Cofnodion / Minutes, 21 o Ionawr 2020 / 21st January 2020

CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN  / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 21 o Ionawr 2020 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.

Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 21st January 2020 at The Reading Room, Court Henry.

Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones (cadeirydd / chair), A. Davies,  L. Hughes, M. Williams,  E. Rees, M. Wynne a/and C. Moses.

Hefyd yn presennol / In attendance Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell, Mrs M.Rees (clerc / clerk), Mr John Williams “Gan Bwyll / Go Safe” a/and Mr Clive Powell.

19/44  YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  / Apologies for absence was received from  Cyng. / Cllr. E. Morgan.

19/45 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

There were no declarations of interest.

19/46 COFNODION / MINUTES

Cynigiwyd gan Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan Cyng. M. Wynne  fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 o Dachwedd 2019 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.

It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. M. Wynne that the minutes of the meeting held on Tuesday, 19th November 2019 be accepted as a correct record of proceedings.

19/47  MATERION YN CODI /  MATTERS ARISING

Cof/Min 19/37  a/and 19/38 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN /  BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40

Roedd Mr John Williams o “Gan Bwyll” yn bresennol a dywedodd ei fod wedi argymell i Lywodraeth Cymru (LlC) y dylai’r gilfan yn Nerwen-fawr gael ei defnyddio fel safle bws yn unig. Roedd y Cynghorydd Campbell wedi gwneud cais tebyg ac, yn ôl ymateb CSC, roedd y cynnig wedi’i gynnwys yn system flaenoriaethu LlC. Nododd Mr Williams eto fod LlC yn y broses o gynnal ymchwiliad i 600 o ffyrdd a fyddai’n cymryd tair blynedd i’w gwblhau. 

Yn ddiweddar, roedd cyfyngiadau cyflymder o 40mya wedi cael eu gosod (dros dro) rhwng croesffordd Derwen-fawr a chroesffordd Sgwâr Dryslwyn. Nid oedd yn eglur pam y gwnaed hyn. 

Awgrymwyd y dylid gwneud ymholiadau i LlC ynghylch y rhesymau dros y cyfyngiadau cyflymder hyn a gofyn am iddynt gael eu hehangu i gynnwys y ddwy groesffordd gan mai dyma lle roedd y pryderon ynghylch diogelwch. 

Teimlwyd ei bod yn briodol rhoi gwybod hefyd y gallai hyd at bum bws ysgol/coleg fod yn defnyddio’r gilfan yn ystod y tymor, gyda’r plant/bobl ifanc yn gorfod croesi’r ffordd lle nad oedd cyfyngiadau cyflymder ar y pryd. Byddai’r clerc yn trefnu hyn.

Awgrymodd Mr Williams hefyd y dylai’r Cyngor ysgrifennu at y prif gwmnïau cyfleustodau yn gofyn am i’w gweithwyr beidio â pharcio yn y gilfan wrth iddynt wneud gwaith atgyweirio yn y cyffiniau. Byddai’r clerc yn ysgrifennu atynt ac yn cynnwys CSC. 

Mr John Williams from “Go Safe” was in attendance and advised that he had recommended to Welsh Government (WG) that the lay-by in Broad Oak be classed as a Bus Stop only.  Cllr. Campbell had also made this request and a reply from CCC stipulated that the proposal was within WG prioritisation system.  Mr Williams again pointed out that WG were in the process of carrying out a 600 road enquiry that would take 3 years to complete.  

Recently, 40mph speed restrictions had been imposed (temporarily) between the Broad Oak crossroads and the Dryslwyn Square crossroads.  It was unclear why this had been done.

It was suggested that enquires were made to WG asking the reasons for these speed restrictions and to request that they be extended to include the two crossroads as this was where the safety concerns were.  

It was felt appropriate to advise also that there could be up to 5 school/college buses using the lay-by during term time with children/young people having to cross the road where currently there were no speed restrictions. The clerk to arrange.

Mr Williams also suggested that the council write to the main utility companies requesting that their employees do not park in the lay-by whilst carrying out repairs within the vicinity.  The clerk to write and include CCC.

Cof./Min 19/38 (3) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.

Nodwyd bod yr offer cyfrif cyflymder bellach wedi cael eu symud ac y byddai adroddiad yn cael ei lunio. Cytunodd y Cynghorydd C. Campbell i fynd ar drywydd y mater. 

It had been noted that the speed counters had now been removed and that a report would be forthcoming.  Cllr. C. Campbell agreed to follow up the matter.

Cof/Min 19/38 (4) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC

Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro. 

The situation will be monitored. 

Cof/Min 19/38 (5)  BROAD OAK – PARCIO / PARKING

Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro. 

The situation will be monitored. 

Cof/Min 19/38 (6) BAW CWN / DOG FOULING – FELINDRE / CASTELL DRYSLWYN CASTLE

Roedd baw cwn yn broblem o hyd yn yr ardaloedd hyn. Cafwyd trafodaeth ynghylch lleoliad arwyddion a biniau. Byddai’r clerc yn cysylltu â CSC ac yn holi a fyddai’r biniau yn cael eu gwagio yn rheolaidd. 

The problem of dog fouling in these areas remained.  A discussion took place regarding the positioning of signs and bins.  The clerk to enquire with CCC and to ascertain that any bins would be emptied on a regular basis.

Cof/Min 19/38 (7)  AGE CYMRU

I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To review in the next meeting.

Cof/Min 19/43 (2) Castell Dryslwyn CASTLE, Dryslwyn

Trafodwyd eto fater y coed bach yn tyfu y tu allan i dir y castell. Hefyd, mewn man lle mae rhan o wal y castell yn isel, roedd coeden wedi tyfu dros y wal a thros y briffordd. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod i Gyngor Sir Caerfyrddin a Cadw. 

The matter regarding small trees growing outside the castle grounds was again discussed.  Also, a section where the castle wall is quite low has now resulted in a tree growing over and onto the highway.  The clerk to report to CCC and Cadw.

19/48   GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE 

Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:

The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:

Correspondence January 2020

1.  SLCC Membership Re-newal

2.  Lloyds Bank – Statement 2/12/19 – £7457.18  – 31/12/19 – £9857.18

3.  The Pensions Regulator – the clerk to arrange

4.  CCC – precept credit – £2400 27/12/19

Brochures/Circulars

1. Glasdon UK Ltd

2. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru/Wales Air Ambulance Charity – Annual Review

3. Clerks & Councils Direct        4. SLCC “Your Conference & Training Programme 2020

5. The Clerk Magazine                6. Sunshine Gym

Requests for Financial Assistance 

1. Eisteddfod yr Urdd 2021  – Awen Rhys Jones awen@urdd.org  

2. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru/Wales Air Ambulance Charity 

tgilmartinward@onevoicewales.wales 

* Bus Pass Renewal Programme / Rhaglen Adnewyddu Pas Bws 

* One Voice Wales National Awards Conference Thursday 26th March 2020 / Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru Dydd Iau 26ain Mawrth 2020 

* Consultation Document – Changes to planning and related application fees / Dogfen Ymgynghori – Newidiadau i ffoedd cynllunio a chesisiadau cysylltiedig – yn cae/closes – 13/3/20

* WALES & VE DAY 75 

* SuDS – proposed amendments to two Orders on Sustainable Drainage SDCau – diwygio arfaethedig i ddau Orchymyn Draenio Cynaliadwy 

* One Voice Wales Response – Consultation on the Local Government and Elections (Wales) Bill / Ymateb Un Llais Cymru – 3ydd Ionawr 2020 – Ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 

* LlinEvans@carmarthenshire.gov.uk 

 Fforwm Cyswllt 08.01.2020 Liaison Forum 

* Ymgynghoriad Cyllid Cyngor Sir Gâr 2020 / Carmarthenshire County Council Budget Consultation 2020 

* Gwobrau Dathlu Diwylliant – Celebration of Culture Awards 

Bethan.Boyd@gov.wales 

Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu (Cymru) 2015 / The Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Regulations 2015 

* Rhian.Pritchard001@gov.wales 

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Cymru Fwy Cyfartal – Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol / Welsh Government consultation: A More Equal Wales – Commencing the Socio-economic Duty – danfon i  Cyng/forwarded to Cllrs

* WelshGovernment@public.govdelivery.com 

Natural Resources Bulletin – January 2020 – Issue 47 Welsh Government 

* steve.shaw@powerforpeople.org.uk 

Request to support the Local Electricity Bill – Steve Shaw –  danfon i  Cyng/forwarded to Cllrs

NHellier@carmarthenshire.gov.uk 

Listed Building Fair Sunday 9th February / Ffair Adeiladau Rhestredig ddydd Sul 9 Chwefror 

* CaLEynon@carmarthenshire.gov.uk 

EMERGENCY ROAD CLOSURE – C2152, Llandeilo. – danfon i  Cyng/forwarded to Cllrs

* MEEvansThomas@carmarthenshire.gov.uk 

Craffu Sir Gar / Carmarthenshire Scrutiny 

* deb@planningaidwales.org.uk 

Free Planning Appeals Events! – 23/1/20 – Builth Wells

CaLEynon@carmarthenshire.gov.uk 

YNGHYLCH: CAU FFORDD DROS DRO – PENTREFELIN TRA40 I WERNDDU C2145, LLANDEILO/RE : TEMPORARY ROAD CLOSURE – Pentrefelin Tra40 to Wernddu C2145, Llandeilo 

19/49  CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT

Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:

The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:

£

SLCC aelodaeth  / membership 65.00

M. Rees – Cyflog Mis Ionawr / January Salary                 266.66

M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses             87.28

19/50  CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS

Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau: 

The following application was considered by the Council and their observations noted:

RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD

APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION

Adeilad Amaethyddol Arfaethedig 

E/39827 Proposed Agricultural Building Coed y Lands, Broad OakCaerfyrddin. SA32 8QS

Cafodd y cyfarfod ei agor gan fod yr ymgeisydd yn bresennol, a rhoddwyd cyfle iddo gyflwyno’r rhesymau dros y datblygiad. Ailgynullwyd y cyfarfod, a daeth yr aelodau i’r casgliad y dylid gofyn i’r Cynghorydd Cefin Campbell siarad â Swyddog Cynllunio CSC. 

The meeting was opened as the applicant was present and was given the opportunity to put forward the reasons for the development.  The meeting was reconvened and members concluded to request Cllr. Cefin Campbell speak to the Planning Officer, CCC. 

E/39908 Non material amendment to E/38919 Bryncoch, Dryslwyn

Dim gwrthwynebiadau  /No objections

I arfaethedig uwchben y storfa faetholion bresennol ynghyd â thanc storio a oedd ychydig yn frwnt ar gyfer dwr ffo clampiau silwair a golchi tai godro. 

E/40039 Proposed roof above existing nutrient store Berllan Dywyll, Llangathen, Caerfyrddin.  SA32 8QG together with lightly  fouled storage tank  for Parlour washing  and silage clamp run off

Dim gwrthwynebiadau  /No objections

Gwaith i un goeden dderwen o flaen gardd eiddo 

E/40054 Tree works to single oak tree in front of Ael y Bryn, Broad Oak, garden of property Caerfyrddin.  SA32 8QJ

Dim gwrthwynebiadau  /No objections

19/51  DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR   

Cadarnhawyd bod y ddau ddiffibriliwr (yn Nerwen-fawr a Siop Dryslwyn) yn gweithio’n iawn. 

It was confirmed that the two Defibrillators (Broad Oak and Dryslwyn Shop) were in working order.  

19/52 Y DDYLETSWYDD BIOAMRYWIAETH A CHYDNERTHEDD ECOSYSTEMA / THE BIODIVERSITY AND RESILIENCE OF ECOSYSTEMS DUTY

Yn dilyn trafodaeth ynghylch yr uchod, cytunodd y Cynghorwyr ar y camau gweithredu canlynol er mwyn mynd i’r afael â’r ddyletswydd. 

Gosod blychau nythu/gwestai trychfilod er mwyn cynnig llecynnau diogel i adar/pryfed.

Plannu llwyni/blodau sy’n denu pryfed peillio.

Newid y trefniadau torri gwair trwy leihau’r amlder/mannau i’w torri er mwyn annog blodau gwyllt a phlanhigion eraill sy’n denu pryfed peillio, gan hefyd roi cysgod i ymlusgiaid a mamaliaid bach.  

Cael pecyn casglu sbwriel ac annog eraill i’w ddefnyddio. Trefnu diwrnodau casglu sbwriel yn y gymuned.

Rhoi sylw i ystyriaethau bioamrywiaeth wrth gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio.

Byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y gymuned. Byddai’r clerc yn trefnu hyn. 

Following a discussion regarding the above, Councillors agreed on the following actions in order to address the duty.

Install nesting boxes/bug hotel to provide safe places for birds/insects.

Plant pollinator friendly flowers/shrubs.

Change mowing regimes by reducing the frequency/area of cuts to encourage wildflowers

and other pollinator friendly plants, also providing cover for small mammals and reptiles. 

To obtain litter picking kit and encourage use.  Arrange litter picking days within the community.

Take into account biodiversity considerations when commenting on planning applications.

The report to be published on the community website.  Clerk to arrange.

19/53 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT

Rhoddodd y Cynghorydd Cefin Campbell yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb eleni. Dywedodd fod LlC wedi cyhoeddi y byddai cyllideb eleni yn cynyddu 4.4%, sy’n cyfateb i £11 miliwn, a hynny yn dilyn 10 mlynedd o doriadau ac arbedion o £9 miliwn. Byddai cyfran o hyn yn cael ei defnyddio ar gyfer cyflogau, pensiynau a dileu swyddi athrawon, yn ogystal ag ar gyfer y ddyled o £3 miliwn mewn ysgolion. 

Byddai ardollau’r dreth gyngor yn cael eu trafod ym mis Mawrth. 

County Cllr. Cefin Campbell gave an update on this years budget.  He advised that after 10 years of cutbacks and £9 million savings having been made, WG have announced that this year there will be a 4.4% raise in the budget equating to £11 million.  A proportion of this will be taken up by teachers salaries, pensions and redundancies together with the £3 million debt in schools.

The council tax levy  will be discussed in March.

19/54 GOFYNIAD PRAESEPT /  PRECEPT REQUIREMENT 2020 / 2021

Gofynnwyd am ofyniad praesept 2020/2021 gan Gyngor Sir Gâr. 

Roedd manylion taliadau “Goleuo’r Droetffordd” ar gyfer y flwyddyn ariannol ar gael gan CSC. Roedd ad-daliad blynyddol y benthyciad (prosiect goleuadau LED cymunedol) yn cyfateb i £538.63 dros gyfnod o wyth mlynedd. 

Manylion am Derfyn Gwariant Adran 137 ar gyfer 2020/21 – sef £8.32 yr etholwr. Roedd 437 o etholwyr yn y plwyf.  

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor)(Cymru) 1995: y ffigur ar gyfer cymuned Llangathen 2020/21 oedd 266.32.

Ymchwiliwyd i Incwm a Gwariant Gwirioneddol y flwyddyn flaenorol, ynghyd â’r gyllideb/gwariant hyd at 20/1/20.

Gofynnwyd i’r clerc adael yr ystafell ar yr adeg hon ac, ar ôl iddi ddychwelyd, rhoddodd y Cadeirydd wybod iddi y byddai ei chyflog blynyddol yn cynyddu i £1650.00

Roedd pob maes gwariant wedi cael ei archwilio, a’r costau wedi cael eu hystyried. Cytunwyd na ddylai’r praesept gynyddu, ac y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn a oedd eisoes ar gael, pe byddai angen.

Penderfynwyd y byddai’r praesept gofynnol ar gyfer 2020-21 yn £7,200.

Llofnodwyd y ffurflen yn briodol gan y Clerc, sef y Swyddog Ariannol Cyfrifol, a’r Cadeirydd, a byddai’n cael ei hanfon ymlaen at Adran Adnoddau Cyngor Sir Gâr.

The precept requirement for 2020 / 2021 was requested by Carmarthenshire County Council. 

Details of “Footway Lighting” charges for the financial year were made available by CCC £1964.30 (£1636.92 + £327.38 VAT).  The annual loan repayment (community LED lighting project) equates to £538.63 over a eight year period.

Details of Section 137 Expenditure Limit for 2020/21 – this being £8.32 per elector. There being 437 electors within the parish.  

The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base )(Wales) Regulations 1995, the figure for the Llangathen community 2020/21 being 266.32

Actual Income and Expenditure for the previous year was examined as was the budget / expenditure to 20/1/20.

It was at this point the clerk was asked to leave the room and on her return the chair advised that her annual salary would increase to £1650.

All areas of expenditure were explored and costs considered. It was agreed that the precept should not increase and to use reserves already available should it be necessary.

It was resolved that the precept requirement for 2020/21 be £7,200.  

The clerk, as the Responsible Financial Officer  and  Chair duly signed the form which is to be forwarded to Resources Department, CCC

19/55 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS

1. Mynegwyd pryder ynghylch yr holl sbwriel a oedd yn cael ei daflu yn ardal Derwen-fawr/ Llangathen. Byddai’r clerc yn ysgrifennu at goleg Gelli Aur yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithredu yn hyn o beth. 

Concern was expressed regarding the amount of litter being strewn in the Llangathen/Broad Oak area.  The clerk to write to Gelli Aur College asking for the cooperation of the students regarding this matter.

2. Gormod o ddwr yn cronni yng nghyffiniau Felindre. Byddai’r clerc yn ysgrifennu at CSC. 

 Excessive water gathering in the Felindre vicinity.  The clerk to write to CCC.

3.  Cwlfert wedi’i flocio yng Nghwmharad/Sarnagol, Dryslwyn

Blocked culvert Cwmharad / Sarnagol, Dryslwyn.  The clerk to write to CCC.

4. Perthi heb eu tocio digon a mwd ar y ffordd yn ardal Llangathen

 Insufficient trashing of hedge rows and mud on road Llangathen area.  The clerk to write to CCC.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING

Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen  yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 17eg o Fawrth 2020 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m. 

It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 17th March 2020 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.

Llofnod / Signed…………………………….

Dyddiad / Date………………………………….