CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth, 19 Medi, 2023 yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the Llangathen Community Council meeting held on Tuesday, 19th September 2023 in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng/Cllrs.: C. Moses (cadeirydd/chair), E. Rees, Ann Davies, B. Jones, E. Morgan, L. Hughes and A. Davies
Hefyd yn presennol / In attendance : Cyng. Hefin Jones a/and M. Rees (clerc/clerk)
23/40 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / appologies for absence from: Cyng / Cllrs. O. Gruffydd.
23/41 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. / There were no declarations of interest.
23/42 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. Ann Davies ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Lun, Gorffennaf 17 2023 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. Ann Davies and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Monday, 17thJuly 2023 be accepted as a correct record of proceedings.
23/43 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 23/29 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Nid oedd y materion o ran diogelwch ar y ffyrdd yn dilyn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi dechrau cael eu gweithredu.
Dywedwyd bod damwain arall wedi digwydd ar yr A40 ger Sgwâr Dryslwyn.
Gwelededd yn Nerwen-fawr – oherwydd perthi wedi gordyfu – rhoddwyd gwybod am hyn eisoes a gofynnwyd i’r clerc roi gwybod am hyn eto.
The road safety matters following The Welsh Government Roads Review has not commenced.
It was reported that a further accident had occurred on the A40 near Dryslwyn Square.
Visibility at Broad Oak – due to overgrown hedgerows – had been reported and the clerk was requested to report again.
Cof/Min 23/29 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Cadarnhaodd BT fod y borfa wedi cael ei thorri ym mis Mai ond oherwydd materion yn ymwneud â bioamrywiaeth a blodau gwyllt gadawyd rhai ardaloedd heb eu torri. Roedd sbwriel wedi cael ei gasglu. Cadarnhawyd y byddai dyfynbris yn cael ei ddarparu ar gyfer gwaith arall. Cadarnhaodd yr Aelodau y rhoddwyd sylw i’r cafnau a’r estyll tywydd. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â BT eto.
BT confirmed that grass cutting had taken place in May but due to biodiversity matters and wild flowers some areas had been left uncut. Litter picking had been carried out. They confirmed that a quote for other works is being sourced. Members confirmed that the troughs and facia boards had been attended to. The clerk was asked to contact BT again.
Cof/Min 23/29 (3) BRYNDEWI ,BROAD OAK / 1 BANCYDDERWEN, BROAD OAK
Dywedodd y Cyng. H. Jones fod cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer y mannau parcio ym Mryndewi. Roeddent yn aros i adeiladwyr ddechrau ar y gwaith. Roedd cyfarfod safle i’w gynnal mewn perthynas â’r rheilen ganllaw sy’n arwain i fyny at Bancydderwen.
Cllr. H. Jones advised that funding had been approved for the parking bays at Bryndewi. Awaiting builders to commence the work. A site meeting is to take place with regards to the handrail leading up to Bancydderwen.
Cof/Min 23/29 (4) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Dywedwyd bod y mater ynglyn â gormod o ddwr yn llifo i lawr y ffordd yn dderbyniol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y mater yn cael ei fonitro yn ystod misoedd y gaeaf.
It was reported that the issue regarding excessive water flowing down the road was acceptable at this time. However, the matter will be monitored during the winter months.
Cof/Min 23/29 (5) COED/CEBLAU BT / TREES BT CABLES – LLANGATHEN
Dywedwyd bod rhagor o goed wedi disgyn ar linellau BT yng nghyffiniau Croesffordd Cilsân i Berllan.
Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn
It was reported that further trees had fallen onto BT lines in the Cilsane Crossroads to Berllan vicinity.
The clerk to report.
23/44 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
* Cyfarfod Maer / Mayor’s meeting – LLANDEILO – 19/9/23
* Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Mannau Pleidleisio – Ymgynghoriad arfaethedig/Polling District and Polling Place Review- Proposed consultation – 12/10/23 – 9/11/23
OVW
* SEPTEMBER 2023 TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT MEDI 2023
* Public Services Ombudsman for Wales Press release 09 08 2023 Adroddiad Blynyddol
Annual Report 2022 23
* Swyddi Gwag gydag Un Llais Cymru – Job Vacancies with One Voice Wales
* Nodyn Atgoffa Brys Cynhadledd Blynyddol ac Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru – Urgent Reminder One Voice Wales Conference and AGM 30/9/23
* Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru 2023 / Motions for One Voice Wales AGM 2023
* Ymgynghoriad cynhoeddus Ombwdsmon Cymru ar: Ein Cynllun Cydraddoldeb The Welsh Ombudsman’s public consultation: Our Equality Plan 2023-2026
* Pethau Bychain – Digwyddiad nesaf / Next event – environmental issues/policies/funding
* Consultation on Fee Scales 2024-25 / ymgynghoriad ar Raddfeydd Ffioedd (10/10/23)
Hywell Dda
Ymgynghoriad Safle Ysbyty Newydd Adroddiad Adborth / New Hospital Site Consultation – Feed back report
Welsh Government
* TO-LW-01684-23 – Llandeilo Bypass
* PANEL HEDDLU A THROSEDDU DYFED-POWYS – ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-2023
DYFED-POWYS POLICE AND CRIME PANEL ANNUAL REPORT 2022-2023
* Siop Dryslwyn Shop – Handrail – Gofynnwyd i’r clerc ymateb a gofyn am ragor o wybodaeth am y rheilen ganllaw angenrheidiol ac awgrymu hefyd fod y pwyllgor yn archwilio cyllid grant.
the clerk was asked to reply and request more information about the required hand rail and to also suggest that the committee explore grant funding.
Requests for Financial Assistance: Y Lloffwr / Cylch Meithrin Cwrt Henri / Urdd Gobaith Cymru
23/45YFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
WeDig Media – Rheoli Gwefan/ 216.00
Website Management
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Medi/September 255.66
Hydref/October 255.66
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 82.73
Un Llais Cymru – Hyfforddiant/Training 38.00
D G Morris – Archwiliwr Mewnol/Internal Auditor 200.00
Ysgol Feithrin Cwrt Henri – Rhodd/Donation 100.00
Trywydd / Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation
Mawrth / March 34.92
Mai / May 35.64
HMRC TAW/VAT – Wedi’i dalu i mewn / Claim 479.92
CSG / CCC – Precept advice – £3,000
Lloyds Bank Statement – Gorffennaf/July – £5017.03 – Awst/August – £7528.18
Y Rheoleiddiwr Pensiynau/The Pensions Regulator – Roedd y clerc wedi cyflwyno’r ffurflenni datganiad tair blynedd / The clerk had submitted the three yearly declaration forms.
Roedd angen gwneud cais am fwrsariaeth hyfforddi gwerth £100 trwy Un Llais Cymru. A training bursary for £100 to be applied for via One Voice Wales
Roedd yr holl Gynghorwyr bellach wedi llofnodi’r ffurflenni Optio Allan, gan ddatgan felly nad oeddent yn dymuno hawlio’r lwfans blynyddol o £150.
All Councillors have now signed the Opt out forms thereby declaring that they do not wish to claim the annual allowance of £150.
23/46 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor.
The following application was considered by the Council.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
Strwythur Pren
Pl/06165 Wooden Structure Glanmyddyfi, Llandeilo
3m x 7m SA19 6SD
Dim sylwadau / No comments
Decisions made by CCC on planning applications:
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
PL/06223 – Pantyberllan, Capel Isaac. SA19 7UE – Manège at ddefnydd personol / Manège for personal
use. Caniataol / Granted
PL/06246 – Middlehill House, Llangathen. Gwaith coed mewn ardal gadwraeth/Tree works in convservation area. Caniataol / Granted
PL/06165 – Glanmyddyfi, Llandeilo. SA19 6SD – CLOPUD Gwrthod / Refused.
23/47 DEFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd y diffibrilwyr wedi’u gwirio ac roedd padiau a batri newydd wedi’u gosod ar y diffibriliwr yn Siop Gymunedol Dryslwyn. Defibrillators have been checked and the defibrillator sited at Dryslwyn Community Shop has been fitted with new pads and battery.
23/48 HYFFORDDI / TRAINING
Roedd y Cyng. Anjuli Davies wedi bod ar gwrs Sefydlu i Gynghorwyr Newydd a drefnwyd gan Un Llais Cymru. Cllr. Anjuli Davies attended New Councillor Induction course arranged by One Voice Wales.
23/49 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cyng. H. Jones Davies nad oedd diweddariad wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru ynghylch y gwelliannau i’r A40. Roedd Lee Waters wedi ymateb i Ffordd Osgoi Llandeilo. Roedd yr achosion o dipio anghyfreithlon yn ardal Llangathen yn cael eu monitro. Roedd gwelliannau ger Bryndewi wedi cael eu cymeradwyo ac roedd y mater o ran y rheilen ganllaw yn arwain at Bancydderwen yn cael ei ymchwilio iddo. Cllr H. Jones Davies advised that no update had been received from Welsh Government regarding the improvements to the A40. Lee Waters had responded to the Llandeilo By-pass. Fly tipping in the Llangathen area is being monitored. Improvements near Bryndewi have been approved and the handrail issue leading to Banydderwen is being looked into.
23/50 DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal nos Fawrth 21 Tachwedd 2023yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday November 21st 2023 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Bydd gwasanaeth ffôn ar gael i’r rhai na allant fynychu’n bersonol.
A telephone service will be made available to those not able to attend in person.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….