CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN
LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 21 Mawrth 2023, yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 21st March 2023, in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : E. Rees (Cadeirydd/Chair) Ann Davies, E. Morgan, B. Jones, L. Hughes and Anjuli Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Cyng/Cllr Hefin Jones a/and Mrs M.Rees (clerc / clerk).
22/54 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / appologies for absence from: Cyng / Cllr. C. Moses.
22/55 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Datganodd Cyng/Cllr L. Hughes ddiddordeb ym mheilonau arfaethedig Bute Energy / Green Gen
Cyng/Cllr L. Hughes declared an interest in the Bute Energy / Green Gen proposed Pylons
22/56 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. Ann Davies ac eiliwyd gan Cyng. B. Jones fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 17 Ionawr 2023 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. Ann Davies and seconded by Cllr. B. Jones that the minutes of the meeting held on Tuesday, 17th January 2023 be accepted as a correct record of proceedings.
22/57 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 22/40 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Roedd Jonathan Edwards AS wedi rhoi gwybod i’r Cyng. H. Jones, yn dilyn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru, fod gwelliannau ar yr A40 yn cael eu hystyried. Roedd y cynllun yn cynnwys mesurau gwella diogelwch ar y ffyrdd ar groesffordd Derwen Fawr a chroesffordd Dryslwyn.
Jonathan Edwards MP had advised Cllr. H. Jones that following a Welsh Government Roads Review, improvements on the A40 were being looked at. The scheme included road safety improvement measures at the Broad Oak crossroads and Dryslwyn crossroads.
Cof/Min 22/40 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Adolygu dros y misoedd nesaf. To review over the coming months.
Cof/Min 22/40 (3) BRYNDEWI ,BROAD OAK
Y mater ynghylch parcio ym Mryndewi. The parking issue at Bryndewi.
1 BANCYDDERWEN, BROAD OAK
Y llwybr yn arwain i fyny at eiddo Bancydderwen. The path leading up to the Bancydderwen properties.
Ni dderbyniwyd ateb gan CSC ar yr un o’r materion hyn. Bydd y Cyng. H. Jones i edrych i mewn i’r mater. No replies had been received from CCC on either of these issues. Cllr. H.Jones will look into the matter.
Cof/Min 22/40 (4) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Byddai’r Cyng. E. Morgan yn mynd ar drywydd y mater. Cllr. E. Morgan will pursue the matter.
Cof/Min 22/40 (6) GOLAU STRYD / STREET LIGHT, BROAD OAK
Mae’r golau stryd ger Old Forge, Broad Oak bellach yn gweithio. The street light near Old Forge, Broad Oak, is now in working order.
Cof/Min 22/52
(1) GRAEANU/GRITTERS AR FFORDD DERWEN-FAWR, ABERGLASNE/GELLI AUR
Roedd y Cyng. H. Jones wedi rhoi gwybod am y mater ac roedd wedi cael ei roi ar waith.
Cllr. H. Jones had reported the issue and the matter had been actioned.
(2) CYSGODFAN FYSIAU / BUS SHELTERS
Maen’n bosibl y bydd hyn yn dod o dan y gwelliannau i ddiogelwch ffyrdd yr A40 sy’n cael eu hystyried gan LlC / It’s possible that this will come under the road safety improvements that are being looked at by WG.
(3) Dywedwyd mai ceblau BT yw’r ceblau dan sylw ac mai perchennog y tir sy’n gyfrifol am y coed sydd wedi cwympo. It was reported that the cables in question are BT cables and that the fallen trees are the responsibility of the land owner.
22/58 DADWARDIO PLWYF LLANGATHEN – Y GOGLEDD A’R DE /DE-WARDING LLANGATHEN PARISH – NORTH AND SOUTH
Er mwyn cydymffurfio â’r gweithdrefnau ar gyfer dadwardio plwyf Llangathen, bydd cofnodion mis Tachwedd wedi’u llofnodi ‘nawr yn cael eu hanfon at Wasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Caerfyrddin.
To comply with the procedures to de-ward the parish of Llangathen, the signed November minutes will now be forwarded to CCC, Electoral Services.
22/59 SEDD GWAG AM SWYDD CYNGHORYDD / COUNCILLOR VACANCY
Mynegwyd peth diddordeb yn y swydd wag ar gyfer cynghorydd. Byddai’r Cynghorwyr a’r Clerc yn dweud wrth y darpar ymgeiswyr am ysgrifennu at y clerc ynghylch eu diddordeb yn y swydd wag. Bydd y Cynghorwyr yn trafod yn y cyfarfod nesaf.
Some interest had been expressed in the Councillor vacancy. Cllrs and Clerk to advise prospective candidates to write to the clerk regarding their interest in the vacancy. Cllrs will discuss in the next meeting.
22/60 DEFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Felindre, Dryslwyn. SA32 8RJ
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer derbyn y Diffibriliwr rhad ac am ddim, roedd dau warcheidwad wedi’u penodi ac roedd y cabinet wedi’i roi yn ei le – diolch yn fawr i’r Cynghorydd Cled Moses am wneud hyn. Bydd y clerc yn trefnu sesiwn ymwybyddiaeth sgiliau CPR/diffibrilio. Roedd y clerc wedi gofyn am ddwy set o badiau ar gyfer y diffibrilwyr presennol, ac roeddent wedi dod i law – yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Fodd bynnag, nodwyd mai’r dyddiad dod i ben oedd mis Medi 2023. Byddai’r clerc yn holi ynghylch hyn.
In line with Welsh Government guidelines for the acceptance of the free Defibrillator, two guardians have been appointed and the cabinet has been put in place – many thank to Cllr Cled Moses for doing this. The clerk will arrange for a CPR/defibrillator skills awareness session. The clerk had requested and received two sets of pads for the existing defibrillators – free of charge from the Welsh Ambulance Service. However, it was noted that the date of expiry was September 2023. The clerk to question.
22/61 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
* Y Newyddion Diweddaraf CSG/Latest News from CCC
* Tempoary road closure: B4297 DRYSLWYN SA32 8RN (one.network 132780014)
* Launch of public consultation on location of new planned and urgent care hospital / Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad ysbyty gofal brys a wedi’i gynllunio newydd – PaDavies@carmarthenshire.gov.uk UN LLAIS CYMRU
* Gwerth Cynllinio a sut mae’n cael effaith gadarnhaol ar Gymunedau yng Ngymru / The value of planning and how it positively impacts our Welsh communities – Ar lein/On
* Grwp Ddolydd Sir Gaerfyrddin – Cyfarfod y Gwanwyn / Carmarthenshire Meadow Group Spring Meeting – 1 Ebril 2023
* Open spaces and paths: a new guide to protection
* Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) Taxi and Private Hire Vehicle (Wales) Bill – Ymgynghoriad / Consultation tan / until 1/6/23
* Request for Nominations for the Kings New Year 2024 Honours
* Ymgynghoriad Safle Ysbyty Newydd: /New Hospital Site Consultation:
* Carbon Literacy Training
* Cynhadledd / Conference -Pwysigrwydd Cynghorau Cymuned & Thref wrth adeiladu lleoedd cydnerthar gyfer natur / The importance of Community &Town councils in building resilient spaces for nature.
* Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 : Datblygu, llifogydd acerydu arfordirol diwygiadau pellach / Technical Advice Note (TAN)15: Development, flooding and coastal erosion — further amendments
* Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Sir Gaerfyrddin/ 2018 – 2033 2nd Deposit/ Revised Carmarthenshire Local Development Plan 2018 – 2033
* Dolen Teifi Presentation/Cyflwyniad
* Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Chwefror 2023 – Independent Remuneration Panel for Wales – Annual Report February 2023
* Public consultation event dates for location of new planned and urgent care hospital
* Public consultation launched on new registration rules for all bird keepers in Great Britain
* Planning Policy Wales: Net benefit for biodiversity and ecosystems resilience
* MARCH & April 2023 TRAINING DATES / DYDDIADAU HYFFORDDIANT
MAWRTH & EBRILL 2023 MAWRTH & EBRILL 2023
* Towy Valley Pylons – Llanarthne Group – Posters
* Adam Price & Cefin Campbell – Beilonau Dyffryn Tywi Pylons * The Clerk * Clerks & Councils Direct
* The Pensions Regulator
*Community Review of all Town/Community Councils in Carmarthenshire-Formal Consultation
Request for Financial Assistance
* Pwyllgor Apêl Llanfihangel Aberbythych a Llangathen
GREEN GEN TOWY USK PUBLIC CONSULTATION
Yn dilyn trafodaeth ynglyn â’r peilonau arfaethedig a oedd i’w codi ar hyd Dyffryn Tywi, gofynnwyd i’r clerc ysgrifennu at Green Gen.
Dymuniad unfrydol yr aelodau oedd gwrthod y cynllun hwn ar gyfer peilonau a gofyn am osod y ceblau o dan y ddaear.
Following a discussion regarding the proposed pylons being erected along the Towy Valley, the clerk was asked to write to Green Gen.
It is the members unanimous wish to reject this plan for pylons and request that the lines be put underground.
Adam Price AS/MS & Cefin Campbelll AS/MS Beilonau Dyffryn Tywi Pylons – Bydd copi papur o ddeiseb sy’n galw am gladdu’r ceblau trydan yn hytrach na gosod peilonau trydan ar hyd Dyffryn Tywi yn cael ei osod yn Siop Dryslwyn.
A paper copy of a petition calling for the electricity cables to be buried rather than electric pylons along the Tywi Valley will be placed in Dryslwyn Shop.
TIPIO ANGHYFREITHLON –FLY TIPPING – Roedd un o drigolion y plwyf wedi tynnu sylw’r cyngor at broblem o ran tipio anghyfreithlon. Roedd y Cyng. H Jones wedi cyfarfod â’r gwr ac wedi gweld y broblem â’i lygaid ei hun. Bydd y Cyng. Jones yn ymchwilio i’r mater ac yn rhoi gwybod am unrhyw gamau adferol y gellir eu cymryd.
A parish resident has brought to the councils attention a problem regarding fly tipping. Cllr H Jones had met with the gentleman and saw first hand the problem. Cllr Jones will investigate the matter and will advise of any remedial steps that can take place.
22/62 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
We Dig Media – Gwefan / Website Management 216.00
Trywydd / Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation 34.34
CSG/CCC – Costau Etholiad/Election Costs 323.32
Un Llais Cymru – Allopath / Membership 92.00
Archwilio Cymru / Audit Wales 2020/2021 295.00
Archwilio Cymru / Audit Wales 2021/2022 250.00
Defib Store – Cabinet Diffibriliwr/Defibrillator Cabinet 481.44
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 91.00
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Mawrth/March 255.66
Ebrill/April 255.66
Lloyds Bank – Statement Ionawr/January £8517.35 Chwefror/February £6921.19
22/63 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor.
The following application was considered by the Council.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/05353 Pedestrian/Cycle Path Rhwng / Between
Llwybr Cerddwr/Beico Ysgol Bro Dinefwr
Ffairfach & Nantgaredig
Yngynhori/Consultation 8/2/23 / 1/3/23
Roedd preswylydd wedi gwneud ymholiadau ynglyn â bloc stablau yn ardal Pentrefelin. Dywedwyd wrth yr aelodau bod Adran Gynllunio CSC wedi cael gwybod am hyn.
A resident had made enquiries regarding a stable block in the Pentrefelin area. Members were advised that this had been reported to Planning, CCC.
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
Decisions made by CCC on planning applications:
PL/05198 – Penywaun, Capel Isaac. SA19 7UL – Full granted
PL/05095 – Broadlan Farm, Broad Oak. SA32 8QS – Full granted
PL/04528 – Land South of Parc y Bryers, Dryslwyn. SA32 8QX – Full granted
22/64 RHODDION / DONATIONS
Rhoddwyd rhestr i’r aelodau o sefydliadau a oedd mewn angen cymorth ariannol. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i roi arian i’r canlynol
A list of organisations in need financial assistance was issued to members. After discussion, it was agreed to donate funds to the following:
£
Ysgol Cwrt Henri Rhieni ac Athrawon
Court Henry School Parents & Teachers 200.00
Ysgol Feithrin Cwrt Henri 200.00
Neuadd Llangathen Hall 200.00
Ystafell Ddarllen Cwrt Henri/Reading Room 200.00
Ambiwlans Awyr Cymru/Wales Air Ambulance 50.00
CFFI Llanfynydd YFC 50.00
Merched TOW Llanfynydd 50.00
Y Lloffwr 50.00
Y clerc i drefnu bod y sieciau’n cael eu hanfon ymlaen at y sefydliadau perthnasol
The clerk to arrange for the cheques to be forwarded to the relevant organisations.
22/65 HYFFORDDI / TRAINING
Roedd y canlynol wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant ymwybyddiaeth seiber ar-lein i gynghorwyr:
Y Cynghorwyr E. Rees, B. Jones, Ann Davies, Anjuli Davies a’r clerc M. Rees.
The following had attended the online Cyber awareness training for councillors
Cllrs E. Rees, B. Jones, Ann Davies, Anjuli Davies and the clerk M. Rees.
22/66 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Rhoddodd y Cyng. H. Jones ddiweddariad ar Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru a’r gwelliant arfaethedig i’r A40.
Roedd wedi mynychu cyfarfodydd ynghylch y peilonau arfaethedig ar hyd Dyffryn Tywi gan Green Gen, a rhoddodd wybod am yr ymgynghoriad a fyddai’n dod i ben ar 28/4/23.
Cyn bo hir bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal cyfarfod hyfforddi ar gyfer Datblygiadau Un Blaned.
Roedd bwriad i dynnu’r cynllun cymhorthdal bysiau yn ôl ond bydd yn cael ei ymestyn am dri mis arall.
Rhoddodd y Cyng. Jones grynodeb byr o’r cynllun Bwcabus.
Cllr. H. Jones gave an up date on the Welsh Government Roads Review and the planned improvement on the A40.
He had attended meetings regarding the proposed pylons along the Towy Valley by Green Gen and advised on the consultation that would end on 28/4/23.
Carmarthenshire County Council will soon be putting on a training meeting for One Planet Developments.
It was planned for the bus subsidy scheme to be withdrawn but will be extended for a futher 3 months.
Cllr Jones gave a brief summary of the Book a Bus scheme.
22/67 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Roedd wedi dod i sylw’r Cynghorwyr efallai y byddai angen torri coeden ffawydden ger y maes yn Nerwen Fawr.
It had been brought to the attention of Cllrs that a Beach Tree near the Green, Broad Oak may require cutting back.
2. Roedd damwain ar yr A40 ger Sgwâr Dryslwyn wedi’i chofnodi.
An accident on the A40 near Dryslwyn Square had been reported.
22/68 DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen ynghyd â Cyfarfod Blynyddol yn cael ei gynnal nos Fawrth 16 Mai 2023 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am
7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting together with the Annual Meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 16th May 2023 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
A telephone service will be made available to those not wishing to attend in person.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….