Cofnodion Cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth Mai 16, 2023 yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the Llangathen Community Council meeting held on Tuesday, 16th May 2023 in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng/Cllrs.: E. Rees (cadeirydd/chair), E.Morgan, L. Hughes, Ann Davies, B. Jones, C. Moses, Anjuli Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Cllr. Hefin Jones, Mrs M. Rees (clerc / clerk) ac un aelod o’r cyhoedd / one member of the public.
23/14 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. There were no apologies for absence.
23/15 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Datganodd Cyng/Cllr Ann Davies ddiddordeb yng Nghlwb Bowls Mat Byr Cwrt Henry..
Cyng/Cllr Ann Davies declared an interest in the Court Henry Short Mat Bowls Club.
23/16 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan Cyng. L. Hughes fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 21 Mawrth 2023 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. L. Hughes that the minutes of the meeting held on Tuesday, 21stMarch 2023 be accepted as a correct record of proceedings.
23/17 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 22/57 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Roedd y mater ynghylch diogelwch ar y ffyrdd bellach yn aros i Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru gael ei roi ar waith.
The road safety issue is now awaiting the implementation of the Welsh Government Roads Review.
Cof/Min 22/57 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Gan nad oedd unrhyw waith adfer wedi’i wneud ar adeilad Cyfnewidfa BT, gofynnwyd i’r clerc roi gwybod am hyn unwaith eto.
As no remedial work had been carried out on the BT Exchange building, the clerk was asked to report once again.
Cof/Min 22/57 (3) BRYNDEWI ,BROAD OAK
1 BANCYDDERWEN, BROAD OAK
Cytunodd y Cyng. Hefin Jones i fynd ar drywydd y mater gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Cllr. Hefin Jones agreed to follow up the matter with CCC
Cof/Min 22/57 (4) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Dywedwyd bod draen wedi blocio ac felly’n cyfyngu ar lif y dwr. Dywedwyd wrth y Cynghorwyr fod y mater yn nwylo Cyngor Sir Caerfyrddin.
It was reported that a drain had become blocked and therefore restricted the flow of water. Councillors were advised that the matter was in the hands of CCC.
Cof/Min 22/57 (8) COED/CEBLAU BT / TREES BT CABLES – LLANGATHEN
Roedd coed a oedd wedi cwympo yn pwyso ar geblau BT yn ardal Croesffordd Berllan/Cilsân, a mynegwyd pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd. Byddai’r clerc a’r Cyng. H Jones yn rhoi gwybod am hyn.
Fallen trees were resting on BT cables in the Berllan / Cilsane Crossroads area and concerns were expressed regarding safety to the public.
Both the clerk and Cllr H Jones to report.
Cof/Min 22/61 TIPIO ANGHYFREITHLON –FLY TIPPING
Dywedwyd wrth y Cynghorwyr fod preswylydd lleol wedi clirio a thacluso’r ardal a oedd yn peri pryder, ac wedi gosod arwyddion hefyd. Hyd hynny, nid oedd unrhyw dipio anghyfreithlon pellach wedi digwydd.
Councillors were advised that the local resident had cleared and tidied up the area of concern and also put up signs. To date, no further fly tipping had taken place.
YMGYNGHORIAD SAFLE YSBYTY NEWYDD/NEW HOSPITAL SITE CONSULTATION
Cytunwyd i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad ysbyty gofal brys a wedi’i gynllunio newydd. Y Cynghorwyr i ymateb yn unigol hefyd.
It was agreed to respond to the public consultation on the location of a new planned urgent care hospital. Cllrs to repond individually also.
23/18 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
* The LGBTQ+ Action Plan for Wales: Next Steps Conference | Event
Announcement | 19 Jul 23 | Cardiff – Senedd
Un Llais Cymru
* Rhybuddion Brys / Emergency Alerts
* HYFFORDDIANT/TRAINING EBRILL & MAI / APRIL/MAY 2023
* MAY 2023 TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT MAI 2023
* Cyfarfod Pwyllgor Ardal Caerfyrddin 25.4.23 – Carmarthen Area Committee 25.4.23
* Datganiad Ysgrifenedig: Iechyd Democrataidd a Digidol Cynghorau Cymuned a
Thref/Written Statement: Democratic Health of Community and Town Councils
* Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 / Motions for 2023 Annual General Meeting
* Ynghylch/re: Hyfforddiant ynghylch Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned/Code of Conduct Training for Town and Community Councils
* Nature Wise Eco-literacy Course
* Newly appointed Communications Officer with One Voice Wales / Swyddog Cyfathrebu newydd Un Llais Cymru – Emyr John
* Grantiau Newydd ar gyfer Coedtiroedd Bach / New Grants for Coedtiroedd Bach
* Written Statement on Electoral Reform White Paper / Datganiad Ysgrifenedig Gan Llywodraeth CymurPapur Gwyn Diwygio Etholiadol
* Cadwch y Dyddiad – Cynhadledd Arfer Arloesol / Save the Date – Innovative Practice Conference 5/7/23
* GOOD COUNCILLOR’S GUIDE TO EMPLOYMENT
* Revised Standing Orders / Rheolau Sefydlog Newydd
* Prif Weithredwr Un Llais Cymru yn ceisio cymorth ar gyfer arolwg myfyrwyr / One Voice Wales CEO seeking support for student survey
* Lywodraeth Cymru Arolwg ar Gefeillio / Welsh Government Survey on Twinning –
CCC
* YNGHYLCH: CAU FFORDD DROS DRO – YR U4004, CAPEL ISAAC /
TEMPORARY ROAD CLOSURE
* Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol – Social Media Training
* PL/05620 – Cais cynllunio ymgynghori – Planning application consultation
* Y newyddion diweddaraf gan Gyngor Sir Caerfyrddin
* Crime Prevention
* Emergency road closure: B4297 Dryslwyn SA32 8RW (one.network: 134136197) 21.00 – 06.00
* Additional Dates / Dyddiadau Ychwanegol – Hywel Dda – New Hospital Site
* Llangathen Community Council – Diolch am 20 Newyddion Mis Mai 2023 – Thanks for 20 News May 2023
* Wales Prestige Awards 2023/24 – Shortlisted
* CTCWW Money Makeover Workshop – 23/5/23 Carers Trust
Request for Financial Assist – Court Henry Short Mat Bowls Club
* Llythyron o ddiolch/thank you letters – Y Lloffwr, Ambiwlans Awyr Cymru, TOW Llanfynydd, CFfI Llanfynyd
* Elan City
* Glasdon
23/19 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
BHIB Yswiriant/Insurance 405.03
Trywydd / Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation 36.79
Ystafell Ddarllen Cwrt Henri – Hire of Hall (2022/2023) 75.00
Court Henry Short Mat Bowls Club – Donation 50.00
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Mai/May 255.66
Mehefin/June 255.66
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 100.05
Roedd Archwilio Cymru wedi anfon anfoneb am archwilio cyfrifon 2019-2020. Gan nad oedd y clerc wedi cael y dystysgrif archwilio na’r adroddiad, penderfynwyd gohirio’r taliad nes y byddent wedi dod i law.
Wales Audit had forwarded an invoice for the audit of 2019/2020 accounts. As the clerk had not received the audit certificate and report it was decided to delay payment until such had been received.
Cyflwynodd y clerc ei P60 blynyddol i’w archwilio. The clerk provided her annual P60 for inspection
CSG /CCC praesept / precept advice 26/4/23 – £3000
Lloyds Bank Statement Ebrill/April 2023 – £6492.54
23/20 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor.
The following application was considered by the Council.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/05353 Pedestrian/Cycle Path Rhwng / Between
Llwybr Cerddwr/Beico Ysgol Bro Dinefwr
Ffairfach &
Nantgaredig
Cynlluniau diwygiedig / derbyniwyd gwybodaeth ychwenegol/ Amended plans, additional information
Dyddiad gorffen parthed yngynhori /Re-consultation ends 2/6/23
PL/05700 Single storey extension Llwyncelyn Farm,
Llandeilo. SA19 6RY
Dim pryderon/gwrthwynebiadau / No concerns/objections
PL/05620 Construction of improved access Brynawelon,
drive Dryslwyn.
SA32 8RB
Dim pryderon/gwrthwynebiadau / No concerns/objections
Decisions made by CCC on planning applications:
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
PL/05700 – Llwyncelyn, Dryslwyn. Householder Granted.
23/21 SEDD GWAG AM SWYDD CYNGHORYDD / COUNCILLOR VACANCY
Roedd dau gais wedi dod i law am y swydd wag ar gyfer Cynghorydd. Ystyriodd y Cynghorwyr y ddau gais yn ofalus ac, yn dilyn pleidlais, Mr Owain Siôn Gruffydd oedd yr ymgeisydd llwyddiannus. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod i’r ddau ymgeisydd.
Two applications had been received for the Councillor vacancy. Councillors considered both applications carefully and following a vote, Mr Owain Sion Gruffydd was the successful candidate. The clerk to notify both candidates.
23/22 DEFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Trefnwyd sesiwn Ymwybyddiaeth o Ddiffibrilwyr/CPR lwyddiannus ar y cyd â Calon Hearts yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri ar 18 Ebrill 2023. Roedd un ar hugain o bobl yn bresennol yn y sesiwn. Roedd y diffibriliwr gan Lywodraeth Cymru wedi dod i law ac roedd bellach yn ei le yn Felindre. Byddai’r clerc yn cwrdd â Marc Gower, Iechyd y Cyhoedd, er mwyn sicrhau bod pob diffibriliwr wedi’i gofrestru’n briodol gyda The Circuit.
Cytunwyd i gyflwyno cais pellach i Lywodraeth Cymru i gael diffibriliwr arall yn Llangathen.
A successful Defibrillator/CPR Awareness session had been arranged with Calon Hearts on 18/4/23 in The Reading Room, Court Henry. Twenty one people attended. The defibrillator from Welsh Government has been received and is now in position in Felindre. The clerk is to meet with Marc Gower, Public Health, in order to ensure all defibrillators are properly registered with The Circuit.
It was agreed to submit a further application to WG for a further defibrillator to be located in Llangathen.
23/23 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cyng. H. Jones wrth yr aelodau fod Ymgynghoriad Cyhoeddus Green Gen Tywi Wysg mewn perthynas â chodi peilonau wedi dod i ben, a bod y penderfyniad ynghylch y mater hwn yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd nad oedd bellach yn aelod o’r Panel Diogelu ond ei fod ‘nawr ar y Panel Addysg a Chraffu. Roedd yn rhan o’r Grwp Gorchwyl a Gorffen – Gordewdra Ymhlith Plant.
Byddai cymhorthdal y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau yn cael ei dynnu’n ôl ym mis Gorffennaf, ond dywedodd y Cyng. Jones ei fod wedi gofyn i LlC ailystyried y penderfyniad. Roedd Bwc a Bws yn wasanaeth a oedd ar gael.
Nid oedd y penderfyniadau ynghylch yr Adolygiad Ffyrdd, a oedd yn cynnwys rhannau o’r A40 yn Sgwâr Dryslwyn a Derwen-fawr, ar gael ar y pryd.
Roedd y Cyng. Jones wedi siarad â Steve Pilliner ynghylch y tyllau yn y ffordd, a dywedwyd wrtho fod cyllid yn brin. Roedd y prosiect 20 mya yn ymarfer costus.
Roedd wedi mynd ar drywydd mater y Tipio Anghyfreithlon, ac wedi bod yn trafod yr hyn a oedd yn destun pryder yn Nerwen-fawr â Meirion Howells, Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cllr H. Jones informed members that the Green Gen Towy Usk Public Consultation in relation to the construction of pylons is closed and the decision on this matter sits with Welsh Government.
He confirmed that he no longer sits on the Safeguarding Panel but is now on the Education and Scrutiny Panel. He is involved with Child Obesity – Task & Finish Group.
The Bus Emergency subsidy is to be withdrawn in July but Cllr Jones advised that he had motioned to WG to re-consider the decision. Bwc a Bus is a service available.
Decisions regarding the Roads Review – including areas of the A40 at Dryslwyn Square and Broad Oak are not yet available.
Cllr Jones had spoken to Steve Pilliner regarding the pot holes and was advised that there was a short fall in funding. The 20mph project is a costly exercise.
He had followed up the Fly Tipping issue and had been in discussion with Meirion Howells, CCC regarding the matters of concern in Broad Oak.
23/24 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. The Old Forge, Derwen-fawr. Roedd yna bant yn y ffordd ger mynedfa’r eiddo hwn. Byddai’r clerc yn rhoi gwybod am hyn. The Old Forge, Broad Oak. There is a dip in the road near the entrance to this property. The clerk to report
2. Roedd Adroddiad Blynyddol y cyngor wedi’i gwblhau a byddai’n ymddangos ar y wefan yn fuan. The councils Annual Report has been completed and will show on the website shortly.
23/25 DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal nos Lun 24 Gorffennaf 2023 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting together with the Annual Meeting of Llangathen Community Council would be held on Monday 24th July 2023 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Bydd gwasanaeth ffôn ar gael i’r rhai na allant fynychu’n bersonol.
A telephone service will be made available to those not able to attend in person.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….