CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth Mai 15, 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the Annual General Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 15th May 2018, at the Reading Rooms, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng/Cllrs.: A. Davies, (acting chair), E. Morgan, M. Williams, M. Wynne, B.Jones and E. Rees.
Hefyd yn presennol / In attendance M. Rees (clerk).
18/01 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. C. Moses a/and L.Hughes.
18/02 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Dros y flwyddyn flaenorol, cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol:
Over the previous year, the following declarations of interest were registered:
- Cyfarfod mis Medi / September meeting:
- Cyng / Cllr. L. Hughes – eitem agenda/agenda item 4 – 17/15 (7) Hen Adeilad / Old GPO Building
- Cyfarfod mis Tachwedd / November meeting:
- Cyng / Cllr. L. Hughes – eitem agenda/agenda item 7 – 17/33 Hen Adeilad / Old GPO Building
- Cyng / Cllr. C. Moses – eitem agenda/agenda item 7 – 17/33 Cynllunio / Planning App.E/36232
- Cyfarfod mis Mawrth / March Meeting:
- Cyng / Cllr. L. Hughes – eitem agenda/agenda item 9 – 17/58 – Ysgol Cwrt Henri & Cylch Meithrin Cwrt Henri
- Cyng / Cllr. M. Williams – eitem agenda/agenda item 9 – 17/58 Cylch Meithrin Cwrt Henri
- Cyng / Cllr. B.Jones – eitem agenda/agenda item 9 – 17/58 – Ysgol Cwrt Henri & Neuadd Llangathen
- Cyng / Cllr. C. Moses – eitem agenda/agenda item 9 – 17/58 Neuadd Llangathen
18/03 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. M. Wynne ac eiliwyd gan Cyng. M. Williams fod cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 8 Mai 2017 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. M. Wynne and seconded by Cllr. M. Williams that the minutes of the 2017 Annual General Meeting held on 8th May 2017 be accepted as a correct record of the proceedings.
18/04 DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS
Dosbarthwyd a thrafodwyd copïau o’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018. Roedd y rhain wedi’u harchwilio gan Mr D. G. Morris. Cynigiwyd gan y Cyng. M. Williams, ac eiliwyd gan y Cyng. A. Davies y dylid derbyn bod y datganiad o gyfrifon yn gywir.
Copies of the accounts were circulated and discussed for the year ended 31st March 2018. These had been audited by Mr D.G.Morris. It was proposed by Cllr. M. Williams and seconded by Cllr. A. Davies that the statement of accounts be accepted as correct.
18/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT
Trafodwyd yr Asesiad Risg a chytunwyd yn unfrydol y dylai pob cofnod barhau heb unrhyw ddiwygiad a chael ei fabwysiadu fel y bo’n briodol. Llofnododd y Cadeirydd yr atodlen fel yr oedd yn briodol.
The Risk Assessment was discussed and it was unanimously agreed that all entries should remain with no amendments and duly adopted. The chair duly signed the schedule.
18/06 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT
Darllenwyd yn uchel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac fe’i trafodwyd gan yr aelodau. Cynigiwyd gan y Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan y Cyng. M. Wynne y dylai gael ei gymeradwyo gan y cyngor.
The Annual Governance Statement was read out and discussed by members. It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. M. Wynne that it be approved by the council.
18/07 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL / APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR
Penderfynwyd y dylid parhau i ymgymryd â gwasanaethau’r archwilydd mewnol, sef Mr D Morris. Y clerc i ysgrifennu at Mr Morris i ofyn a fyddai’n fodlon parhau â’r gwaith.
It was resolved that the services of the internal auditor Mr D Morris be continued. The clerk to write to Mr Morris in order to establish if he was happy to continue.
18/08 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRMAN
Cynigiodd y Cyng. M Williams y dylai’r Cyng. A Davies ymgymryd â rôl y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2018-2019, ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cyng. E Morgan. Derbyniodd y Cyng. Davies y swydd yn briodol, ac er nad oedd y Cyng. Moses, y Cadeirydd ymadawol, yn bresennol yn y cyfarfod, diolchodd iddo am ei waith cydwybodol yn ystod y flwyddyn flaenorol. Llongyfarchwyd y Cyng. Moses hefyd am gael ei ddewis i fynd i De Parti ym Mhalas Buckingham, a thrwy hynny, gynrychioli Cyngor Cymuned Llangathen. Diolchwyd hefyd i’r clerc am ei gwaith.
It was proposed by Cllr. M. Williams and seconded by Cllr. E. Morgan that Cllr. A. Davies takes up the role as chair for the coming 2018 / 2019 year. Cllr. Davies duly accepted this position and although Cllr. Moses was not present at the meeting, she thanked him, as outgoing chair, for his conscientious work over the previous year. Cllr. Moses was also congratulated for being selected to attend the Tea Part at Buckingham Palace and thereby representing Llangathen Community Council. The clerk was also thanked for her work.
18/09 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR
Cynigiwyd gan y Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan y Cyng. E. Rees bod y Cyng. B. Jones yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd. Derbyniodd Cyng. B. Jones y swydd a diolchodd i’r aelodau.
It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. E. Rees that Cllr. B. Jones be appointed as Vice Chairman. Cllr. B. Jones accepted the post and thanked members.
18/10 AELODAETH / MEMBERSHIP AFFILIATION
Cynigiwyd gan y Cyng. M. Wynne ac eiliwyd gan y Cyng. E. Morgan y dylai’r pwyllgor barhau â’i aelodaeth o Un Llais Cymru ac mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.
It was proposed by Cllr. M. Wynne and seconded by Cllr. E. Morgan to continue affiliation to Un Llais Cymru and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.
18/11 PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES
i. Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room – Cyng. / Cllr. M. Williams
ii. Un Llais Cymru – Cyng. / Cllr. A. Davies a B. Jones
iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng / Cllr. B. Jones
iv. Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2019.
It was resolved that the next Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be announced in March 2019.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….