DRAFT
CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth Mai 20, 2025 yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the Annual Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 20th May 2025 in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs: Anjuli Davies (chair) Ann Davies, A. Hughes, E. Morgan, C. Moses a / and B.Jones. Hefyd / also M. Rees clerc / clerk.
25/01 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / apologies for absence from: Cyng/Cllrs E. Rees, O. Gruffydd and H. Jones.
25/02 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Dros y flwyddyn flaenorol cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol / over the previous year, the following declarations of interest were registered:
Datganodd y Cyng/Cllr Owain Gruffydd ddiddordeb / declared an interest 24/42 a/and 24/72 – Trywydd
Datganodd y Cyng/Cllr E Rees ddiddordeb / declared an interest 24/86 – Rhodd/donation –Rhieni ac Athrawon Parents and Teachers Ysgol Cwrt Henri
Datganodd y Cyng/Cllr Ann Davies ddiddordeb / declared an interest 24/86 Rhodd/donation – Clwb Bowlio Mat Byr/Short Mat Bowls Cwrt Henri a/and Ystafell Ddarllen Cwrt Henri
Datganodd y Cyng/Cllr B. Jones ddiddordeb / declared an interest 24/86 Rhodd/donation Neuadd Llangathen.
25/03 ATTENDANCE REGISTER./ COFRESTR PRESENOLDEB
Nodwyd a thrafodwyd presenoldeb aelodau dros y flwyddyn flaenorol.
The attendance of members over the previous year was noted and discussed.
25/04 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. Anjuli Davies ac eiliwyd gan Cyng. Ann Davies fod cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 21 Mai 2024 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. Anjuli Davies and seconded by Cllr. Ann Davies that the minutes of the Annual Meeting held on 21st May 2024 be accepted as a correct record of the
proceedings.
25/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT
Trafodwyd yr Asesiad Risg. Cytunwyd yn unfrydol nad oedd angen unrhyw newidiadau. Llofnododd y cadeirydd y ddogfen Asesiad Risg. . Fodd bynnag, hoffai’r aelodau adolygu’r ddogfen dros y flwyddyn nesaf.
The Risk Assessment was discussed. It was unanimously agreed that no amendment were required. The chair signed the Risk Assessment document. However, members would like to review the assessment over the coming year.
25/06 DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS
Cyflwynwyd y cyfrifon i’r Cyngor. Roedd Mr David Morris, archwilydd mewnol, wedi arhwilio’r cyfrifon. Atebwyd pob ymholiad gan y SAC. Cytunwyd yn unfrydol i dderbyn y datganiad cyfrifon fel un cywir. Bydd y SAC yn tefnu i’r hysbysiad o hawliau archwilio cyhoeddus gael ei arddangos ar yr hysbysfwrdd ac ar y wefan.
The accounts were presented to council. The internal auditor, Mr D Morris had inspected and audited the accounts. All queries were answered by the RFO. It was unanimously agreed to accept the statement of accounts as being correct. The RFO will arrange for the notice of public inspection rights to be displayed in the notice board and website.
25/07 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT
Trafodwyd a gymeradwywyd gan y Cyngor y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
The Annual Governance Statement was discussed and agreed by council.
25/08 COUNCIL APPROVAL AND CERTIFICATION OF ACCOUNTS 2023/2024
Cytunwyd yn unfrydol gan yr holl aelodau oedd yn bresennol i gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifyddu a Llywodraethu Blynyddol 2024 / 2025. Llofnododd y cadeirydd a’r SAC y Ffurflen Flynyddol.
It was unanimously agreed by all members present to approve the Accounting Statement and Annual Governance 2024 / 2025. The chair and RFO duly signed the Annual Return.
25/09 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL A CYFRIFYDD PAYE/ APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR AND PAYE ACCOUNTANT
Penderfynwyd y dylid parhau i ymgymryd â gwasanaethau’r archwilydd mewnol, sef Mr D Morris. Y clerc i ysgrifennu at Mr Morris i ofyn a fyddai’n barod i barhau fel archwilydd mewnol y cyngor.
Hefyd, penderfynwyd parhau a gwasanaeth cyfrifydd PAYE Mr Osian Williams. Y clerc i ysgrifennu i ofyn a fyddai’n barod i barhau fel cyfrifydd PAYE
It was resolved that the services of the internal auditor Mr D Morris be continued.
The clerk to write to Mr Morris and ask if he would be prepared to continue as the council’s internal auditor. Also, it was decided to continue with the services of Mr Osian Williams as PAYE accountant, the clerk to write and ask if he would be prepared to continue.
25/10 PENODI CLERC/SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL AR GYFER 2025/2026/ APPOINT CLERK / RESPONSIBLE FINANCIAL OFFICER FOR 2025/2026
Cytunwyd yn unfrydol i ailbenodi M. Rees yn Glerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol
It was unanimously agreed to re-appoint M. Rees as Clerk/RFO
25/11 AMODAU GWAITH Y CLERC / CLERKS WORKING CONDITIONS
Trafodwyd amodau gwaith y clerc ac ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol gwneud unrhyw newidiadau. Diolchwyd i’r clerc gan bawb am ei gwaith parhaus.
The clerks working conditions were discussed and it was not deemed necessary to make any amendments. The clerk was thanked by all for her continued work.
25/12 GOFRESTR ASEDAU / ASSET REGISTER
Archwiliwyd a chymeradwywyd y Gofrestr Asedau. Llofnododd y Cadeirydd y gofrestr.
The Asset Register was inspected and approved. The chair signed the register.
25/13 CYNLLUN HYFFORDDI / TRAINING PLAN
Trafodwyd a nodwyd y Cynllun Hyfforddi. Nid oedd angen unrhyw newidiadau felly cafodd y cynllun ei gymeradwyo a’i lofnodi gan y cadeirydd.
The Training Plan was discussed and noted. No amendments were necessary therefore the plan was approved and signed by the Chair.
25/14 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRPERSON
Roedd Cyng. Owain Griffydd, fel is-gadeirydd wedi cysylltu â’r clerc yn mynegi ei siom nad oedd mewn sefyllfa i ymgymryd â’r rôl fel Cadeirydd. Gofynnwyd Cyng Anjuli Davies a oedd hi’n barod i ymgymryd â’r rôl am flwyddyn arall, ac i hyn cytunodd hi. Felly cytunwyd yn unfrydol i’w phenodi’n Gadeirydd ar gyfer 2025/2026. Diolchwyd yn ddiffuant iddi am ei gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf ac am ei pharodrwydd i barhau am flwyddyn arall. Roedd y clerc yn ddiolchgar am ei chefnogaeth
Cllr. Owain Griffydd as vice-chair, had contacted the clerk expressing his disappointment in not being in a position to take on the role of Chairperson. Cllr Anjuli Davies was asked if she would be prepared to take on the role for a further year and to this, she agreed. It was therefore unanimously agreed to appoint her as the Chairperson for 2025/2026. She was sincerely thanked for her work over the past year and for her willingness to continue. The clerk was particularly grateful for her support.
25/15 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR
Cynigiwyd gan y Cyng. Ann Davies ac eiliwyd gan y Cyng. C. Moses bod y Cyng. B. Jones yn cael ei benodi’n Is- Gadeirydd. Cytunodd y Cynghorydd B. Jones.
It was proposed by Cllr; A. Davies and seconded by Cllr. C. Moses that Cllr B. Jones be appointed as Vice Chair. Cllr. B. Jones agreed.
25/16 AELODAETH 2025/2026 / MEMBERSHIP AFFILIATION 2025/2026
Cytunwyd yn unfrydol i barhau ag aelodaeth o Un Llais Cymru ac hefyd SLCC (Society of Local Council Clerks) ac mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.
It was unanimously agreed to continue affiliation to Un Llais Cymru and SLCC (Society for Local Council Clerks) and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.
25/17 PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES
i. Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room – Cyng. / Cllr. Ann Davies
ii. Un Llais Cymru – Cyng. Cllrs Anjuli Davies a/and B. Jones
iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng / Cllr. Angela Hughes
iv. Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses
25/18 DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 19Mai 2026.
It was resolved that the next Annual Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday, 19th May 2026.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….