CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 17 Mai 2022, yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 17th May 2022, in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones ( Cadeirydd / Chair), Ann Davies, E. Morgan, C. Moses, L. Hughes, E. Rees a/and A. Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a/and Cyng. Sir/County Councillor H. Jones.
21/63 DATGANIAD DERBYN SWYDD / DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE
Yn dilyn etholiad mis Mai, dechreuodd y cyfarfod gyda’r holl Gynghorwyr yn llofnodi’r ffurflenni Datganiad Derbyn Swydd.
Following the May election, the meeting began with all Councillors signing the Declaration of Acceptance of Office forms.
21/64 CADIERYDD / CHAIR
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb, a mynegodd pa mor braf oedd gallu cwrdd wyneb yn wyneb eto. Diolchodd i’r clerc am drefnu’r cyfarfodydd o bell yn ystod pandemig COVID-19. Llongyfarchodd y Cynghorydd Sir Hefin Jones ar gael ei ethol yn Gynghorydd Sir dros Lanfihangel Aberbythych. Llongyfarchodd bawb hefyd yn dilyn etholiad mis Mai, ond mynegodd dristwch nad oedd Mark Williams wedi sefyll ar gyfer cael ei ailethol. Roedd Mark wedi bod yn aelod o’r cyngor cymuned oddi ar 2006, a byddai bwlch ar ei ôl. Roedd hyn ‘nawr yn gadael swydd wag yn y cyngor.
The Chair welcomed all and expressed how pleasing it was to be back meeting face to face. She thanked the clerk for arranging the remote meetings during the COVID 19 pandemic. She welcomed County Councillor Hefin Jones on being elected as the County Councillor for Llanfihangel Aberbythych. Congratulations was also given to all following the May election but was saddened that Mark Williams did not stand for re-election. Mark had been a member of the community council since 2006 and his absence would be missed. It now leaves a vacancy within the council.
21/ 65 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. There were no apologies for absence.
21/66 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. There were no declarations of interest.
21/67 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Rees ac eiliwyd gan Cyng. L. Hughes fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 15 Mawrth 2022 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Rees and seconded by Cllr. L. Hughes that the minutes of the meeting held on Tuesday, 15thMarch 2022 be accepted as a correct record of proceedings.
21/68 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 21/51 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Nid oedd unrhyw wybodaeth bellach ar gael gan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn aros am ddata cyflymder er mwyn asesu’r sefyllfa. Nodwyd bod gwiriadau cyflymder wedi cael eu cynnal yn ddiweddar. Rhoddodd Cynghorwyr wybod i’r Cyng. H. Jones am yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â’r pryderon ynghylch diogelwch ar hyd yr A40, a dywedodd yntau y byddai’n siarad â’r Cyng. Cefin Campbell.
No further information was available since Welsh Government advised they were awaiting speed data in order to assess the situation. It had been noted that speed checks had recently been carried out. Councillors advised Cllr. H. Jones of the circumstances surrounding the concerns regarding safety along the A40 and he in turn advised he would speak to Cllr. Cefin Campbell.
Cof/Min 21/56 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Nid oedd unrhyw waith adfer pellach wedi cael ei wneud i adeilad Cyfnewidfa BT. Cytunodd y Cynghorwyr i gynnal ymweliad safle er mwyn pennu pa waith yr oedd yn ofynnol ei wneud, ac i roi gwybod am y canfyddiadau i’r clerc, a fyddai wedyn yn adrodd ar y mater.
No further remedial works had been carried out on the BT Exchange building. The Councillors agreed to carry out a site visit in order to establish what work needed to be done and to report these findings to the clerk who in turn would report the matter.
Cof/Min 21/56 (3) ROAD FROM BROAD OAK TO CAPEL CROSS INN
Mae’r ardal hon ar restr cynnal a chadw CSG.
This area is on the CCC list for maintenance.
Cof/Min 21/56 (4) FELINDRE – TYLLAU / POT HOLES
Dywedwyd bod gwaith atgyweirio dros dro wedi cael ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i fonitro’r sefyllfa ac adrodd yn ôl pe byddai angen.
It was reported that temporary patching had taken place. Members agreed to monitor the situation and report back if need be.
Cof/Min 21/56 (5) SBWRIEL / LITTER
Roedd ymateb gan Swyddog Gorfodi’r Amgylchedd yn nodi bod yr ardal – Sgwâr Dryslwyn i Gastell Dryslwyn a Sgwâr Dryslwyn i Gwrt-henri – yn cael ei phatrolio’n rheolaidd ar gyfer troseddau baw cwn a sbwriel. Byddid yn ailymweld â’r ardal yn fuan i gael gwared ar arwyddion a oedd wedi pilio a gosod rhai newydd yn eu lle.
A response from the Environment Enforcement Officer advised that the area – Dryslwyn Square to Dryslwyn Castle and Dryslwyn Square to Court Henry – was being patrolled regularly for both dog fouling and litter offences. The area will be revisited soon to remove and replace peeling signs.
Cof/Min 21/56 (6) FELINDRE, GOLEUADAU STRYD / STREET LIGHTING
Roedd yn ymddangos nad oedd y bwlb yn y lleoliad hwn wedi cael ei newid am fwlb watedd is. Byddai’r clerc yn mynd ar drywydd hyn.
It would appear that the bulb at this location has not been replaced by a lower wattage bulb.
The clerk to follow up.
Cof/Min 21/56 (7) LLWYBR BYSIAU YSGOL / SCHOOL BUS ROUTES DERWEN FAWR / BROAD OAK
Er bod negeseuon e-bost wedi cael eu hanfon i CSC gan y clerc a’r Cyng. Cefin Campbell, nid oedd ymateb wedi dod i law. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn ymchwilio i’r mater.
Despite e-mails having been sent to CCC by the clerk and Cllr. Cefin Campbell, no response had been received. Cllr. Hefin Jones would investigate the issue.
Cof/Min 21/56 (8) PONT DRYSLWYN /DRYSLWYN BRIDGE
Roedd Trafnidiaeth a Phriffyrdd CSC wedi anfon ymateb mewn perthynas â chyflwr Pont Dryslwyn. Ystyrid y diffygion yn rhai blaenoriaeth isel, ac roedd y gyllideb ar gyfer gwaith cynnal a chadw hefyd yn gyfyngedig. Byddai CSC yn parhau i fonitro ei chyflwr yn ystod archwiliadau arferol o bontydd.
Transport and Highways, CCC, had issued a response to the matter regarding the condition of Drylwyn Bridge. The defects are regarded as low priority and there is also a limited working maintenance budget. CCC will continue to monitor it’s condition during routine bridge inspections.
Cof/Min 21/56 (9) FLATS, BROAD OAK, BRYNDEWI
Er bod gwaith i waredu’r deunydd planhigion wedi cael ei ddatrys, roedd yna bryder ynghylch y mannau parcio ger Bryndewi, Derwen-fawr. Roedd y Cyng. Beryl Jones wedi cwrdd â chynrychiolydd o’r Adran Cymunedau yn CSC i drafod y mater. Roeddid wedi cytuno ar awgrym a disgwylid i ateb ddod i law gan CSC.
Whilst work to eradicate the plant material had been resolved, there was concern regarding the car parking spaces near Bryndewi, Broad Oak. Cllr. Beryl Jones had met with a representative of CCC, Department for Communities to discuss the issue. A suggestion was agreed upon and a reply from CCC should be forthcoming.
Cof/Min 21/56 (10) DATHLIADAU JIWBILÎ PLATINWM Y FRENHINES / QUEEN’S PLATINUM JUBILEE CELEBRATIONS
Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd cyfrannu £70 i bob neuadd yn y plwyf gan fod y Frenhines yn dathlu 70 mlynedd ar yr orsedd. Nod y rhodd fyddai i brynu coeden fechan/llwyn/bylbiau o ddewis pwyllgorau’r neuaddau i goffáu’r achlysur. Byddai’r clerc yn cysylltu â phwyllgor yr Ystafell Ddarllen i weld a fyddai hyn yn dderbyniol, a byddai’r Cyng. B. Jones yn siarad â phwyllgor Neuadd Llangathen.
Following a discussion, it was decided that as the Queen was celebrating 70 years on the throne, to donate £70 to each of the Halls within the parish. This would be to purchase a small tree/shrub/bulbs of their choice in order to commemorate the occasion. The clerk to contact the Reading Room committee to establish if this is agreeable and Cllr. B. Jones would speak to the Llangathen Hall committee.
Cof/Min 21/56 (11) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Byddai’r mater yn cael ei adolygu yn yr hydref.
The matter will be reviewed in the Autumn.
21/69 DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd y ddau ddiffibriliwr cyfredol wedi cael eu cofrestru ar The Circuit. Roedd hyn yn golygu bod y lleoliadau ar gael i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.
O ran caffael dau ddiffibriliwr newydd, byddai’r clerc a’r Cynghorwyr yn ymchwilio i’r wybodaeth ddiweddar a ddarparwyd gan Un Llais Cymru.
Both the existing defibrillators had been registered on The Circuit. This means that the locations are available to the Welsh Ambulance Service.
With regard to acquiring two new defibrillators, the clerk and Councillors would look into the recent information made available by One Voice Wales.
21/70 GWEFAN / WEBSITE
Roedd y clerc wedi cael problemau’n ddiweddar o ran cael negeseuon e-bost. Byddai’r clerc yn monitro’r sefyllfa ac yn cysylltu â We Dig Media pe byddai angen.
The clerk had recently encountered problems with receiving e-mails. The clerk would monitor and contact We Dig Media if need be.
21/71 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
Un Llais Cymru / One Voice Wales
* REMINDER – TRAINING – MARCH 2022 / ATGOFFA – HYFFORDDIANT – MAWRTH 2022
* Ystadau Cymru- request for best practice example on Community Asset Transfers
* Introducing the National CPR & Defibrillation Manager / Cyflwyno’r Rheolwr CPR & Deffibrilio Cenedlaethol
* Call out for good practice/examples in response to global warming and climate change / Galwad am arfer da/enghreifftiau wrth ymateb i gynhesu byd-eang a newid hinsawdd
* Digwyddiad Dathlu’r Gymru Wledig 9 a 10 Mehefin 2022 / Celebrating Rural Wales Event 9th & 10th June 2022
*IMPORTANT / PWYSIG FW: Holiadur Proses Sicrwydd Rheoli Asbestos Sector
Cyhoeddus Cymru (WAMAP) / Welsh Public Sector Asbestos Management
Assurance Process (WAMAP) Questionnaire
* Am eich gwybodaeth – gan Plantlife Cymru / For your information – from Plant Life
* Cadwch Gymru’n Daclus – Ceisiadau ar gyfer pecynnau newydd sy’n agor! Keep Wales Tidy – Applications are open for the new packages!
* Places for Nature – 2022 Applications
* Arolwg Lleoedd Lleol ar gyfer Natur / Local Places for Nature Survey
* TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT EBRILL/MAI
* Ramblers Cymru Spring into action to give nature a boost /Ramblers Cymru yn neidio i mewn i Wanwyn i helpu nature
* CEIC: Circular Economy Innovation Communities / CEIC: Rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol
* Free garden packs from Local Places for Nature / Gerddi am ddim Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
* Vacancy Internal Auditor – Mumbles Community Council, Vacancy Llanllawddog, Vacancy Llanedi, Vacancy Llanddeusant
CSG/CCC
* Datganiad o Bersonau a Enwebwyd a Ganlyniad Etholiad Diwrthwynebiad / Statement of Persons Nominated and a Result of Uncontested Election.
Susan Smith CCC partners
* New online support groups for parents/guardians of young people with mental health problems
Llinos Evans CCC
* PLANNU AR GYFER PRYFED PEILLIO/ PLANTING FOR POLLINATORS
* HMRC – Finishing the old tax year 2021 2022
* C FF I Sir Gâr – Carmarthenshire YFC – Gwahodd i Rali/ Rally Invitation
* Llythyron o ddiolch/ thank you letters – CSG/CCC, Cadeirydd/Chair Eirwyn Williams
– Y Lloffwr – Cylch Meithrin Cwrt Henri – YFC Llanfynydd
Requests for Financial Assistance
1. Kids Cancer Charity
Brochures/Circulars
1. Glasdon Uk Ltd
2. The Clerk Magazine
3. Clerks & Councils Direct
21/72 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Trywydd – Cyfieithu/Translation 51.84
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Mai/May 231.56
Mehefin/June 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 123.46
D G Morris – archwiliwr/auditor 200.00
BHIB Yswiriant / Insurance 390.90
CSG / CCC Manylion am y taliad/ precept advice
Ebrill/April 2666.66
Banc Lloyds Bank – Ebrill/April Statement 7781.71
Cyflwynodd y clerc ei ffurflen CThEM P60 ar gyfer ei harchwilio.
The clerk presented her HMRC P60 for inspection.
21/73 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following application was considered by the Council and their observations noted. The clerk to advise CCC accordingly.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/03912 Newid defnydd tir i dwristiaeth ar gyfer Birds Hill Farm
gosod unedau llety gwyliau (glampio) symudol, Llandeilo
mannau parcio i ymwelwyr, llwybrau cerdded a
goleuadau i gerddwyr, a gwaith cysylltiedig.
Change of use of land to tourism for
the placing of mobile holiday accommodation (glamping) units,
visitor parking, pedestrian walways
and lighting and associated works
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
Decisions made by CCC on planning applications:
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
PL/03343 – Peacehaven Cottage, Capel Isaac – CLEUD – Cymeradwy/approved
21/74 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Cyflwynodd y Cyng. Hefin Jones ei hun, a rhoddodd grynodeb byr o’i gefndir. Roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag aelodau o Gyngor Cymuned Llangathen, a phwysleisiodd ei fod ar gael – dros y ffôn neu ar e-bost – pe byddai angen. Byddai hefyd yn cysylltu â’r Cyng. Cefin Campbell pe byddai angen.
Ar y pryd, roedd y Cyng. Jones yn mynychu rhaglenni hyfforddi fel y’u pennwyd gan CSC.
Cllr. Hefin Jones introduced himself and gave a brief résumé of his background. He is looking forward to working with members of Llangathen Community Council and stressed that he is available – telephone or e-mail – should there be a need. He will also liaise with Cllr. Cefin Campbell should the need arise.
Cllr. Jones is currently attending training programmes as set out by CCC.
21/75 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Roedd un o’r trigolion lleol wedi cysylltu â’r clerc ynghylch materion ger Sunny Hill, Llangathen.
Adroddwyd bod lorïau sbwriel mawr yn teithio ar hyd y ffordd a oedd yn mynd heibio i’r eiddo hwn, ac, o ganlyniad, roedd y cloddiau’n cael eu difrodi a’u tynnu i lawr. Roedd y clerc wedi rhoi gwybod am hyn i CSC, a chafodd wybod bod y mater wedi cael ei drosglwyddo i’r Tîm Rheoli Traffig a’r Tîm Sbwriel a Glanhau ar gyfer ei asesu a gweithredu arno.
A local resident had contacted the clerk regarding issues near Sunny Hill, Llangathen.
It was reported that large refuse lorries were travelling along the road passing this property and as a result the hedge banks were being damaged and pulled down. The clerk had reported this to CCC and was advised that the matter had been reported to Traffic Management Team and Refuse and Cleansing Team for assessment and action.
2. Goleuadau Stryd ddim yn gweithio – gyferbyn ag Old School Cottage, Llangathen a rhwng Sgwâr Drylswyn a’r Siop Gymunedol (adroddwyd am hyn yn flaenorol). Hefyd, rhoi gwybod i CSC nad oedd y bylbiau LED newydd wedi cael eu gosod eto yn y golau stryd rhwng Yr Hen Gof a Fferm Derwen-fawr. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn.
Street Lighting out of order – opposite Old School Cottage, Llangathen and between Drylswyn Square and Community Shop (previously reported) Also, to advise CCC that the street light between Yr Hen Gof and Broad Oak Farm has not yet been fitted with the new LED bulbs. Clerk to report.
3. Dau dwll mawr y tu allan i Wastadeddau Bancydderwen, Derwen-fawr. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn.
Two large potholes outside Bancydderwen Flats, Broad Oak. Clerk to report.
4. Nodwyd bod faniau – rhai coch a gwyn – yn parcio dros nos yn rheolaidd ym maes parcio Castell Dryslwyn. Credid bod pobl yn cysgu yn y faniau dros nos. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn.
It had been noted that vans – red and white – regularly park overnight in the Dryslwyn Castle car park. It is believed persons are sleeping overnight in the vans. Clerk to report.
5. Roedd cais wedi dod i law yn gofyn am feini prawf gostwng/y posibilrwydd o ostwng y cyfyngiad cyflymder o 30 mya i 20 mya yn Felindre. Byddai’r clerc yn gofyn.
It was requested to ask for criteria/possibility for the speed limit to be reduced from 30 mph to 20 mph. in Felindre. Clerk to request.
6. Roedd cais wedi dod i law am arwyddion “Mynedfa Gudd” ger Caeaunewydd, Dryslwyn. Byddai’r clerc yn ymchwilio i hyn.
A request was made for “Concealed Entrance” signs near Caeaunewydd, Dryslwyn. Clerk to investigate.
7. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â’r Cyng. Mansel Charles ynghylch twmpathau cyflymder y tu allan i Ysgol Cwrt Henri.
The clerk was asked to contact Cllr. Mansel Charles regarding speed humps outside Court Henry School.
8. Byddai’r Cynghorwyr a’r clerc yn mynd ati i gael map o’r plwyf.
Cllrs and clerk would look into obtaining a parish map.
9. Trafodwyd Cynllun Hyfforddi yn fyr, a byddai’n cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.
A Training Plan was briefly discussed, to discuss further in the next meeting.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ar 19 July 2022 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30yh.
It was resolved that the date for the next meeting of Llangathen Community Council will be held on 19th July 2022 in The Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….