Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd nos Fawrth , 20 Medi 2022, yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday evening, 20th September 2022, in The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : E. Rees (Cadeirydd/Chair) B. Jones, Ann Davies, E. Morgan, L. Hughes and A. Davies.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a Cyng. Sir / County Cllr. H. Jones
22/12 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Cyng / Cllr. C. Moses.
22/13 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. There were no declarations of interest.
22/14 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth 19 Gorffennaf 2022 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Tuesday, 19thJuly 2022 be accepted as a correct record of proceedings.
22/15 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 22/04 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN / BROAD OAK / DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Gofynnwyd i’r clerc ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am fanylion data cyflymder ar gyfer y lleoliadau uchod.
Hefyd, i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddwy ddamwain ddifrifol ddiweddar. Ger Derwen-fawr 21/7/22 ac ar Sgwâr Dryslwyn ar 18/9/22.
The clerk was asked to write to Welsh Government requesting speed data details for the above locations.
Also, to advise WG of two recent serious accidents. Near Broad Oak 21/7/22 and at Dryslwyn Square on 18/9/22.
Cof/Min 22/04 (2) ADEILAD CYFNEWIDFA BT/ BT EXCHANGE BUILDING, DRYSLWYN
Mae’r adeilad yn parhau i fod mewn cyflwr gwael. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â BT eto i gael diweddariad ar y sefyllfa.
The building remains in a poor state of repair. The clerk was asked to contact BT again for an update on the situation.
Cof/Min 22/04 (3) SBWRIEL / LITTER
Cafwyd ateb gan y Swyddog Gorfodi Amgylcheddol, CSC, yn nodi bod yr ardal a oedd yn peri pryder wedi cael ei phatrolio ac ni welwyd unrhyw droseddau. Fodd bynnag, gofynnwyd i’r clerc ysgrifennu a gofyn am arwyddion “Dim Sbwriel” yn yr ardal ac yn benodol ger y cysgodfan fysiau, Sgwâr Dryslwyn. Nodwyd hefyd bod arwyddion “Dim Sbwriel/No Litter” yn pilio i ffwrdd – yn ardal Felindre – a bod rhai trigolion wedi ceisio unioni hyn.
A reply had been received from the Environmental Enforcement Officer, CCC, stating that the area of concern had been patrolled with no offences having been witnessed. However, the clerk was asked to write and request “No Litter” signs in the area and specifically near the bus shelter, Dryslwyn Square. It as also noted that “Dim Sbwriel/No Litter” signs were peeling away – in the Felindre area – and some residents had attempted to rectify this.
Cof/Min 22/04 (6) BRYNDEWI ,BROAD OAK
Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â CSC ynghylch y maes parcio yn y lleoliad hwn.
The clerk was asked to contact CCC regarding the parking area at this location.
Cof/Min 22/04 (8) LLANGATHEN – LLAWER O DDWR /EXCESSIVE WATER
Byddai’r mater yn cael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.
The matter will be reviewed in the next meeting.
Cof/Min 22/04 (10) CYFYNGIADAU CYFLYMDER / SPEED RESTRICTIONS – FELINDRE
Cof/Min 22/04 (12) YSGOL CWRT HENRI SCHOOL – TRAFFIC CALMING MEASURES
Roedd ymatebion gan CSC a Senedd Cymru yn rhoi gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi pasio deddf ar 12/7/22 a fydd yn newid y terfynau cyflymder presennol o 30 MYA ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 MYA, ac y bydd yn dod i rym ym mis Medi 2023.
Hefyd, roedd asesiadau o’r holl derfynau cyflymder 30 MYA presennol mewn ardaloedd adeiledig ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal, a byddai’r ffordd yng nghyffiniau ysgol Cwrt Henri yn cael ei chynnwys.
Replies from CCC and Senedd Wales advised that the WG had passed a law on 12/7/22 that will change existing 30mph speed limits on restricted roads in Wales to 20mph and will come into force in September 2023.
Also, assessments on all speed limits on existing 30mph speed limits in built up areas throughout Carmarthenshire are being carried out and the road in the vicinity of Cwrt Henri school will be included.
Cof/Min 22/04 (11) CONCEALED ENTRANCE – CAEAUNEWYDD, DRYSLWYN
Byddai’r Cyng. H. Jones yn ymchwilio i’r mater
County Cllr. H. Jones would look into the matter.
Cof/Min 22/04 (13) MAP PLWYF / PARISH MAP
Bydd y Cyng. E. Morgan yn cynghori yn y cyfarfod nesaf
Cllr. E. Morgan will advise in the next meeting.
Cof/Min 22/11 (1) CYMORTH CYMUNEDOL YR HEDDLU / POLICE COMMUNITY SUPPORT OFFICER
Oherwydd newid strwythur, roedd cyfarfodydd ar-lein misol bellach ar gael i Gynghorwyr Sir a/neu glercod eu mynychu.
Due to a change of structure, monthly online meetings were now available for County Councillors and/or clerks to attend.
22/16 DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Byddai’r clerc yn darparu dyfynbrisiau ar gyfer diffibrilwyr a chabinetau erbyn y cyfarfod nesaf.
The clerk to provide quotes on defibrillators and cabinets by the next meeting.
22/17 TALIADAU I AELODAU CYNGOR CYMUNED / PAYMENTS TO MEMBERS OF COMMUNITY COUNCIL
Roedd yr holl aelodau bellach wedi llofnodi’r ffurflenni optio allan gan wneud y penderfyniad i beidio â derbyn unrhyw daliadau ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.
All members had now signed the opt-out forms making the decision not receive any payments for the year 2022 / 2023
22/18 CYNLLUN HYFFORDDI / TRAINING PLAN
Roedd Cynllun Hyfforddi wedi’i lunio ac roedd yr holl aelodau wedi cael copi. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol. Byddai’r clerc yn trefnu bod y cynllun yn cael ei roi ar y wefan.
Roedd Cais am Fwrsari Hyfforddi wedi’i gwblhau a’i lofnodi a’i anfon ymlaen i Un Llais Cymru.
A Training Plan had been drawn up and all members received a copy. This was unanimously agreed. The clerk to arrange for the plan to be entered onto the website.
A Training Bursary Application was completed and signed and to be forwarded to One Voice Wales.
22/19 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
Un Llais Cymru
* Innovative Practice Conference – Cynhadledd Arfer Arloesol – 14/9/22
* Anchor Site for National Contemporary Art Gallery – Request for Candidate Sites/Venues / Angorfa ar Gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol – Caes am Ddarpar Leoliadau/Safleoedd
* Urgent – Product Recall – iPAD SP1
* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion / News Bulletin
* Diweddariad Grant Cymunedau Gwydn \ Resilient Communities Grant Update
* Hyfforddiant / Training – Porfa Rhos a Gwelltir Corsiog: Rheolaeth Drwy Bori/Rhos Pasture and Marshy Grassland: Management by Grazing – Ffridd: Rheoli clytwaith o gynefinoedd ar gwr yr ucheldir/ Ffridd: Managing a mosaic of upland fringe habitats
* Digwyddiadau / Events – Rheoli Gweirgloddiau ar gyfer phryfed / Managing meadows for Insects
* Swydd Gwag – Cyngor Tref Llanelli / Vacancy – Llanelli Town Council – Vacancy Carmarthen Town Council / Swydd Wag Cyngor Tref Caerfyrddin
* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion / News Bulletin
* TRAINING DATES / ATGOFFA – DYDDIADAU HYFFORDDIANT MIS AWST/MEDI
* Courier Fraud what you need to know / Twyll Cludo yr hyn sydd angen i chi ei wybod
* Grant y Rhaglen Cymunedau Gwydn // Resilient Communities Programme Grant
* Gynllun Grant Creu Coetir / Woodland Creation Grant Schemes
* Y diweddaraf yn yr ymgyrch ‘Iddyn Nhw’ – ‘It’s for them’ campaign update (reduce mowing on verges/grassland / llai torri glaswellt)
* Cronfa Rhwydweithiau Natur/Nature Networks Fund
* Anghenion iaith a hygyrchedd aelodau’r BCD // RCP language and accessibility requirements
* St Davids Awards – The National Awards of Wales – Gwobrau Dewi Sant – Gwobrau Cenedlaethol Cymru
* Welsh Government Ministerial Advisory Forum on Ageing (MAFA) – Information on Cost of Living Support
* Ymgynghoriad Treth Gyngor Decach / A Fairer Council Tax Consultation (WG)
* Mourning Guidance (WG) / Operation London Bridge
* Period of mourning following the death of Her Majesty Queen Elizabeth II / Cyfnod o alaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
* Information on defibrillator purchases / Gwybodaeth am brynu diffibrilwyr
* Digwyddiad Gweithdy Llywodraeth Cymru Gogledd a De Cymru / Welsh Government North and South Wales Workshop Events
* Gronfa Rhwydweithiau Natur/ Nature Networks Fund
* Consultation on Fee Scales 2023-24 ( Archwilio Cymru / Audit Wales)
* Swydd wag Cyngor Cymuned Beulah / Vacancy Beulah Community Council /CYNGOR CYMUNED TALYLLYCHAU/ TALLEY COMMUNITY COUNCIL
* Seeking Welsh Suppliers / Chwilio am Gyflenwyr Cymreig
* Cylchlythyr y Commissioned – Bwletin Arbennig : Argyfwng Cosau Byw / Commissioners Newsletter Special Bulletin: Cost of Living
* The section 6 biodiversity and ecosystem resilience duty /Adran 6 y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystem
* Holiadur pwysig i gynghorau tref a chymuned a phartneriaid allweddol/Important survey for town and community councils and key partners
* Rheoli Mannau Gwyrdd ar gyfer Bioamrywiaeth – 13eg Hydref 2022 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru /Managing Green Spaces for Biodiversity Oct 13th
* Gweithdy Llywodraeth Cymru Gogledd a De Cymru / Government North and South Wales Workshop Events (tackling barriers which prevent individual’s active participation in local democracy)
* Gwahoddiad i Wyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2023
CSG / CCC
* Cau Ffordd Dros Dro / Temporary Road Closure – Sgwar Dol y Bont, Capel Isaac (SA19 7UB) – 1/9/22 – 9/9/22
* Y newyddion diweddaraf gan Gyngor Sir Caerfyrddin / Latest news from Carmarthenshire County Council
* Precept Advice Awst/August 2022 – £2666.67
* Cau Ffordd Dros Dro / Temporary Road Closure – U4002 – Pantyblodau, Capel Isaac – 19/9/22 am 3 diwrnod /
* Cau Ffordd Dros Dro / Temporary Road Closure – U4004 – Capel Isaac, Llandeilo – 14/9/22 – 1 diwrnod / day
* Rheoli Mannau Gwyrdd ar gyfer Bioamrywiaeth – 13eg Hydref 2022 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru /Managing Green Spaces for Biodiversity Oct 13th (Llinos Evans)
* Bargen Ddinesig/City Deal Swansea Bay – anfon ymlaen at bwyllgor yr Ystafell Ddarllen/forward to Reading Room committee
* Clerks & Councils Direct
* Llythyr of ddiolch / thank you letter – Ystafell Ddarllen
* TenovusCancer Care request for financial support / Cais am gymorth gan Gofal Canser Tenovus
* Apel yr Haf i’r Lloffwr – Llangathen * CFFI Sir Gâr * Cerebral Palsy
22/20 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT / CYLLID / FINANCE
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Cyflog y Clerc / Clerks Salary
Medi/September 231.56
Hydref/October 231.56
Costau’r Clerc / Clerks Expenses 88.62
WeDig Media – Rheoli Gwefan/ 216.00
Website Management
C. Raymond – Torri Gwair/Grass Cutting 500.00
2021 / 2022
Lloyds Banc – Gorffennaf / July – £6110.89 Awst / August – £8392.00
Credyd cais TAW / VAT credit – £376.01
CSG Credyd praesept / Precept credit CCC Awst/August – £2666.67
22/21 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following application was considered by the Council and their observations noted. The clerk to advise CCC accordingly.
RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION
PL/04535 Single storey rear extension to create Y Felin, Dryslwyn,
dining room and garden room Carmarthen SA32 8RJ
Estyniad un llawr i’r cefn i greu ystafell
fwyta ac ystafell ardd.
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
PL/04508 Proposed new community shop, Post Office, South of Parc Bryers,
ancillary café. Dryslwyn, Carmarthen Siop gymunedol, Swyddfa’r Post a
chaffi atodol newydd arfaethedig SA32 8QX
In support of application/ yn gefnogi’r cais
No concerns/objections
Dim pryderon/gwrthwynebiadau
Decisions made by CCC on planning applications:
Penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan CSC:
PL/01009 – Land North of Glanmyddyfi, Pentrefelin, Llandeilo. S19 6SD – Free Range Poultry Unit – Full Refusal / Gwrthodiad Llwyr
22/22 21/48 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cynghorydd Sir Hefin Jones wrth yr aelodau ei fod yn dod i adnabod pobl ers iddo gael ei ethol ym mis Mai. Roedd hyfforddiant yn sicr ar ei agenda. Roedd bellach ar y pwyllgorau canlynol – Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trwyddedu a Rhianta Corfforaethol a Diogelu, ac roedd ar y pwyllgorau cynghori canlynol – Materion Gwledig, Newid yn yr Hinsawdd a Datgarboneiddio, Trechu Tlodi.
Yn dilyn cyfarfod yn Llandeilo ynglyn â’r llwybr beicio – Abergwili i Ffair-fach – bydd yn rhoi gwybod pan fydd sesiwn friffio ar gael.
Bydd y Cynghorydd Jones yn edrych i mewn i’r system gynllunio Un Blaned ac yn cynghori yn unol â hynny.
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu – Cyfarfodydd ar-lein, byddai’n hapus i fynychu pe byddai angen.
County Councillor Hefin Jones advised members that since being elected in May he was getting to know people. Training was very much on his agenda. He is now on the following committees – Health & Social Care Scrutiny, Licensing and Corporate Parenting & Safeguarding, and on the following advisory committees – Rural Affairs, Climate Change & Decarbonisation, Tackling Poverty.
Following a meeting in Llandeilo regarding the cycle path – Abergwili to Ffairfach – he will advise when a briefing is available.
Cllr Jones will look into the One Planet planning system and advise accordingly.
PCSO on line meetings, he would be happy to attend if need be.
21/52 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Coed sy’n hongian drosodd ac yn ymledu i’r briffordd. Ger Yscio, Capel Isaac. Byddai’r Clerc yn cyfleu’r neges i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Overhanging trees encroaching onto highway. Near Yscio, Capel Isaac. Clerk to report to CCC.
2. Trafodwyd cyflog y clerc yn fyr. Byddai’r clerc yn anfon y manylion at y Cyng. Ann Davies at ddibenion craffu
The clerks salary was briefly discussed. The clerk to forward details to Cllr. Ann Davies for scrutiny .
3. Trafodwyd dadwardio plwyf Llangathen – Y Gogledd a’r De. Byddai’r clerc yn cael gwybodaeth gan CSC. I’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
The de-warding of Llangathen parish – North and South – was discussed. The clerk to obtain information from CCC. To be discussed at the next meeting.
4. Swydd wag ar gyfer cynghorydd. Yn dilyn hysbysebu’r hysbysiad cyfethol, ni chafwyd ymateb mewn perthynas â llenwi’r sedd wag. I’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
Councillor vacancy. Following the advertising of notification of co-option, no response had been received in connection with filling the vacancy. To be discussed at the next meeting.
5. Castell Dryslwyn. Gofynnwyd i’r clerc adrodd i CADW am goed sy’n hongian drosodd ac ansadrwydd y wal o amgylch tir y castell.
Dryslwyn Castle. The clerk was asked to report to CADW overhanging trees and the instability of the wall surrounding the castle grounds.
6. Ceisiadau cynllunio Un Blaned. Byddai’r Cyng. Hefin Jones yn ymchwilio i’r mater, ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.
One Planet planning applications. Cllr. Hefin Jones would look into the matter and report back at the next meeting.
7. Gan nad oedd y Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rachel Carter, yn gallu mynychu cyfarfodydd y cyngor ar nos Fawrth, byddai’r clerc yn awgrymu nos Lun iddi.
As The Local Places for Nature Officer, Rachel Carter, was unable to attend council meetings on Tuesdays, the clerk to suggest a Monday evening to her.
8. Gofynnwyd i’r clerc roi gwybod i CSC am unrhyw achosion posibl o dorri rheolaeth gynllunio yn ardaloedd Capel Isaac a Derwen-fawr.
The clerk was asked to report to CCC possible breaches in planning in the Capel Isaac and Broad Oak areas.
9. Y clerc i gysylltu â CSC ynglyn â’r posibilrwydd o gael rhai o’r goleuadau stryd yn ardal Broad Oak ymlaen am gyfnod hirach.
The clerk to contact CCC regarding the possibility of having some of the street lights in the Broad Oak area on for a longer period.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ar 15 Tachwedd 2022 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30yh.
It was resolved that the date for the next meeting of Llangathen Community Council will be held on 15th November 2022 in The Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….