CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 15 Ionawr 2019 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 15th January 2019 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : A. Davies (cadeirydd / chair), M. Wynne, M. Williams, E. Rees, B. Jones a/and C. Moses.
18/39 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence was received from Cyng. / Cllr. L. Hughes.
18/40 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
18/41 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. M. Williams ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2018 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. M. Williams and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Tuesday, 20th November 2018 be accepted as a correct record of proceedings.
18/42 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 18/34 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Roedd y Cyng. C. Campbell wedi cysylltu ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru sawl gwaith er mwyn trefnu cyfarfod safle gyda Hywel Davies. Yn anffodus, nid oedd hyn wedi dwyn ffrwyth, ond byddai’r Cyng. Campbell yn mynd ar drywydd y mater ac yn rhoi gwybod i’r aelodau yn unol â hynny.
Dywedwyd hefyd fod damwain wedi digwydd ar yr A40 yn ardal Derwen-fawr, a bod yr heddlu wedi cael eu galw i’r ddamwain.
Cllr. C. Campbell had contacted South Wales Trunk Road Agency (SWTRA) on countless occasions in order to arrange a site meeting with Hywel Davies. Unfortunately, this had not come to fruition but Cllr. Campbell will pursue the matter and advise members accordingly.
It was also reported that an accident had occurred at the Broad Oak section of the A40, there was police involvement at this accident.
Cof/Min 18/34 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Yn dilyn trafodaeth ynghylch y ddau ddiffibriliwr sydd yn y plwyf, penderfynwyd y byddai’n arfer da gwirio’r cyfarpar a chadw cofnod.
Following a discussion regarding the two Defibrillators sited within the parish, it was deemed good practice to check the apparatus and to keep a log.
Cof. / Min. 18/34 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To review at the next meeting.
Cof./Min 18/34 (4) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To be reviewed next meeting.
Cof/Min 18/34 (5) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC
Nid yw’r clerc wedi derbyn ateb gan Ceri Davies, y Swyddfa Gynllunio Leol, CSC. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf
The clerk has not received a reply from Ceri Davies, LPO, CCC. To follow up in due course and review at the next meeting.
Cof/Min 18/34 (6) CARAVAN, CAE LLOI, DRYSLWYN
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To be reviewed next meeting.
Cof/Min 18/34 (7) BROAD OAK – DAMAGED CONCRETE BOLLARDS
Roedd pris am y costau atgyweirio wedi’i gyflwyno i Adran Dai Cyngor Sir Gâr. Yn aros am ymateb.
A price for the cost of the repairs has been submitted to Housing Department, CCC. Awaiting a response.
Cof/Min 18/34 (8) BROAD OAK – Parcio / Parking
Dywedodd y Cyng. Campbell y byddai’n ymweld â’r safle gyda Helen Owen, syrfëwr, yr Adran Dai, Cyngor Sir Gâr, er mwyn asesu’r sefyllfa.
Cllr. C. Campbell advised that he would be visiting the site with Helen Owen. surveyor, Housing Dept., CCC., in order to assess the situation.
Cof/Min 18/34 (9 & 10) BLWCH GRAEAN / GRIT BOXES, LLANGATHEN
O ganlyniad i gamddealltwriaeth, nid oedd yna flwch graean newydd ar ochr Llangathen o Sgwâr Derwen-fawr. Ni argymhelli y dylid adleoli blwch graean a oedd yn bodoli eisoes. Byddai’r Cyng. E. Morgan yn ymchwilio i fater y blychau graean yn yr ardal hon.
Due to a misunderstanding, there is no new grit box at the Llangathen side of Broad Oak Square. The re-locating of an existing grit box is not recommended. Cllr. E. Morgan will look into the issues of grit boxes in this area.
18/43 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. CSG/CCC – Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2018-2033 / Carmarthenshire Revised Local Development Plan 2018-2033
2. Cyfarchion y Timor / Season’s Greetings – Cadeirydd y Cyngor a’i Gydymaith / Chairman of Council and his Consort
3. Lloyds Back – Datganiad/Statement – Tachwedd / November 2018 – £8015.65
Rhagfyr / December 2018 – £10415.65
Requests for Financial Assistance
1. 2019 Welsh National Sheep Dog Trials, Food & Craft Festival
Brochures/Circulars
1. Clerks & Councils Direct
2. Play for Wales
tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Neges oddi Carers Wales / A Message from Carers Wales
* Ammanford Town Council Clerks Job Vacancy
* Use of Welsh Language Survey / Arolwg Defnydd Iaith Gymraeg
* Local Government needs to do more to develop a strong data culture
* Cylchlythyr Tachwedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu / Police and Crime Commissioner November Newsletter
* Connecting Communities in Wales Newsletter / Cylchlythyr Cysylltu Cymunedau yng Nghymru
* 2019-20 National Pay Agreement – I Weithredu: Cytundeb Cyflog Cenedlaethol 2019-20
* First Minister’s new Cabinet announced
* Cyfarfod Pwyllgor Ardal Caerfyrddin Un Llais Cymru 09/01/2019 – One Voice Wales Carmarthenshire Area Committee Meeting 09/01/2019
* Closing Date 25th January – One Voice Wales National Awards Conference 2019 / Dyddiad cau 25ain Ionawr – Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2019
* Use of Welsh Language Survey/Arolwg Defnydd Iaith Gymraeg https://www.surveymonkey.co.uk/r/RDPC8ZD
* Cylchlythyr Arbenning y Comisiynydd Pobl Hyn Cymru/ Older Peoples Commissioners Newsletter Special Bulletin
wendi.patience@onevoicewales.org.uk
* MARCH 2019 ONE VOICE WALES TRAINING SESSIONS – MID / SESSIWN HYFFORDDIANT UN LLAIS CYMRU – Y CANOLBARTH – IONAWR – MAWRTH 2019 – wedi danfon ymlaen i Cynghorwydd / forwarded to Councillors.
shan.bowden@unllaiscymru.org.uk
* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion Blwyddyn Newydd 2019 /New Year 2019 News Bulletin
ENVPropertyAssets@carmarthenshire.gov.uk
* * Cyfle hysbysebu i Gynghorau Tref a Chymuned / Town and Community Council’s Advertising Opportunity
EEDForwardPlanning@carmarthenshire.gov.uk
* Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033 / Carmarthenshire Revised Local Development Plan 2018 – 2033 – wedi danfon ymlaen i Cynghorwydd / forwarded to Councillors.
* Diweddariad Cyngor Cymuned a Thref / Community and Town Council Update – wedi danfon ymlaen i Cynghorwydd / forwarded to Councillors.
A.Dymock@agecymrusirgar.org.uk
* Saving energy and reducing costs – Age Cymru Sir Gar Ann Dymock – – wedi danfon ymlaen i Cynghorwydd / forwarded to Councillors.
LlinEvans@carmarthenshire.gov.uk
* Cyllid/Budget 2019-2022 – Arolwg Ymgynghori ar Gyllideb Ar-lein / Online Budget Consultation Survey
* Apel Nadolig / Christmas Appeal
* Rhagolygon o ran Cyllideb Refeniw / Revenue Budget Strategy 1
* Cynllun Corfforaethol Drafft/Draft Corporate Plan 2019 – 2024
WelshGovernment@public.govdelivery.com
Natural Resources Bulletin – Issue 34 – December 2018 Welsh Government
18/45 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
Trywydd £
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation (Medi / September 2018) 26.35
M. Rees – Cyflog Mis Medi / September Salary 266.66
M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 97.81
18/46 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd:
Approved planning applications:
E/37952 – Dymchwel yr estyniad un llawr pren presennol er mwyn codi estyniad preswyl deulawr yn ei le /Demolition of existing timber single storey extension to be replaced with a two storey
residential extension – Tir Cae, Llangathen, Carmarthen. SA32 8QF
E/37979 – Estyniad un llawr gyda theras to / Single storey extension with roof terrace – Cwm Crwth, Broad Oak, Carmarthen. SA32 8QP
E/37205 – Gwaith Atgyweirio ar Gafnau To’r Ninfarium/Roof Repairs to Ninfarium Gutters – Gerddi Aberglasney Gardens, Llangathen
18/47 MODEL REOLAU SEFYDLOG 2018 (Cymru) / MODEL STANDING ORDERS 2018 (Wales)
Roedd y Clerc wedi cyflwyno’r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol a lenwyd yn briodol o blaid Cyngor Cymuned Llangathen. Cytunwyd yn unfrydol i fabwysiadu’r Rheolau Sefydlog hyn. Llofnododd y Cadeirydd y dogfennau yn briodol, a byddai’r clerc yn eu cadw ar ffeil er gwybodaeth.
The clerk had presented The Model Standing Orders having been duly completed in favour of Llangathen Community Council. It was unanimously agreed to adopt these Standing Orders. The chair duly signed the documents and the clerk to keep on file for reference.
18/48 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cyng. Cefin Campbell wrth yr aelodau ei fod yn gyfnod anodd o fewn y sir ar y pryd. Gyda llai o arian yn dod o San Steffan i Gymru, roedd yn rhaid gwneud rhagor o arbedion a dod i benderfyniadau anodd iawn. Roedd angen gwneud arbedion gwerth £9 miliwn yn y flwyddyn i ddod, a hynny yn dilyn y £50 miliwn a arbedwyd eisoes yn ystod y blynyddoedd blaenorol.
Byddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, yn ymddeol.
Roedd yn bosibl y byddai rhagor o waith yn dechrau ar Lwybr Beicio Sir Gâr, a hynny o Ffair-fach, Llandeilo.
Cllr. Cefin Campbell informed members that it was, at present, a difficult time within the county. With less money coming from Westminster to Wales, more savings were having to be made and some very difficult decisions agreed upon. £9 million savings need to be made during this coming year following £50 million already having been saved over the previous four years.
CCC Chief Executive, Mark James will be retiring.
It is possible that further work on the Carmarthenshire Cycle Path may begin from Ffairfach, Llandeilo.
18/49 GOFYNIAD PRAESEPT / PRECEPT REQUIREMENT 2017 / 2018
Gofynnwyd am ofyniad praesept 2019/2020 gan Gyngor Sir Gâr.
Nid oedd manylion costau “Goleuadau Troetffyrdd” ar gael, ond ar gyfer y flwyddyn flaenorol, y gost oedd £1752.16 (£1460.14 + £292.03 TAW).
Manylion am Derfyn Gwariant Adran 137 ar gyfer 2019/20 – sef £8.12 yr etholwr. Roedd 419 o etholwyr yn y plwyf.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor)(Cymru) 1995: y ffigur ar gyfer cymuned Llangathen 2019/20 oedd 263.82.
Ymchwiliwyd i Incwm a Gwariant Gwirioneddol y flwyddyn flaenorol, ynghyd â’r gyllideb/gwariant hyd at 15/1/19.
Roedd pob maes gwariant wedi cael ei archwilio, a’r costau wedi cael eu hystyried. O ganlyniad i ansicrwydd Brexit, cytunwyd na ddylai’r praesept gynyddu, ac y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn a oedd eisoes ar gael, pe byddai angen.
Penderfynwyd y byddai’r praesept gofynnol ar gyfer 2019-20 yn £7,200.
Llofnodwyd y ffurflen yn briodol gan y Clerc, sef y Swyddog Ariannol Cyfrifol, a’r Cadeirydd, a byddai’n cael ei hanfon ymlaen at Adran Adnoddau Cyngor Sir Gâr.
The precept requirement for 2019 / 2020 was requested by Carmarthenshire County Council.
Details of “Footway Lighting” charges for the financial year were unavailable but for the previous year were £1752.16 (£1460.14 + £292.03 VAT).
Details of Section 137 Expenditure Limit for 2017/18 – this being £8.12 per elector. There being 419 electors within the parish.
The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base )(Wales) Regulations 1995, the figure for the Llangathen community 2019/20 being 263.82
Actual Income and Expenditure for the previous year was examined as was the budget / expenditure to 15/1/19.
All areas of expenditure were explored and costs considered. Due to the uncertainty of BREXIT it was agreed that the precept should not increase and to use reserves already available should it be necessary.
It was resolved that the precept requirement for 2019/20 be £7,200.
The clerk, as the Responsible Financial Officer and Chair duly signed the form which is to be forwarded to Resources Department, CCC.
18/50 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Tynnwyd sylw’r aelodau at y ffaith bod Mr Dylan Morgan, Derwen-fawr, wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau nofio yn ddiweddar. Penderfynwyd anfon llythyr at Mr Morgan yn ei longyfarch.
It had been brought to the attention of members that Mr Dylan Morgan, Broad Oak had very successfully represented Wales in recent swimming competitions. It was decided to forward a congratulatory letter to Mr Morgan.
2. Roedd Gwobrau Cymeriad Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gâr yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd bob blwyddyn, ac awgrymwyd y dylai’r aelodau chwilio am enwebiadau ymhlith ymgeiswyr addas ar gyfer y gwobrau hyn. Gwnaed nodyn atgoffa i drafod hyn eto yn y cyfarfod ym mis Medi.
In November of each year, The Carmarthenshire Sports Personality of the Year Awards were held and it was suggested that members sought nominations of suitable candidates’ for these awards. A reminder to be discussed in the September meeting.
3. Nid oedd golau’r stryd yn gweithio’n iawn ger eiddo Caeaunewydd, Dryslwyn.
Street light not working near the property of Caeaunewydd, Dryslwyn.
DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 19 Mawrth 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 19th March 2019 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….