CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth, 21 Ionawr, 2025 yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the Llangathen Community Council meeting held on Tuesday, 21st January 2025 in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs Anjuli Davies & O. Gruffydd (cadeirydd/joint chair), Ann Davies, E. Rees, B. Jones a/and A. Hughes. Hefyd yn presennol / In attendance Cyng Sir/County Councillor H. Jones a/and Mrs M Rees (clerc/clerk)
24/59 YMDDIHEURIADAU/APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan/apologies for absence from: Cyng/Cllrs C Moses, a/and E. Morgan.
24/60 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Datganodd Cyng/Cllr Owain Sion Gruffydd ddiddordeb mewn gohebiaeth Trywydd.
Cyng/Cllr Owain Sion Gruffydd declared an interest in the Trywydd correspondence.
Datganodd Cyng/Cllr Angela Hughes diddordeb mewn cais cynllunio PL/08615 / Cyng/Cllr A. Hughes declared an interest in the planning application PL/08615.
24/61 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Rees ac eiliwyd gan Cyng. Ann Davies fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 19 Tachwedd 2024 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Rees and seconded by Cllr. Ann Davies that the minutes of the meeting held on Tuesday, 19thNovember 2024 be accepted as a correct record of proceedings.
24/62 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 24/39 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Cafwyd ateb gan SWTRA, Llywodraeth Cymru, yn nodi na fyddai asesiad o’r A40 wrth Sgwâr Dryslwyn a chroesffordd Derwen-fawr yn cael ei gynnal y flwyddyn ariannol hon. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd GanBwyll wedi anfon ateb ynghylch y cais i gael gweld dyddiad y cyflymder yn y lleoliadau uchod. Dywedwyd y byddai tîm Heddlu Dyfed-Powys yn cysylltu â nhw maes o law.
Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn siarad â Mike Jacob o CSC ynghylch y data cyflymder.
A reply from Welsh Government, SWTRA, advise that an assessment on the A40 at the locations of Dryslwyn Square and Broad Oak crossroads will not be carried out during this financial year. However, it is anticipated that this will take place in the next financial year.
GoSafe had replied regarding the request to have sight of the speed date at the above locations. They advise that the team within Dyfed-Powys Police would be in touch in due course.
Cllr. Hefin Jones will speak to Mike Jacob of CCC regarding the speed data.
24/63 1 BANCYDDERWEN, BROAD OAK
Roedd y mater yn parhau i fod heb ei ddatrys oherwydd blaenoriaethau ariannu.
The matter remains outstanding due to funding priorities.
24/64 CEISIADAU UN BLANED / ONE PLANET APPLICATIONS
Nid oedd CSC wedi darparu’r wybodaeth/hyfforddiant y gofynnwyd amdano ynghylch y mater hwn er gwaethaf ymdrechion y Cyng. Hefin Jones i drefnu hyn. Byddai’r Cyng. Jones yn parhau i fynd ar drywydd y mater.
CCC have failed to provide the requested information/training on this matter despite Cllr Hefin Jones efforts to arrange this. Cllr Jones will continue to persue the matter.
24/65 EXCESSIVE WATER ACCUMULATING CWMHARAD TO CWMAGOL
Erys pryderon ynghylch y mater hwn. Roedd un o’r trigolion lleol wedi cyflwyno llythyr yn mynegi pryder/cwyn ynglŷn ag amodau gwael y rhan hon o’r ffordd. Oherwydd yr arwyneb llithrig roedd bellach yn beryglus i gerddwyr. Byddai’r Cyng. E. Morgan yn mynegi’r mater i CSC a chytunodd y Cyng. Hefin Jones i wneud hynny hefyd.
Concerns remain regarding this matter. A local resident had submitted a letter of concern/complaint regarding the poor conditions of this section of road. Due to the slippery surface it has become dangerous for walkers. Cllr. E. Morgan is to raise the matter with CCC and Cllr. Hefin Jones agreed to do so also.
24/66 ARWYDDION / SIGNS – FELINDRE / SGWAR DRYSLWYN
Mae’r arwyddion wedi ei gywiro. Signs have now been rectified.
24/67 APPLICATIONS FOR DISPENSATION / CEISIADAU AM ODDEFEB
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â cheisiadau am oddefeb. Bydd y cynghorwyr yn penderfynu’n unigol a ydynt yn dymuno parhau â’r cais am oddefeb neu a fyddent yn ystyried gwneud cais fel grŵp.
A discussion took place regarding dispensation applications. Councillors will decide individually whether they wish to continue with the applied for dispensation or if they would consider applying as a group.
24/68 TALIADAU I AELODAU CYNGHORAU CYMUNED / PAYMENTS TO MEMBERS OF COMMUNITY COUNCIL
Roedd saith Cynghorydd wedi llofnodi ffurflen datganiad i wrthod y Taliadau Lwfans i Gynghorwyr.
Seven Councillors have signed a declaration form to decline receiving Councillor Allowance Payments.
24/69 CARAVANS, HAFOD, CAPEL ISAAC
Cadarnhaodd y Cyng. Hefin Jones fod CSC wedi cofrestru Gorchymyn Gorfodi yn y lleoliad hwn.
Cllr Hefin Jones confirmed that CCC had registered an Enforcement order at this location.
24/70 PLANNING TRAINING PROGRAMMES
Roedd y clerc wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â hyfforddiant ar faterion Cynllunio. Roedd Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnig rhaglenni hyfforddi ar-lein amrywiol. Byddai’r Cynghorwyr yn edrych ar y wefan ac yn rhoi gwybod am unrhyw raglenni yr hoffent eu dilyn.
The clerk had made enquiries regarding training on Planning matters. Planning Aid Wales offered various on line training programmes. Cllrs would visit the website and advise of any programmes that they may wish to attend.
24/71 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Ovw
Guidelines about Email and Procurement // Canllawiau am E-byst a Chaffael
Dementia Action Plan Survey // Arolwg Cynllun Gweithredu Dementia
Top 10 Things to do for Councils // 10 Peth Pwysig i’w Gwneud i Gynghorau
One Voice Wales response to the Senedd Inquiry for Community and Town Councils // Ymateb Un Llais Cymru i Ymchwiliad y Senedd i Gynghorau Cymuned a Thref
TRAINING DATES – NOVEMBER 2024 – MARCH 2025 / DYDDIADUA HYFFORDDIANT – TACHWEDD 2024 – MAWRTH 2025
IMPORTANT: Information on RAAC in Buildings // Gwybodaeth am RAAC mewn Adeiladau
Canllawiau Digidol/Digital Guidance – Storfa Cwmwl/Cloud Storage
INQUIRY LAUNCH: Community cohesion
Dweud eich dweud 2024: Neges i bobl hŷn / Have Your Say 2024: A message to older people
Valuation Tribunal for Wales Membership Recruitment // Recriwtio Aelodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru
You deserve an award!! One Voice Wales National Awards 2025 // Rydych chi’n haeddu gwobr!! Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2025
Participate in new important Wales community resilience research // Cymerwch ran mewn ymchwil cymunedol newydd pwysig i hybu gwytnwch yng Nghymru
Consultation to seek views on whether to designate two new sites as bathing waters for the 2025 bathing season
IMPORTANT/ PWYSIG Asbestos Awareness Training – Save the Dates // Cyrsiau Hyfforddi ar Ymwybyddiaeth Asbestos – Cofiwch y Dyddiadau
Pwyllgor Ardal Caerfyrddin – Carmarthen Area Committee 22.1.25
Prosiect Argyfwng Cost Byw – Gwybodaeth ac Adnoddau / Cost of Living Crisis Project – Information and Resources
Area Committee Survey // Arolwg o’r Pwyllgor Ardal – Clerk to complete
Unjumbling the Jargon // Gwneud Synnwyr o’r Jargon
Cost of Living Crisis Project ‘Working With Partners: To Deliver Cost of Living Support to Your Community’ Webinar – 6/2/25
Can You help // Allwch Chi Helpu – Volunteers Country Cars – Posters
General
Dyfed Powys Police . Streetsafe
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n Lansio Ymgynghoriad ar y Gyllideb Blismona ar gyfer 2025/26/ Police and Crime Commissioner Launches Policing Budget Consultation for 2025/26
Gwahoddiad: Cynhadledd Plismona Seiliedig ar Dystiolaeth 2025 | Invitation: Evidence-Based Policing Conference 2025 – 4/3/25
CCC
Diweddariad i Gynghorau Tref a Chymuned – Ymgynghoriad ar y gyllideb 2025 / Town & Community Councils Update – Budget Consultation 2025
Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned 22.01.2025 Community & Town Councils Liaison Forum
Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Ramblers Cymru / Carmarthenshire’s Public Rights of Way Team and Ramblers Cymru
Fforwm Cyswllt Cynghorau Tref a Chymuned 22.01.2025 Community & Town Councils Liaison Forum
Mid and West Wales Fire and Rescue Service (MAWWFRS) supports Register my Appliance week. | Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Cofrestru fy Offer Trydanol
FINANCIAL ASSISTANCE REQUESTS
Cais am gefnogaeth | Request for support – Urdd Gobaith Cymru
24/72 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Trywydd (Cyfieithu Cofnodion Tachwedd/Translation November
Minutes 38.95
Aelodaeth SLCC Membership 110.00
CSG / CCC Replacement Lanterns to LED 688.06
Costiau Clerc/Clerks Expenses 91.45
Lloyds Bank Statement: Tachwedd/November – £6260.69 Rhagfyr/December £8783.80
Praesept / Precept credit – Rhagfyr / December – £3000
24/73 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor.
The following applications were considered by the Council.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
Clamp silwair concrit newydd
a gwaith cysylltiedig
PL/08615 Replacement concrete silage Caeau Newydd, Dryslwyn
clamp and associated works SA32 8RA
Dim gwrthwynebiadau / no objections
Decisions made by CCC on planning applications:
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
PL/07883 – Cildderi, Broad Oak. SA32 8QP – CLOPUD Approval
PL/08473 – Birds Hill Farm, Llandeilo. SA19 6SH – Householder Granted
PL/08474 – Birds Hill Farm, Llandeilo. SA19 6SH – CLOPUD Approval
24/74 GOFYNIAD PRAESEPT / PRECEPT REQUIREMENT 2025 / 2026
Roedd Cyngor Sir Gâr wedi gwneud cais am ofyniad praesept 2025-2026.
Nid oedd manylion costau “Goleuadau Troedffordd” ar gyfer y flwyddyn ariannol uchod ar gael gan CSC. Roedd yr ad-daliad benthyciad blynyddol (prosiect goleuadau LED cymunedol) yn cyfateb i £538.63 (net) dros gyfnod o wyth mlynedd. Roedd yr anfoneb wedi dod i law.
Manylion am Derfyn Gwariant Adran 137 ar gyfer 2025-2026 – sef £11.10 yr etholwr. Roedd oddeutu 437 o etholwyr yn y plwyf.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995: y ffigur ar gyfer cymuned Llangathen 2025-2026 oedd £280.53 – y dreth ar gyfer eiddo Band D
Ymchwiliwyd i Incwm a Gwariant Gwirioneddol y flwyddyn flaenorol, ynghyd â’r gwariant a’r gwariant amcangyfrifedig hyd at 31/3/25.
Ymchwiliwyd i’r holl feysydd gwariant ac ystyriwyd y costau. Roedd yr aelodau wedi gweithio ar leihau swm y cronfeydd.
Penderfynwyd y byddai’r praesept gofynnol ar gyfer 2025-2026 yn £9,500.
Trefnwyd i’r ffurflen gael ei harwyddo gan y clerc, fel y Swyddog Ariannol Cyfrifol, a’r Cadeirydd, a’i bod yn cael ei hanfon ymlaen i’r Adran Adnoddau, CSC.
The precept requirement for 2025 / 2026 was requested by Carmarthenshire County Council.
Details of “Footway Lighting” charges for the above financial year unavailable from CCC The annual loan repayment (community LED lighting project) equates to £538.63 (net) over a eight year period, the invoice had been received.
Details of Section 137 Expenditure Limit for 2025/2026 – this being £11.10 per elector. There being approximately 437 electors within the parish.
The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base )(Wales) Regulations 1995, the figure for the Llangathen community 2025/2026 being 280.53 – levied for a Band D property.
Actual Income and Expenditure for the previous year was examined as was expenditure and estimated expenditure to 31/3/25.
All areas of expenditure were explored and costs considered. Members, as in the previous year had worked on reducing the amount of reserves.
It was resolved that the precept requirement for 2025/2026 be £9,500.
Arrangements were made for the form to be signed by the clerk, as the Responsible Financial Officer and Chair and to be forwarded to Resources Department, CCC
24/75 MODEL FINANCIAL REGULATIONS FOR COMMUNITY & TOWN COUNCILS (2024)
Cyflwynwyd y ddogfen i’r Cynghorwyr a gwnaed addasiadau fel y bo’n briodol.
Gan fod y ddogfen yn hirfaith, penderfynwyd ei chwblhau yn y cyfarfod nesaf.
The document was presented to Councillors and adjustments were made as appropriate.
As the document was lengthy, it was resolved to complete in the next meeting.
24/76 DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd y Diffibrilwyr wedi cael eu harchwilio. The Defibrillators had been checked.
Gofynnwyd i’r clerc archebu padiau pediatrig ar gyfer y Diffibriliwr yn Siop Dryslwyn.
The clerk was asked to order paediatric pads for the Defibrillator sited at Dryslwyn Shop.
Roedd y wefan wedi’i diweddaru er mwyn nodi lleoliad yr holl Ddiffibrilwyr yn y plwyf.
The website has been updated indicating the siting of all Defibrillators within the parish.
24/77 GWERTHUSIAD Y CLERC / CLERK’S APPRAISAL
Byddai’r Cadeirydd a’r Clerc yn gwneud trefniadau i gwblhau’r gwerthusiad.
The Chair and the Clerk to make arrangements for the appraisal to be completed.
24/78 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cyng. Hefin Jones wrth yr aelodau y byddai treth y cyngor yn cynyddu pan fyddai’n cael ei gosod, ond nad oedd penderfyniad wedi’i wneud o ran y swm hyd yma; rhagwelwyd y gallai godi 9.75%.
Roedd y stormydd diweddar wedi achosi difrod ar lawer o ffyrdd, a’r ffyrdd B a oedd wedi dioddef fwyaf efallai. Ei gyngor oedd y dylid rhoi gwybod am unrhyw faterion cyn gynted â phosibl.
Nid oedd y biniau ar ochr y ffyrdd wedi cael eu casglu gan CSC am wythnos neu fwy mewn llawer o ardaloedd. Roedd hyn oherwydd problemau yn ymwneud â chontractau.
The recent storms had left damage issues on many roads, with B roads perhaps suffering the most. His advice was to report any issues as soon as possible.
The CCC bin collection service had seen many areas left with bins being left on road side for a week or more. This was due to problems associated with contracts.
24/79 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
The bus shelter at Dryslwyn Square had been severely damaged following the storm. This had been reported to CCC.
The street light in Capel Isaac is not in working order. The clerk to report.
24/80 DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal nos Fawrth 18 Mawrth 2025 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday March 18th 2025 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Bydd gwasanaeth ffôn ar gael i’r rhai na allant fynychu’n bersonol.
A telephone service will be made available to those not able to attend in person.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….