CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 17 Gorffennaf 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 17th July 2018 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs A. Davies (cadeirydd/acting chair) M. Williams, M. Wynne, E. Morgan, E.Rees, B.Jones, L.Hughes a C. Moses. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a/and Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol, a llongyfarchodd y Cyng. Cled Moses ar ei bresenoldeb yn yr Arddwest ym Mhalas Buckingham. Roedd y gwahoddiad a gafodd, ac yntau’n Gadeirydd ymadawol, yn ganlyniad i’w gyfraniad i blwyf Llangathen.
The chair welcomed all present and at this point congratulated Cllr. Cled Moses on having attended The Garden Party at Buckingham Palace. His invitation to attend as out going chair was as a result of his contribution to the parish of Llangathen.
18/11 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. / There were no declarations of interest.
18/12 ADRODDIAD GAN SWYDDOG CYMORTH CYMUNEDOL YR HEDDLU/ REPORT BY PCSO
Roedd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH), Roger Anthony, yn bresennol yn y cyfarfod, a rhoddodd adroddiad ar faterion o fewn y gymuned.
PCSO (Police Community Support Officer) Roger Anthony attended the meeting and reported on matters within the community.
Rhoddodd y Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Anthony wybod i bawb a oedd yn bresennol fod tair damwain wedi bod ar yr A40, a bod un o’r damweiniau wedi cynnwys tri char.
Yn dilyn nifer o achosion o ddwyn beiciau cwad yn ddiweddar, roedd dau unigolyn wedi cael eu harestio, a phump o’r beiciau wedi cael eu dychwelyd i’w perchenogion.
Roedd yr Wyl Jazz ddiweddar yn Llandeilo wedi mynd yn dda.
PCSO Anthony informed all present that there had been three accidents on the A40 with one involving three cars.
Following the recent spate of Quad bike thefts, two persons have been arrested and five bikes have been returned to their owners.
The recent Jazz Festival held in Llandeilo went well.
18/13 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan Cyng. M. Wynne fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 15 Mai 2018 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. M. Wynne that the minutes of the meeting held on Tuesday, 15th May 2018 be accepted as a correct record of proceedings.
18/14 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 17/64 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Rhoddodd y Cyng. C. Campbell wybod i’r aelodau fod John McEvoy o Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau na fydd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn gostwng y terfyn cyflymder yn y lleoliad hwn. Roedd yna anghydfod parhaus yn bodoli ynghylch pwy a oedd yn gyfrifol am y croeslinellau a’r llinellau cyffordd ar y groesffordd. Y gobaith oedd y byddai hyn yn cael ei setlo’n fuan. Roedd llythyr wedi dod i law’r Cyng. A. Davies gan breswylydd lleol a oedd wedi byw ar ochr yr A40, ger Sgwâr Dryslwyn, ar hyd ei hoes. Roedd y llythyr yn nodi iddi sylwi bod cyflymder y traffig wedi cynyddu’n sylweddol. Roedd John McEvoy wedi cadarnhau y byddai cyflymder y traffig y tu allan i Siop Dryslwyn yn cael ei recordio, ac y byddai gwaith yn cael ei wneud ynghylch y lleiniau gwelededd ar Gyffordd y Capel. Roedd astudiaeth wedi dod i law’r Cyng. Campbell, a gynhaliwyd gan breswylydd lleol, ynghylch y problemau ar yr A40 yng nghyffordd Derwen-fawr.
Cllr. C. Campbell advised members that John McEvoy of CCC has confirmed that SWTRA (South Wales Trunk Road Agency) will not be reducing the speed limit at this location. There is an ongoing dispute as to who is responsible for the hatch markings and junction lines at the crossroads. It is hoped that this will be settled soon. Cllr. A. Davies had received a letter from a local resident who has lived on the side of the A40 near Dryslwyn Square all her life. The letter stated that she had observed that the traffic speed had substantially increased.
John McEvoy had confirmed that the recording of the speed of traffic outside Dryslwyn Shop was to be carried out and also the splay at the Chapel Junction.
Cllr. Campbell was in receipt of a study carried out by a local resident regarding the issues on the A40 at the Broad Oak junction.
Cof/Min 17/64 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Er mawr siom, ychydig iawn a oedd wedi mynd i’r hyfforddiant a drefnwyd ar gyfer 6 Gorffennaf 2018 ac, o ganlyniad, ni chafodd yr hyfforddiant ei gynnal. Gofynnwyd i’r clerc drefnu sesiwn arall ar gyfer mis Medi. Roedd y diffibriliwr wedi cael ei osod ar y grîn yn Nerwen-fawr. Diolchwyd i’r Cyng. C. Moses am hyn. Gofynnwyd i’r clerc roi gwybod i’r awdurdodau angenrheidiol fod hyn wedi cael ei gyflawni. Roedd problemau yn bodoli o hyd o ran gosod y diffibriliwr yn Siop Dryslwyn. Byddai’r Cyng. A. Davies a’r Cyng. C. Moses yn ymchwilio i’r mater hwn.
Disappointingly, the training session arranged for 6th July 2018 was very poorly attended and as a result the training evening was abandoned. The clerk was asked to arrange another session for September. The Defibrillator has been erected on the green in Broad Oak. Cllr. C. Moses was thanked for this. The clerk was requested to inform the necessary authorities that this had been done. There remained some problems with the installation of the Defibrillator at the Dryslwyn Shop. Cllr. A. Davies and Cllr. C. Moses were to look in to this matter.
Cof. / Min. 17/64 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE
Roedd safle’r fainc yn y lleoliad hwn bellach wedi’i gytuno, a byddai’r Cynghorwyr yn trefnu i’w gosod yn fuan. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
The site of the bench at this location had now been agreed upon and Cllrs. will be arranging the positioning of same soon. To review at the next meeting.
Cof./Min 17/64 (6) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.
Roedd y Cyng. C. Campbell wedi trafod y mater hwn â John McEvoy yn ystod y cyfarfod ar Sgwâr Dryslwyn. Gweler 18/14 (1)
Cllr. C. Campbell discussed this matter with John McEvoy during the Dryslwyn Square meeting. See 18/14 (1).
Cof/Min 17/64 (8) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC
Roedd Ceri Davies, Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi cadarnhau bod preswylydd y garafán yn y lleoliad uchod wedi cyflwyno cais cyn cynllunio ar gyfer datblygiad Un Blaned.
Ceri Davies, CCC, has confirmed that the occupier of the caravan at the above location has submitted a pre-planning application request for a One Planet development.
Cof/Min 17/64 (9) CARAVAN, CAE LLOI, DRYSLWYN
Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater ynghylch y garafán yn y cae.
The clerk was asked to follow up the matter regarding the caravan in the field.
Cof/Min 17/64 (10) TRAC LLAWR CALED / HARD STANDING TRACK NEAR RHYD YR AFON, BROAD OAK.
Roedd cais cynllunio wedi dod i law. E/37365
A planning application has been received. E/37365
Cof/Min 17/64 (1)YURT AR DIR I’R GORLLEWIN O / YURT AT LAND TO THE WEST OF LLAWR-Y-NEUADD, LLANDEILO
Nid oedd unrhyw dystiolaeth o yurt(au) wedi bod yn y lleoliad hwn.
There has been no evidence of Yurt(s) at this location.
Cof/Min 17/69 (1) BROAD OAK – DAMAGED CONCRETE BOLLARDS
Roedd y Cyng. E. Morgan wedi rhoi gwybod i’r Adran Dai yng Nghyngor Sir Caerfyrddin am hyn. Cytunodd y Cyng. C. Campbell i fynd ar drywydd y mater.
Cllr. E. Morgan had reported the matter to Housing Department, CCC. Cllr. C. Campbell agreed to follow up.
Cof/Min 17/69 (3) CODE OF CONDUCT TRAINING
Roedd Cyng. A.Davies, B.Jones a E.Rees wedi dilyn yr hyfforddiant Cod Ymddygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cllrs. A. Davies, B. Jones and E. Rees had attended the Code of Conduct training run by CCC.
Cof/Min 17/69 (4) BROAD OAK – PARKING
Roedd cais i wneud gwaith wedi cael ei gyflwyno, a byddai’n dechrau pan fyddai’r papurau perthnasol wedi cael eu cyhoeddi.
A works application has been applied for and work will commence once the relevant paper work has been issued.
18/15 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. Un Llais Cymru / One Voice Wales – Cofnodion Cyfarfod / Minutes of Meeting 20/6/18****
2. CSG / CCC Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau / Safe Routes in Communities
3. CSG / CCC – Gartrefi Fforddiadwy / Affordable Homes
4. CSG / CCC – Ffioedd am Gladdu Plant / Child Burial Fees
4. Marie Curie – “Blooming Great Tea Party”
5. SLCC
6. D G Morris Accountancy Service
7. CSG /CCC – Cynllun Lleol (CDLI) Diwygiedig Sir Gaerfyrddin / Revised Carmarthenshire Local Development Plan (LDP) 2018 – 2033
8. Fly the Red Ensign
9. Lloyds Bank – Statement – Ebrill/April – £7847.69, Mai/May – £6051.60, Mehefin/June – £6036.60
Brochures / Circulars
1. Clerks & Councils Direct
2. Hags
Requests for Financial Assistance
1. Llyfrau Llafar Cymru / Talking Books Wales (e-mail)
2. Shop Mobility
e-mail correspondence
Un Llais Cymru / One Voice Wales
* Bwletin Newyddion Mai 2018 / May 2018 News Bulletin
ward tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Heneiddio’n Dda yng Nghymru: Adroddiadau Cynnydd / Effaith a Chyrhaeddiad | Ageing Well in Wales: Progress / Impact & Reach Reports
* Rural Volunteering Project Alud Jones alud.jones@cavs.org.uk
* Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018- 2033 / Revised Carmarthenshire Local Development Plan (LDP) 2018 – 2033
* Craffu Sir Gar / Carmarthenshire Scrutiny Gaynor Morgan GMorgan@carmarthenshire.gov.uk on behalf of DSU Scrutiny scrutiny2@carmarthenshire.gov.uk
* Adolygiad CTC Review – Digwyddiad ‘Galw Heibio’ Cenedlaethol / National ‘Pop-In’ Event Lisa.Aspinall@gov.wales Lisa.Aspinall@gov.wales Adolygiad CTC Review – Cylchlythyr Mehefin/June Newsletter / Gweithdy 17th July 2018 / Workshop 17th July 2018 –
* GDPR
* Newyddlen draenio cynaliadwy rhif 2 / Sustainable drainage newsletter number 2
* Ymchwiliad i amrywiaeth mewn llywodraeth leol / Inquiry into diversity in local government
* Mapping of Public Sector Land and Property Ownership / Mapio’r Tir a’r Eiddo y mae’r Sector Cyhoeddus yn berchen arno
* Children, Young People and Democracy in Wales event / Digwyddiad Plant, Pobl Ifanc a Democratiaeth yng Nghymru
* Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire Local Development Plan
* New Model Standing Orders 2018 – 2018 Model Reolau Sefydlog Newydd
* Correction to Standing Orders / Cywiriad i’r Rheolau Sefydlog
* One Voice Wales’ Innovative Practice Conference 4 July 2018 – Hafod a Hendre, Royal Welsh Showground / Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru 4 Gorffennaf 2018 – Hafod a Hendre, Maes y Sioe Amaethyddol
* Remembrance Day Silhouette Installation Grants
* Welsh Government Finance Trainee Graduate Scheme
* 10th edition of the Charles Arnold Baker publication
* One Voice Wales Conference and AGM Saturday 29th September 2018 – Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru dydd Sadwrn 29ain Medi 2018
* Helpwch i gefnogi gwasanaethau i ofalwyr | Help improve services for carers in Wales
* Cylchlythyr Haf 2018 Comisiynydd Pobl Hyn Cymru – Summer Newsletter Older Peoples Commissioner for Wales
* Latest Newsletter from Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn / Cylchlythyr diweddaraf Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn
* Is there is tree in your community you would like to champion? / Oes yna goeden yn eich yn eich milltir sgwâr chi sy’n arbennig iawn?
* Ammanford Town Council Job Vacancy
* Ymarfer Monitro Blynyddol ar y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Faterion y Gweithlu – y Cod Dwy Haen / Revised Code of Practice on Workforce Matters – the Two Tier Code Annual Monitoring Exercise
* Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030 – Cylchlythyr Ddatgarboneiddio/ Achieving our low-carbon pathway to 2030 – Decarbonisation Newsletter
* Publication of Circular 008/2018 – Planning requirement in respect of the use of private sewerage in new development / Cyhoeddi Cylchlythyr 008/2018 – Gofynion cynllunio mewn perthynas â defnyddio systemau carthffosiaeth preifat mewn datblygiadau …
Wendi Huggett wendi.patience@onevoicewales.org.uk
* JULY TRAINING DATES – DYDDIAU HYFFORDDIANT MIS GORFFENNAF (Finance)
* Cyfarfodydd i hyrwyrddo arolwg anghenion tai gwledig / Meetings to promote study of rural housing needs Matthew Miller MMiller@carmarthenshire.gov.uk
* Town & Community Councils Newsletter – June 2018 Peter Hughes Griffiths Carmarthenshire.County.Council@cmp.dotmailer.co.uk
* Natural Resources Bulletin – Issue 29 – June 2018 Welsh Government WelshGovernment@public.govdelivery.com
* Town & Community Councils pro forma | Pro Forma Cynghorau Tref a Chymuned Leighton.Jones@gov.wales
* RE: Cyngor Cymuned Llangathen H Ceri Davies HCDavies@carmarthenshire.gov.uk
* Cofrestr Etholwyr/Register of Electors Amanda Bebb ABebb@carmarthenshire.gov.uk
* Working in partnership to tackle crime Kate May marketing@governmentevents.co.uk
* Eiriol Mental Health Advocacy Services – Spring Newsletter admin@eiriol.org.uk
* Fforwm “Iaith i gynnal gwaith” / “Work to sustain the Language” Forum Elfed Wyn Jones (Cymdeithas yr Iaith) dyfed@cymdeithas.cymru
* New Planning Application for Llandeilo Chicken Shed – Rhys Phillips
* SWYDDOGOL OFFICIAL] Cyfle ariannu newydd – New funding opportunity – organisations who work with young people alison.davies.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk
* Cwrs Hyforddi/ Training Session Avril McAvoy AYMcAvoy@carmarthenshire.gov.uk
18/16 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
Trywydd
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation (Mai/May) £34.94
Trywydd
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation (Gorffennaf/July) £38.45
M. Rees – Cyflog Mis Gorffennaf / July Salary £266.66
M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses £136.39
18/17 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD / APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
Christopher Purchase Access Track Rhyd yr Afon,
E/37365 Trac Mynediad Broad Oak,
Carmarthen
Dim gwrthwynebiadau No objections
Uned 16,000 o Adar ar gyfer Cywion Ieir
Maes, Tirweddu, gwelliannau i gyffordd y briffordd
Mr T Davies 16,000 Bird, Free Range Chicken Unit, Land North of
Landscaping, improvements to highway Glanmyddyfi, Pentrefelin
Junction Llandeilo
Penderfynodd y Cynghorwyr aros nes y byddai’r holl adroddiadau perthnasol wedi dod i law.
Councillors concluded to await all relevant reports
Roedd y ceisiadau canlynol wedi cael eu cymeradwyo:
The following applications have been approved:
- E/37419 – Cwmcrwth, Broad Oak
- E/34239 – College Chapel, Llangathen
- E/36788 – Glandulais Fawr, Dryslwyn
18/18 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cyng. Cefin Campbell y byddai canlyniadau’r ymgynghoriad Cymunedau a Materion Gwledig ar gael ym mis Medi, ac y byddai Cynghorau Cymuned yn cael gwahoddiad i ddod i Ganolfan Haliwell, Caerfyrddin.
Byddai Taith Prydain yn cychwyn ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin, ac yn mynd i mewn i dref Caerfyrddin.
Pwysleisiodd y Cyng. Campbell bwysigrwydd y Cynllun Datblygu Lleol a’r penderfyniadau a oedd i’w gwneud ynghylch lleoliad tai, ynghyd ag ymchwilio i dir addas ar gyfer adeiladu. Argymhellodd fod yr aelodau’n edrych ar y plwyf a’i addasrwydd ar gyfer cynlluniau o’r fath.
Roedd yn bleser mawr gan y Cyng. Campbell sôn am achlysur dyfarnu Rhyddid Sir Gaerfyrddin i D.T. Davies, Dryslwyn. Roedd yn anrhydedd i’r Cyng. Campbell fod wedi bod yn gysylltiedig ag enwebu gwobr o’r fath, ynghyd â bod yn rhan o’r seremoni a gynhaliwyd yn Siambr Neuadd y Sir, Caerfyrddin. Nodwyd bod cyn-aelodau ac aelodau presennol o Gyngor Cymuned Llangathen yn bresennol yn y seremoni, yn ogystal â’r clerc a ffrindiau o’r gymuned. Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cyng. Ann Davies yn bersonol i’r Cyng. Campbell am ei holl ymdrechion a’i eiriau caredig ar ran ei thad.
Cllr. Cefin Campbell advised that the results of the Communities and Rural Affairs consultation will be made available in September when invites will go out to Community Councils to attend the Haliwell Centre, Carmarthen.
The Tour of Britain will commence in Pembrey, Carmarthenshire and the route will enter Carmarthen Town.
Cllr. Campbell advised the importance of The Local Development Plan and the decisions to be made regarding the location of housing and investigating suitable land for building. He recommended that members looked at the parish and its suitability for such plans.
It was with great pleasure that Cllr. Campbell spoke of The Freedom of Carmarthenshire being awarded to D.T.Davies, Dryslwyn. He regarded it an honour to have been involved with the nomination of such an award and to have been part of the ceremony held in The Chamber at County Hall, Carmarthen. It was noted that past and present members of Llangathen Community Council attended this ceremony as did the clerk and friends from the community. At this point, Cllr. Ann Davies personally thanked Cllr. Campbell for all his efforts and kind words made on behalf of her father.
18/19 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â SWTRA unwaith eto ynghylch y goleuadau ar yr A40 yn Sgwâr Dryslwyn.
The clerk was asked to contact SWTRA once again regarding the lighting on the A40 at the Dryslwyn Square location.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Llun 24 Medi 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Monday 24th September 2018 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….