CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 15 Mawrth 2022, cyfarfod rythiol ar Zoom.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 15th March 2022, a virtual meeting on Zoom.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones ( Cadeirydd / Chair), Ann Davies, E. Morgan, M. Williams, L. Hughes, E. Rees a/and A. Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a/and Cyng. Sir/County Councillor C. Campbell.
21/ 53 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllr. C. Moses.
21/54 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Datganodd y Cyng. L. Hughes ddiddordeb yn eitem 10 ar yr agenda ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth – Ysgol Cwrt Henri.
Datganodd y Cyng. B. Jones ddiddordeb yn eitem 10 ar yr agenda ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth – Neuadd Llangathen.
Cllr. L. Hughes declared an interest in item 10 on the agenda and did not take part in the discussion – Court Henry School.
Cllr. B. Jones declared an interest in item 10 on the agenda and did not take part in the discussion – Llangathen Hall.
21/55 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan Cyng. L. Hughes fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 18 Ionawr 2022 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. L. Hughes that the minutes of the meeting held on Tuesday, 18th January 2022 be accepted as a correct record of proceedings.
21/56 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 21/44 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Roedd y Cyng. Cefin Campbell wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru eto, yn amlinellu pryderon ynghylch diogelwch ar yr A40 – Sgwâr Dryslwyn a Derwen-fawr.
Yr ateb oedd ei bod yn aros am ddata cyflymder er mwyn asesu’r sefyllfa. Yn y cyfamser, dylid rhoi gwybod i GanBwyll am unrhyw faterion yn ymwneud â goryrru.
Cllr. Cefin Campbell had written to Welsh Government again outlining concerns regarding safety on the A40 – Dryslwyn Square and Broad Oak.
The reply was that they were awaiting speed data in order to assess the situation. In the meantime, any speed issues should be reported to GoSafe.
Cof/Min 21/44 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf /To review at the next meeting.
Cof/Min 21/44 (3) ROAD FROM BROAD OAK TO CAPEL CROSS INN
Mae’r ardal hon ar restr cynnal a chadw CSG.
This area is on the CCC list for maintenance.
Cof/Min 21/44 (4) FELINDRE – TYLLAU / POT HOLES
Dywedwyd bod rhai o’r tyllau yn y ffordd wedi cael eu llenwi, ond mai mesur dros dro ydoedd. Roedd y broblem ynghylch pyllau dwr wedi gwella ychydig. Roedd materion yn parhau.
It was reported that some potholes have been filled but as a temporary measure. The ponding of water is very slightly improved. Matters are ongoing.
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf /To review at the next meeting.
Cof/Min 21/44 (5) SBWRIEL / LITTER
Roedd yn ymddangos bod yr arwyddion Dim Sbwriel yn dal i bilio i ffwrdd. Nid oedd yna arwyddion ‘Dim Sbwriel’ rhwng Sgwâr Dryslwyn a Chastell Dryslwyn na rhwng Sgwâr Dryslwyn a Siop Dryslwyn/Cwrt Henri. Byddai’r clerc yn mynd ar drywydd hyn. Roedd angen glanhau/clirio sbwriel yn y mannau y cyfeiriwyd atynt.
It would seem that the “No Litter” signs are still peeling away. There are no “No Litter” signs from Dryslwyn Square to Dryslwyn Castle or from Dryslwyn Square to Dryslwyn Shop/Court Henry. The clerk to follow up. The areas mentioned need cleaning/clearing of litter.
Cof/Min 21/44 (6) FELINDRE, GOLEUADAU STRYD / STREET LIGHTING
Roedd yn ymddangos nad oedd y bwlb yn y lleoliad hwn wedi cael ei newid am fwlb watedd is. Byddai’r clerc yn mynd ar drywydd hyn.
It would appear that the bulb at this location has not been replaced by a lower wattage bulb.
The clerk to follow up.
Cof/Min 21/44 (7) LLWYBR BYSIAU YSGOL / SCHOOL BUS ROUTES DERWEN FAWR / BROAD OAK
Roedd y mater ynghylch diogelwch yn Nerwen-fawr yn parhau i beri pryder. Roedd rhai rhieni yn pryderu bod yn rhaid i ddisgyblion ysgol groesi’r A40 er mwyn cwrdd â’r bws ysgol. Nid oedd yr aelodau’n deall, oherwydd er gwaethaf llythyrau niferus a anfonwyd gan y clerc a’r Cyng. Campbell at Bennaeth yr Adran Cludiant, ni chafwyd ateb. Byddai’r clerc yn rhoi cynnig arall arni.
The issue regarding safety at Broad Oak remains a concern. School pupils having to cross the A40 in order to meet the school bus is a worry to some parents. Members are at a loss as despite numerous letters sent to the head of transport by the clerk and by Cllr. Campbell no reply was forthcoming. The clerk to try again.
Cof/Min 21/44 (8) PONT DRYSLWYN /DRYSLWYN BRIDGE
Ni chafwyd ateb gan Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch cyflwr y rheiliau ar Bont Dryslwyn. Byddai’r clerc yn ysgrifennu eto.
No reply from CCC regarding the condition of the railings at Dryslwyn Bridge. The clerk to write again.
Cof/Min 21/52 (1) FLATS, BROAD OAK
Roedd y gwaith i gael gwared ar y planhigion a oedd yn tyfu rhwng y tarmac a’r wal wedi’i gwblhau.
Work to eradicate the plant material growing between tarmac and wall has been completed.
Cof/Min 21/52 (2) DATHLIADAU JIWBILÎ PLATINWM Y FRENHINES / QUEEN’S PLATINUM JUBILEE CELEBRATIONS
Cafwyd trafodaeth ynglyn â dathliadau’r jiwbilî sydd i ddod. Penderfynwyd y gellid plannu coed a llwyni i goffáu’r jiwbilî. Byddai’r clerc yn gofyn i gyfarwyddwr Aberglasne am gyngor.
A discussion took place regarding the up and coming jubilee celebrations. It was decided that some trees and shrubs could be planted to commemorate the jubilee. The clerk to ask director of Aberglasney for advise.
Cof/Min 21/52 (3) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Roedd y mater ynghylch y ffaith bod llawer o ddwr yn rhedeg i lawr y ffordd ger Y Bryn, Llangathen yn cael ei ystyried.
The matter regarding excessive water running down the road near Y Bryn, Llangathen is being looked into.
Cof/Min 21/52 (4) CLERK’S APPRAISAL
Roedd arfarniad y clerc wedi’i gwblhau, a byddai’n cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
Roedd y clerc wedi bod i sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd gan Un Llais Cymru – Modiwl 8 Cyflwyniad i Ymgysylltiad Cymunedol.
The clerk’s appraisal has been completed and will be presented at the next meeting.
The clerk had attended a training session held by One Voice Wales – Introduction to Community Engagement Module 8
21/57 DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd y clerc wedi cysylltu â chwmni yswiriant y cyngor ynghylch y Diffibrilwyr presennol, ac roedd yn ymddangos bod lefel yr yswiriant yn ddigonol. Roedd yr wybodaeth ychwanegol yr oedd ei hangen i gofrestru’r diffibrilwyr ar The Circuit bellach ar gael. Byddai’r clerc yn cadarnhau hynny.
The clerk had contacted the council’s insurance company regarding the cover for the existing Defibrillators and it would seem that the cover is adequate. The additional information required to register the defibrillators on The Circuit was now available, the clerk to confirm.
21/58 GWEFAN / WEBSITE
Roedd y clerc wedi cysylltu â We Dig Media, a’r cwmni hwnnw, bellach, oedd rheolwr gwe’r Cyngor.
The clerk had liaised with We Dig Media and they were now the council’s web manager.
21/59 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
CSG/CCC
* Latest news from Carmarthenshire County Council – Ionawr/January
* EMERGENCY ROAD CLOSURE – U4040 BROAD OAK, CARMARTHEN – 95811832 (OneNetwork127544592* Gwybodaeth / Information – dweud eich dweud yn ynghylch cyllideb / have your say on the council’s budget
* Data Cydymffurfio a’r cod Ymddygiad / Code of Conduct Compliance Data
* Emergency Road Closure – U4044, Mount Road, Llangathen, – One Network ID 127518089
* Business update –
* Paul Davies (Cohesion) – Free Hate Crime Training
Un Llais Cymru / One Voice Wales
* Swydd Wag — Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Bwrdd Llywodraeth Cymru — Vacancy — Non-Executive Director for Welsh Government Board
* Gwahoddiad i gyfres o ddigwyddiadau rhannu dysg a gynhelir gan y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar, 24-31 Ionawr 2022 // Invitation to series of shared learning events by the Community Partnership, 24-31 January 2022
* TOWN COUNCIL – JOB ADVERTISEMENT
* Swydd Wag — Prif Swyddog Gweithredu, Llywodraeth Cymru — Vacancy — Chief Operating Officer, Welsh Government
* Pugh Computers Your experts in modern workplace solutions / Eich arbenigwyr mewn datrysiadau modern yn y gweithle
* Vacancy/ Swydd Wag – Cyngor Cymumed Llanddewi Brefi Community Council
* Fideos Codi Ymwybyddiaeth / hyrwyddo Cynghorwyr Cymuned a Thref / Raising Awareness / promotion videos / Community & Town Councils
* Swydd Wag — Dirprwy Gyfarwyddwr Gogledd Cymru (y Gymraeg yn hanfodol) — Vacancy — Deputy Director North Wales (Welsh language essential)
* Swyddi Gwag – Swyddogion Cymorth Tim Dwyieithog – Vacant Role – Bilingual Team Support
* Plannu coed a Pherllannau / Tree planting and Orchards Fforwm Natur – Pethau Bychain – Nature Forum
* Training – JANUARY, FEBRUARY & MARCH 2022 / HYFFORDDIANT – IONAWR, CHWEFROR & MAWRTH 2022
* Archwilio Cymru / Audit Wales Fee Scheme 2022-23 released today / Cynllun Ffioedd 2022-23 a gyhoeddwyd heddiw
* IMPORTANT INFORMATION – THE QUEEN’S PLATINUM JUBILEE BEACONS 2ND JUNE 2022
* Welsh Government is developing a Community Food Strategy / Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol
* Cynllun Prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn agor ar 28 Mawrth — Welsh Government Apprenticeship Scheme opening on 28th March
* Natur a Ni – Mae’r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru wedi dechrau / Nature and Us – The national conversation on the future on Wales’ natural environment has started
* Vacancy Llanelli Town Council / Swydd Wag Cyngor Tref Llanelli
* Welsh Governments Consultation on how to measure the inclusion of migrants in Wales / Ymgynhoriad Llywodraeth Cymru ar sut i fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr yng Nghymru
* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion / News Bulletin
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
* Ending Physical Punishment in Wales Newsletter
* Celebrating Rural Development Success – Wales Rural Network Website
* Cynllun Prentisiaethau Llywodraeth Cymru 2022 yn agor yn fuan —Government Apprenticeship Scheme 2022 opening soon
* Hawliau Tramwy Cyhoeddus / Public Rights of Way * Cyngor newydd am y Cod Cefn Gwlad i reolwyr tir / New Code advice for land managers
Audit Wales
* Beth Harris – requesting information 2019 /2020
General
* Dryslwyn SiopNEWydd – Adborth ar y Dyluniad / Design Feedback
* Set up project introduction – The Family Foundation Cymru
* Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda mis Chwefror / Hywel Dda Community Health Council February newsletter
* Planting a Tree for the Jubilee / Plaque – Royal British Legion Industries –
Request Financial Assistance
* Wales Air Ambulance
*CSG/CCC Apêl Cadeirydd / Chair’s Appeal – Ambiwlans Awyr Cymru
* Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen International Musical Eisteddfod
* Eisteddfod Urdd Sir Gaerfyrddin – Pwyllgor Apêl Llanfihangel Aberbythych a Llangathen
21/60 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
We Dig Media 216.00
Rheolwr Gwe/Web Manager
Ystafell Ddarllen/Reading Room
Llogi Neuadd/Hire of Hall 15.00
Trywydd – Cyfieithu/Translation 29.16
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Mawrth/March 231.56
Ebrill/April 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 102.19
(Zoom £14.39 x 2)
Cyngor Sir Gâr/Carmarthenshire County
Council
Goleuadau/Lighting 994.92
Cyngor Sir Gâr/Carmarthenshire County
Council
Replacement of Lanterns to LED 688.06
Lloyds Bank – January Statement – £9355.06
21/61 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following application was considered by the Council and their observations noted. The clerk to advise CCC accordingly.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/03293 Alteration to design of single Birds Hill Farm
storey extension Llandeilo
SA19 6SH
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
PL/03343 Certificate of Lawful Development Peacehaven Cottage
for the existing use of the siting of dwelling Capel Isaac
without any restrictions with P6/19a/755/93 Llandeilo SA19 7UD
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
PL/03549 Non material amendment to E/40141 (the The Gardens,
proposed re-development of abandoned Capel Isaac
nursery gardens to re-instate the residential
use on the site with a purpose built dwelling
office studio and ancillary accommodation
to support the commercial use
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
Ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd:
Approved planning applications:
PL/03293 – Birds Hill Farm – Caniatawyd diwygiad ansylweddol/Non material amendment granted.
21/62 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Nododd y Cyng. Campbell yn ei adroddiad fod materion diogelwch yr A40 yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd fod cwmni wedi llwyddo i gael system talebau er mwyn uwchraddio gwasanaethau band eang yn yr ardal. Byddai’r talebau yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru i grwpiau weithio gyda chwmnïau i uwchraddio band eang ffibr.
Cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod y dreth gyngor wedi cynyddu 4.2% – a oedd yn llai na’r disgwyl.
Argyfwng Wcráin – roedd 1,000 o ffoaduriaid i ddod i Gymru. Roedd arian ar gael i gynorthwyo’r teuluoedd hyn.
Ar ôl gwasanaethu Ward Llanfihangel Aberbythych am ddeng mlynedd, cadarnhaodd y Cyng. Campbell na fyddai’n sefyll yn yr etholiadau ym mis Mai am fod ganddo bellach sedd yn y Senedd.
Mynegodd ei ddiolchgarwch i’r aelodau am eu cefnogaeth iddo dros y blynyddoedd, a dymunodd yn dda i’r Cyngor Cymuned ar gyfer y dyfodol. Diolchwyd i’r Cyng. Campbell, hefyd, am ei waith caled a’i gyfraniad dros y blynyddoedd.
In his report, Cllr. Campbell advised that the A40 safety issues were under review by Welsh Government.
He confirmed that a company had been successful in obtaining a voucher system to up-grade Broadband services in the area. The vouchers will be given by Welsh Government for groups to work with companies to up-grade fibre Broadband.
Carmarthenshire County Council announced that council tax has increased by 4.2% – which was less that anticipated.
The Ukraine crises – 1,000 refugees were to come to Wales, funds are available to support these families.
After 10 years serving the Llanfihangel Aberbythych Ward, Cllr. Campbell confirmed that he would not be standing at the elections in May as he now has a seat in the Senedd.
He expressed his gratitude to members for the support they had showed him over the years and wished the Community Council well for the future. In return, Cllr. Campbell was thanked for his hard work and input over the years.
RHODDION / DONATIONS
Rhoddwyd rhestr i’r aelodau o sefydliadau a oedd yn gofyn am gymorth ariannol. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i roi arian i’r canlynol
A list of organisations requesting financial assistance was issued to members. After discussion, it was agreed to donate funds to the following:
£
Ysgol Cwrt Henri Rhieni ac Athrawon
Court Henry School Parents & Teachers 400.00
Ysgol Feithrin Cwrt Henri 400.00
Neuadd Llangathen Hall 400.00
Ystafell Ddarllen Cwrt Henri/Reading Room 400.00
Urdd Gobaith Cymru – Apel Llanfihangel
Aberbythych a Llangathen 100.00
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd Young Farmers 50.00
Y Lloffwr 50.00
Apêl Cadeirydd CSC/Chair’s Appeal
(Ambiwlans Awyr Cymru/Wales Air Ambulance 100.00
Y clerc i drefnu bod y sieciau’n cael eu hanfon ymlaen at y sefydliadau perthnasol
The clerk to arrange for the cheques to be forwarded to the relevant organisations.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen ynghyd â Cyfarfod Blynyddol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 17 Mai 2022 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am
7.30 p.m. Bydd gwasanaeth ffôn ar gael i’r rhai nad ydynt yn dymuno mynychu’n bersonol.
It was resolved that the next meeting together with the Annual Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 17th May 2022 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
A telephone service will be made available to those not wishing to attend in person.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….