymgysylltu a democratiaeth
* Make a positive start to 2023 with Regen’s Green Energy Awards
* Welsh Blood Service – Ivy Bush Hotel, Carmarthen – 3/1/23, 13/1/23, 21/2/23
* Gylchlythyr CIC diweddaraf Hywel Dda / the latest Hywel Dda CHC Newsletter
* Clerks & Councils Direct
22/42 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
CSG/CCC – Replacement of Lanterns to LED 688.06
Trywydd / Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation 44.71
SLCC Aelodaeth/Membership 101.00
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Ionawr / January 255.66
Chwefror / February 255.66
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 80.19
Ystafell Ddarllen / Reading Room – Cwrt Henri
Rhodd / Donation (Replacement cheque/original lost) 70.00
The clerk advised that £29 tax had been paid to HMRC
CSG /CCC Precept Remittance Advice – £2666.67 – 23/12/22
Lloyds Bank – Statement Tachwedd/ November 2022 – £6777.89 Rhagfyr/December 202 £8897.91
22/43 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following application was considered by the Council and their observations noted. The clerk to advise CCC accordingly.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
Cynllunio ôl-weithredol ar gyfer newid
defnydd un sied a hanner i ddefnydd
marchogol a chreu manège at ddefnydd
personol yn unig
PL/05095 Retrospective planning for the change of Broadlan Farm
use of one and a half sheds to equestrian Broad Oak
use and the creation of a menage for Carmarthen
personal use only SA32 8QS
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
PL/05198 Installation of 20 solar panels Penywaun
Gosod 20 o baneli solar Capel Isaac
Llandeilo
SA19 7UL
Consultation 29/12/22 – 19/1/23
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
Decisions made by CCC on planning applications:
PL/04899 – Dryslwyn Uchaf, Dryslwyn. Nid oedd angen caniatâd ymlaen llaw. Prior approval not required
PL/03912 – Bird’s Hill Farm, Llandeilo. SA19 6SH. Caniatawyd yn llawn. Full granted
22/44 DEFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y cais am ddiffibriliwr am ddim wedi bod yn llwyddiannus. Roedd angen gwneud trefniadau i brynu cabinet ar gyfer y diffibriliwr, penodi dau warcheidwad ar gyfer y diffibriliwr a chynnal sesiynau ymwybyddiaeth sgiliau CPR/diffibrilio. Byddai’r clerc yn trefnu hyn.
Welsh Government confirmed that the application for a free defibrillator had been successful. Arrangements are to be made for the purchase of a defibrillator cabinet, the appointment of two defibrillator guardians and CPR/defibrillator skills awareness sessions. The clerk to arrange.
22/45 DADWARDIO PLWYF LLANGATHEN – Y GOGLEDD A’R DE /DE-WARDING LLANGATHEN PARISH – NORTH AND SOUTH
Byddai’r clerc ‘nawr yn anfon copi o’r cofnodion wedi’u llofnodi i’r Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil, ynghyd â chais i ddad-wardio plwyf Llangathen.
The clerk would now forward a copy of the signed minutes to Electoral Services and Civil Registration together with a request to de-Ward Llangathen parish.
22/46 SEDD GWAG AM SWYDD CYNGHORYDD / COUNCILLOR VACANCY
Ni chafwyd unrhyw geisiadau i lenwi’r sedd wag, ond roedd dau aelod o’r gymuned wedi mynegi peth diddordeb. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
No applications to fill the vacancy had been received however, two members of the community had expressed some interest. To review at the next meeting.
22/47 CLERK
Trafodwyd arfarniad y clerc, a byddai angen gwneud trefniadau gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd er mwyn cynnal yr arfarniad. Cadarnhaodd y clerc iddi fynd ar gwrs hyfforddi a drefnwyd gan Un Llais Cymru – Defnyddio TG, Gwefannau a’r Cyfryngau Cymdeithasol. Roedd hefyd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod/hyfforddiant ar-lein gan CSC ar y Fframwaith Cynllunio, gan gynnwys Adran 106.
The clerks appraisal was discussed and arrangements with the chair and vice chair to be made in order to carry out the appraisal. The clerk confirmed that she had attended a training course arranged by One Voice Wales – Use of IT, Websites & Social Media. She had also attended a CCC online meeting/training on the Planning Framework including Section 106.
22/48 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SÎR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Eglurodd y Cyng. Hefin Jones y gweithdrefnau newydd ar gyfer casglu deunyddiau ailgylchu, gan gynnwys y gwasanaeth casglu gwydr o 23 Ionawr 2023.
Roedd cymorth, cefnogaeth a chyngor arbenigol i helpu gyda chostau byw a materion eraill ar gael yn y canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin. Roedd Canolfannau Cynnes ar gael ledled y sir yn cynnig lluniaeth – roedd £230,000 wedi’i ddyrannu mewn grantiau.
Bydd seminar cynllunio – Cynllunio Un Blaned – ar gael yn fuan.
Rhoddodd y Cyng. Jones ychydig o fanylion am Bute Eenergy.
Trafodwyd y Dreth Gyngor a’r angen i’r sir ddod o hyd i £20 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd. Bydd yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb yn para tan 29 Ionawr.
Cllr. Hefin Jones advised on the new re-cycling collection procedures including the glass collection service from 23rdJanuary 2023.
Specialist help, support and advice to help with the cost of living and other matters is available at customer service Hwbs in Ammanford, Llanelli and Carmarthen. Warm Centres are available throughout the county offering refreshments – £230,000 has been allocated in grants.
A planning seminar – One Planet Planning – will be available soon.
Cllr Jones gave some details on BUTE Energy.
Council Tax was discussed and the need for the county to look for £20million in efficiencies . The Budget Consultation will run until 29th January.
22/49 AUDITOR GENERAL FOR WALES
Roedd cadarnhad wedi dod i law gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer archwilio’r Ffurflen Flynyddol ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben 31/3/21 a 31/3/22.
Roedd dau adroddiad diamod wedi’u rhoi heb unrhyw faterion a oedd yn peri pryder.
Confirmation from the Auditor General for Wales had been received for the audit of the Annual Return for years ended 31/3/21 and 31/3/22.
Two unqualified reports had been given with no matters of concern.
22/50 GOFYNIAD PRAESEPT / PRECEPT REQUIREMENT 2023 / 2024
Gofynnwyd am ofyniad praesept 2023/2024 gan Gyngor Sir Gâr.
Nid oedd manylion costau’r “Goleuadau Troedffordd” ar gyfer y flwyddyn ariannol uchod ar gael gan CSC, ond dywedwyd wrth y clerc y byddai’r costau’n debygol o ddyblu.
Roedd ad-daliad blynyddol y benthyciad (prosiect goleuadau LED cymunedol) yn cyfateb i £573.38 +
TAW dros gyfnod o wyth mlynedd.
Manylion am Derfyn Gwariant Adran 137 ar gyfer 2023/24 – sef £9.93 yr etholwr. Roedd tuag at 437 o etholwyr yn y plwyf.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor)(Cymru) 1995: y ffigur ar gyfer cymuned Llangathen 2023/24 oedd 261.32 – a godir ar gyfer eiddo Band D
Ymchwiliwyd i Incwm a Gwariant Gwirioneddol y flwyddyn flaenorol, ynghyd â’r gyllideb/gwariant hyd at 17/1/23.
Roedd pob maes gwariant wedi cael ei archwilio, a’r costau wedi cael eu hystyried.
Cytunwyd bod angen cynnydd yn y praesept yn bennaf oherwydd costau ynni cynyddol.
Penderfynwyd y byddai’r praesept gofynnol ar gyfer 2023-24 yn £9,000.
Byddai unrhyw brosiectau cymunedol nad oedd wedi’u cyfrif yn y praesept yn cael eu cynnwys yn y cronfeydd wrth gefn a oedd eisoes ar gael.
Trefnwyd i’r ffurflen gael ei harwyddo gan y clerc, fel y Swyddog Ariannol Cyfrifol a’r Cadeirydd dros dro a’i hanfon ymlaen i’r Adran Adnoddau, CSC.
The precept requirement for 2023 / 2024 was requested by Carmarthenshire County Council.
Details of “Footway Lighting” charges for the above financial year were unavailable from CCC but the clerk was advised that the charges could well double to that of the previous year. The annual loan repayment (community LED lighting project) equates to £573.38 + VAT over a eight year period.
Details of Section 137 Expenditure Limit for 2023/2024 – this being £9.93 per elector. There being approximately 437 electors within the parish.
The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base )(Wales) Regulations 1995, the figure for the Llangathen community 2023/2024 being 261.32 – levied for a Band D property.
Actual Income and Expenditure for the previous year was examined as was the budget / expenditure to 17/1/23.
All areas of expenditure were explored and costs considered. It was agreed that an increase in the precept was necessary mostly due to spiralling energy costs.
It was resolved that the precept requirement for 2023/2024 be £9,000.
Any community projects not accounted for in the precept would be covered by the reserves already available.
Arrangements were made for the form to be signed by the clerk, as the Responsible Financial Officer and acting Chair and to be forwarded to Resources Department, CCC
22/51 Y DDYLETSWYDD BIOAMRYWIAETH A CHYDNERTHEDD / THE BIODIVERSITY AND RESILIENCE OF ECOSYSTEMS DUTY
Roedd adroddiad ar gyfer 2022 wedi’i lunio a’i ddosbarthu i’r aelodau. Bydd yr adroddiad yn cael ei arddangos ar wefan y cyngor.
A report for 2022 had been drawn up and circulated to members. The report will be displayed on the council website.
22/52 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Argaeledd lorïau graeanu ar ffordd Derwen-fawr/Aberglasne/Gelli Aur. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn ymchwilio i’r mater. The availability of gritters on the Broad Oak/Aberglasney/Gelli Aur road. Cllr. Hefin Jones to investigate.
2. Cysgodfan fysiau – yr A40, ochr Derwen-fawr. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael nawdd. A bus shelter – A40, Broad Oak side. Cllr. Hefin Jones to look into the possibility of funding.
3. Adroddiadau am goed wedi cwympo sy’n pwyso ar geblau trydan. Ger Berllan/Gelli Aur a Derwen-fawr, ger cyffordd Hafod Neddyn. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn. Reports of fallen trees that are leaning on electric cables. Near Berllan/Gelli Aur and Broad Oak, near Hafod Neddyn junction. Clerk to report.
22/53 DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ar 21 March 2023 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30yh.
It was resolved that the date for the next meeting of Llangathen Community Council will be held on 21st March 2023 in The Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….