Caiff plwyf Llangathen ei amgylchynu gan blwyfi Llanegwad, Llanfynydd, Llandeilo Fawr, Llandyfeisant, Llanfihangel Aberbythych, Llanarthne a chan afonydd Tywi, Dulas, Sannan, Parcau a Myddfai.
Mae’r A40 o Abergwaun i Lundain yn rhedeg yn groes o’r Dwyrain i’r Gorllewin trwyddo a chaiff ei groesi gan y B4297 trwy Ddryslwyn, Cwrt-henri a Llanfynydd a chan yr C2152 trwy Gelli-aur i Gapel Isaac. Mae’r holl lwybrau troed o 42/2 i 42/23 yn croesi’r plwyf.
Eglwysi a Chapeli
1. Eglwys Blwyf Llangathen
Eglwys Cwrt-henri yw’r ferch eglwys
Y Canon Sian Jones
2. Capel Methodist Cross Inn yng Nghwrt-henri.
Mae’r Capel Coleg Methodistiaid Calfinaidd yn Llangathen bellach wedi cau.
Mae Capel Annibynwyr Penyrheol hefyd wedi cau.
Ysgolion
Nid oes ysgolion yn y plwyf ond mae Ysgol Cwrt-henri’n darparu addysg gynradd.
Cynhelir Cylch Meithrin yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri bedair bore’r wythnos.
Darperir addysg uwchradd yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo.
Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin.
Mae dwy neuadd bentref:
Neuadd Bentref Llangathen
Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri
Safleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol
1. Y Grongaer. Caer Geltaidd Cyn y Rhufeiniaid dan berchnogaeth breifat.
2. Castell Dryslwyn. Ar agor i’r cyhoedd o’r ardal bicnic leol ger Pont Dryslwyn. Bu’n un o gestyll tywysogion Cymru a bu’n dyst i nifer o frwydrau a gwarchaeoedd.
3. Plasty a Gerddi Aberglasne. Maent o bosib yn dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif. Mae gan y Plasty a’r Gerddi nifer o nodweddion o gyfnod yr 16eg ganrif a chyfnod Brenhines Elisabeth y 1af. Cawsant eu hadfer a chânt eu cynnal a’u cadw gan Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne ac maent ar agor i’r cyhoedd trwy’r flwyddyn.
4. Eglwys Llangathen gyda bedd yr Esgob Rudd. Yr Esgob Rudd oedd esgob Esgobaeth Tyddewi. Dewisodd gael ei gladdu ger ei gartref yn Aberglasne yn hytrach nag yn ei Gadeirlan yn ôl yr arfer.
5. Llethr Cadfan. Cafodd ei alw’n wreiddiol yng Nghefnmelgoed, ac yn ystod dechrau’r 15fed ganrif roedd yn gartref i deulu dylanwadol y Fychaniaid. Cynhaliwyd brwydr Llethr Cadfan ym 1646 rhwng byddin y Brenhinwyr a byddin Seneddol Oliver Cromwell. Cipiwyd bron 100 o Frenhinwyr yn garcharorion a’u cadw yng Nghastell Hwlffordd. Yn ôl hanesion lleol roedd y fyddin seneddol wedi cadw’u ceffylau yn Eglwys Llangathen. Gwnaeth teulu’r Fychaniaid hefyd adeiladu Plasty Cwrt-henri, Glandulais Fawr, Lanlash a Brynhafod Fawr.
6. Ar un adeg roedd Penhill yn gartref i Ficer Llangathen, William Hughes a’i fab Samuel Hughes a oedd yn frenhinwr ffyddlon yn ystod y Rhyfel Cartref.
Tafarndai / Gwestai
Bellach dim ond un dafarn sydd yn y plwyf sef Cottage Inn, Pentrefelin.