CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth Tachwedd 17, 2020. Cyfarfod “virtual” yn defnyddio’r fformat “Zoom”.
Minutes of the Annual Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 17th November 2020. A virtual meeting using the format “Zoom” system .
Oherwydd pandemig COVID-19, roedd y Cyfarfod Blynyddol wedi cael ei ohirio.
Due to the COVID 19 pandemic, the Annual Meeting had been delayed.
Presennol / Present: Cyng/Cllrs.: B. Jones (chair) A. Davies, C. Moses, E. Morgan and E. Rees.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
20/01 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. M. Williams, M. Wynne a/and L.Hughes.
20/02 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Dros y flwyddyn flaenorol (Mai 2019 – Medi 2020) cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol:
Over the previous year (May 2019 – September 2020) the following declarations of interest were registered:
Cyfarfod mis Gorffennaf 2019/ July 2019 meeting
Cyng / Cllr. M. Williams – eitem agenda/ agenda item 6 – rhif cofnodion/ minute reference 18/60 – Cylch Meithrin Cwrt Henri
Cyng /Cllr. L. Hughes – eitem agenda/agenda item 12a – rhif cofnodion/ 19/18 – Cynllunio/Planning E/38983 / E/38934
20/03 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. C. Moses ac eiliwyd gan Cyng. A. Davies fod cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 21 Mai 2019 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. C. Moses and seconded by Cllr. A. Davies that the minutes of the 2019 Annual Meeting held on 21st May 2019 be accepted as a correct record of the proceedings.
20/04 DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS
Oherwydd COVID-19, ymdriniwyd â’r datganiad o’r cyfrifon yng nghyfarfod mis Awst gan fod gofyn i’r papurau archwilio fod yn llaw’r archwilwyr allanol erbyn diwedd mis Awst.
Cyfeirnod y cofnod 19/81
Due to COVID 19, the statement of accounts had been dealt with in the August meeting as the audit papers needed to be with the external auditors by the end of August. Minute reference 19/81
20/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT
Cytunwyd ar yr Asesiad Risg yng nghyfarfod mis Awst. Cyfeirnod y cofnod 19/82
The Risk Assessment was agreed in the August meeting. Minute reference 19/82
20/06 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT
Cytunwyd ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yng nghyfarfod mis Awst.
Cyfeirnod y cofnod 19/83
The Annual Governance Statement was agreed in the August meeting.
Minute reference 19/83
20/07 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL / APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR
Penderfynwyd y dylid parhau i ymgymryd â gwasanaethau’r archwilydd mewnol, sef Mr D Morris. Y clerc i ysgrifennu at Mr Morris i ofyn a fyddai’n fodlon parhau â’r gwaith.
It was resolved that the services of the internal auditor Mr D Morris be continued. The clerk to write to Mr Morris in order to establish if he was happy to continue.
20/08 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRMAN
Oherwydd pandemig COVID-19, a’r oedi o ran cynnal cyfarfodydd, cytunwyd yn unfrydol i ailethol y cadeirydd. Gofynnwyd i’r Cyng. B. Jones a fyddai hi’n barod i barhau yn rôl y cadeirydd tan fis Mai 2021. Cytunodd y Cyng. Jones a diolchodd bawb iddi.
Due to the COVID 19 pandemic, and a delay in holding meetings, it was unanimously agreed to re-elect the chair. Cllr. B. Jones was asked if she would be prepared to continue with the role as chair until May 2021. Cllr. Jones agreed and she was thanked by all.
20/09 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR
Unwaith eto, oherwydd pandemig COVID-19, cytunwyd yn unfrydol i ailethol yr Is-gadeirydd, y Cyng. M. Wynne. Gan nad oedd y Cyng. Wynne ar gael i gymryd rhan yn y cyfarfod, gofynnwyd i’r clerc anfon neges at y Cyng. Wynne.
Again, due to the COVID 19 pandemic, is was unanimously agreed to re-elect the Vice Chair, Cllr. M. Wynne. As Cllr. Wynne was not available to take part in the meeting, the clerk was asked to message Cllr. Wynne.
20/10 AELODAETH / MEMBERSHIP AFFILIATION
Cynigiwyd gan y Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan y Cyng. A. Davies y dylai’r pwyllgor barhau â’i aelodaeth o Un Llais Cymru ac hefyd SLCC (Society of Local Council Clerds) mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.
It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. A. Davies to continue affiliation to Un Llais Cymru and SLCC (Society for Local Council Clerks) and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.
20/11 PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES
i. Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room – Cyng. / Cllr. M. Williams
ii. Un Llais Cymru – Cyng. / Cllr. B. Jones a/and M. Wynne
iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng / Cllr. B. Jones
iv. Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 18 Mai 2021.
It was resolved that the next Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday, 18th May 2021.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….