CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor Cymuned saith Cynghorydd – Eiryl Rees (cadeirydd), Cled Moses (is-gadeirydd), Ann Davies, Beryl Jones, Emyr Morgan, Linda Hughes ac Anjuli Davies. Yn dilyn etholiadau mis Mai 2022, penderfynodd Mark Williams beidio â sefyll i gael ei ailethol. Roedd y cynghorwyr yn siomedig iawn gan ei fod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned. Mae yna le gwag bellach. Etholwyd y Cynghorydd Hefin Jones yn Gynghorydd Sir dros Lanfihangel Aberbythych. Mae Mairwen Rees yn parhau’n Swyddog Ariannol Cyfrifol a Chlerc. Council@llangathen.org.uk David Morris, cyfrifydd, yw’r Archwilydd Mewnol.
Dewisodd pob Cynghorydd optio allan o gael y Lwfans Cynghorwyr blynyddol o £150.
Cynhaliwyd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri ar gyfer misoedd Mai, Gorffennaf, Medi, Tachwedd a Mawrth a chynhaliwyd cyfarfod mis Ionawr 2023 dros Zoom.
Y praesept ar gyfer 2023-2024 yw £9,000
Roedd yr anfoneb ar gyfer Goleuo’r Droedffordd yn £846.39 (net) a’r anfoneb LED ar gyfer y benthyciad wyth mlynedd yn £573.38 (net). Roedd y materion ynglyn â’r goleuadau stryd wedi’u datrys.
Cynhelir gwerthusiad y clerc yn flynyddol ac mae’r Cynllun Hyfforddi – ar gyfer Cynghorwyr a’r Clerc – yn cael ei ddiweddaru yn ôl y gofyn.
We Dig Media sy’n dal i reoli’r wefan www.llangathen.org.uk
Mae cyfathrebu rhwng y Cynghorwyr a’r Clerc yn digwydd trwy e-bost, dros y ffôn a thrwy’r post.
Mae cyfathrebu rhwng y gymuned a’r Cyngor Cymuned yn digwydd trwy hysbysfyrddau, y wefan ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys trwy glybiau a mudiadau.
Mae maes y pentref yn Nerwen-fawr yn cael ei dorri yn ystod misoedd yr haf ac mae Cynghorwyr a thrigolion lleol yn gwirfoddoli i ofalu am y blychau blodau.
Mae Archwilio Cymru bellach wedi dal i fyny â’r ôl-groniad o archwiliadau, a chymeradwywyd cyfrifon Cyngor Cymuned Llangathen ar gyfer 2019-2020, 2020-2021 a 2021-2022.
Telir aelodaeth flynyddol i Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.
Mae’r A40 yn Sgwâr Dryslwyn a Derwen-fawr yn parhau i fod yn bryder – mae’r Cynghorydd H Jones wedi trafod materion â Jonathan Edwards AS, ac yn ddiweddar daeth adroddiad gan LlC ar gael.
Mae Sbwriel a Baw Cwn yn y plwyf wedi cael sylw ac yn parhau i gael eu monitro.
Mae materion yn ymwneud ag Adeilad Cyfnewidfa BT a llwybrau/parcio yn Nerwen-fawr yn parhau i fynd rhagddynt. Mae pryderon ynghylch Tipio Anghyfreithlon wedi’u dwyn i sylw’r Cynghorwyr yn ddiweddar.
Yn ddiweddar gwnaed cais i Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn dad-wardio’r plwyf.
Gwnaed cais llwyddiannus am ddiffibriliwr am ddim i LlC. Cymeradwywyd hyn ac yn amodol ar brynu cabinet.
Rhoddwyd cyfanswm o £1190.00 at achosion da ac yn bennaf i fudiadau lleol.
Rhoddwyd £70 i bob un o’r neuaddau – Yr Ystafell Ddarllen a Llangathen – er mwyn prynu llwyni/bylbiau i gydnabod Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Penderfynwyd gwrthwynebu’r peilonau arfaethedig sydd i’w codi yn Nyffryn Tywi a gofyn am i’r ceblau gael eu gosod o dan y ddaear.