POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA

POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA

Enw’r Cyngor: Cyngor Cymuned Llangathen

Cyfeiriad y Cyngor: Crachty Isaf, Capel Isaac, Llandeilo, Sir Gâr. SA19 7UH

Cyfeiriad e-bost: council@109.108.136.177

Rhif ffôn: 01558668349

Hysbysiad Preifatrwydd

Cysylltu â ni

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth gysylltu â ni (gwybodaeth bersonol, er enghraifft eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, eich sefydliad) yn cael ei phrosesu a’i storio er mwyn ein galluogi i gysylltu â chi, ymateb i’ch gohebiaeth, darparu gwybodaeth, a/neu ddarparu ein cyfleusterau a’n gwasanaethau. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu na’i darparu i unrhyw drydydd parti arall.

Hawl y Cyngor i Brosesu Gwybodaeth

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, Erthygl 6 (1) (a) (b) ac (e)

Bydd y gwaith prosesu yn cael ei wneud yn unol â chydsyniad testun y data, neu

Bydd y gwaith prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu

Bydd y gwaith prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg sy’n cael ei chyflawni mewn perthynas â budd y cyhoedd, neu wrth gynnal yr awdurdod swyddogol a freiniwyd i’r rheolwr

Diogelwch Gwybodaeth

Mae gan Gyngor Cymuned Llangathen ddyletswydd i sicrhau diogelwch data personol. Rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu rhag mynediad heb ei awdurdodi, colled, camddefnydd, ffugiad, achos o ddifrodi neu ddatgelu gwybodaeth heb awdurdod. Gwneir hyn trwy fabwysiadu polisïau priodol. Gellir gwneud cais am gopïau o’r polisïau hyn.

Byddwn yn cadw eich data i’r diben y cawsant eu casglu yn unig, a hynny gyhyd â’r hyn sy’n angenrheidiol yn unig. Ar ôl y cyfnod hwnnw, byddant yn cael eu dileu. (Gellwch gyflwyno cais i Gyngor Cymuned Llangathen ddileu eich data ar unrhyw adeg)

Plant

Ni fyddwn yn prosesu unrhyw ddata sy’n ymwneud â phlentyn (o dan 13 mlwydd oed) heb gael cydsyniad gan riant/warcheidwad y plentyn dan sylw.

Mynediad i Wybodaeth

Mae gennych yr hawl i wneud cais am fynediad i’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi. Gellwch wneud hyn trwy gysylltu â’r Clerc.

Cywiro Gwybodaeth

Os byddwch yn credu bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi yn anghywir, gellwch gysylltu â ni er mwyn ein galluogi i’w diweddaru a chadw cofnod cywir o’ch data. Cysylltwch â’r Clerc i wneud cais am hyn.

Dileu Gwybodaeth

Os hoffech i Gyngor Cymuned Llangathen ddileu’r wybodaeth amdanoch, cysylltwch â’r Clerc i wneud cais am hyn.

Yr Hawl i Wrthwynebu

Os na fyddwch yn credu bod eich data yn cael eu prosesu i’r diben y cawsant eu casglu, gellwch gyflwyno gwrthwynebiad. Cysylltwch â’r Clerc i wrthwynebu.

Hawliau mewn perthynas â Gwneud Penderfyniadau a Phroffilio Awtomatig

Nid yw Cyngor Cymuned Llangathen yn defnyddio unrhyw broses gwneud penderfyniadau na phroffilio awtomatig mewn perthynas â data personol unigolyn.

Casgliad: Yn unol â’r gyfraith, rydym dim ond yn casglu swm cyfyngedig o wybodaeth amdanoch sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gohebiaeth, gwybodaeth a gwasanaethau. Nid ydym yn defnyddio proffilio nac yn gwerthu na’n trosglwyddo eich data i drydydd partïon. Nid ydym yn defnyddio eich data i ddibenion heblaw’r rheiny a nodir. Rydym yn sicrhau bod eich data yn cael eu storio mewn modd diogel. Rydym yn dileu’r holl wybodaeth nad yw’n angenrheidiol mwyach. Rydym yn adolygu ein Polisïau Preifatrwydd yn gyson er mwyn eu cadw’n gyfredol mewn perthynas â diogelu eich data. (Gellwch wneud cais am gopi o’n polisïau ar unrhyw adeg.)

Cwynion

Os bydd gennych gwyn am y modd y mae eich data personol wedi cael eu prosesu, gallwch gwyno wrth Gyngor Cymuned Llangathen a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: casework@ico.org.uk Rhif ffôn: 0303 123 1113