Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024
1. Dyddiad cyhoeddi 10/6/24
2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
M Rees, Crachty Isaf, Capel Isaac, Llandeilo. SA19 7UH
Rhif Ffon: 01558668349 council@llangathen.org.uk
Rhwng yr oriau o 10yb a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024
Ac yn dod i ben ar 25 Gorffennat 2024
3. O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
· yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglyn â’r cyfrifon.
· yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Tyndall Street, Cardiff CF10 4BZ neu ebost
communitycouncilaudits@audit.wales
4. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.