Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 21 Mai 2019 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 21st May 2019 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs : A. Davies (cadeirydd / chair), M. Wynne, E. Rees, B. Jones, a/and C. Moses.
Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk), Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell hefyd / also aelodau’r cyhoedd / members of the public Mr B. James and Mr R. Lashley.
18/62 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence was received from Cyng. / Cllrs. M. Williams, L. Hughes a/and E. Morgan.
18/63 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. There were no declarations of interest.
18/64 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. B. Jones ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 Mawrth 2019 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. B. Jones and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Tuesday, 19th March 2019 be accepted as a correct record of proceedings.
18/65 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 18/54 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Ni fu unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â chyfarfod safle. Dywedodd y Cyng. C. Campbell ei fod wedi gadael pedair neges ar gyfer Mr Hywel Davies ond, yn anffodus, nad oedd wedi cael ymateb i’w alwadau.
There were no further developments regarding a site meeting. Cllr. C. Campbell reported that he had left 4 messages for Mr Hywel Davies, but unfortunately, his calls had not been returned.
Cof/Min 18/54 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Cadarnhawyd bod y ddau ddiffibriliwr (yn Nerwen-fawr a Siop Dryslwyn) yn gweithio’n iawn. Cadarnhaodd y clerc fod y wefan wedi cael ei diweddaru â lleoliadau/chyfeiriadau’r ddau ddiffibriliwr.
It was confirmed that the two Defibrillators (Broad Oak and Dryslwyn Shop) were in working order. The clerk confirmed that the website had been updated with the location/addresses of the two defibrillators.
Cof. / Min. 18/54 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE
Roedd yna drefniadau ar y gweill i wirio’r ceblau gwasanaeth tanddaearol cyn y gellid dechrau ar unrhyw waith.
Arrangements were in hand for the checking of underground service cables before any work commenced.
Cof./Min 18/54 (4) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.
Gofynnwyd i’r clerc siarad â’r Cyng. E. Morgan ynghylch yr unigolyn cyswllt yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer trefnu teclynnau cyfrif traffig er mwyn monitro cyflymder y traffig.
The clerk was requested to speak to Cllr. E. Morgan regarding the contact person within CCC for the arrangement of traffic counters to monitor the speed of traffic.
Cof/Min 18/54 (5) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC
Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro.
The situation will be monitored.
Cof/Min 18/54 (6) CARAVAN, CAE LLOI, DRYSLWYN
Nodwyd ei bod yn ymddangos na fu unrhyw weithgarwch yn hyn o beth ac felly ni ystyrid bod angen cymryd unrhyw gamau pellach.
It was noted that there appeared to be no activity within this area and therefore no further action was deemed necessary.
Cof/Min 18/54 (7) BROAD OAK – DAMAGED CONCRETE BOLLARDS
Cadarnhawyd bod y mater ar waith.
It was confirmed that the matter was in hand.
Cof/Min 18/54 (8) BROAD OAK – PARCIO / PARKING
Cadarnhawyd y byddai’r mater yn cael ei gwblhau, cyhyd â bod cyllid ar gael yng nghyllideb 2018-2019 neu gyllideb 2019-2020.
It was confirmed that subject to funds being available from the 2018/2019 or 2019/2020 budget, then the matter would be finalised.
Cof/Min 18/55 DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40
Agorwyd y cyfarfod i drafodaeth rhwng y Cynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
Diolchodd yr aelodau o’r cyhoedd i’r Cyngor Cymuned am y cyfle i drafod materion yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, yn benodol ardal Derwen-fawr ar yr A40. Roedd y drafodaeth yn dilyn ymlaen o’r cyfarfod blaenorol ym mis Mawrth. Cadarnhaodd Mr Lashley ei fod bellach wedi cael Adroddiad Traffig. Trafodwyd rhannau o’r adroddiad hwn, ynghyd â’r syniad o anfon llythyr at y trigolion lleol yn gofyn am iddynt gofnodi unrhyw ddamweiniau/ddamweiniau a oedd bron â digwydd a welwyd ganddynt. Diolchodd Mr Brian James i Mr Lashley am ei waith caled. Dywedwyd bod Mr Lashley wedi talu £300 am yr adroddiad ysgrifenedig.
Diolchodd y Cynghorwyr i Mr Lashley a Mr James.
Ailgynullodd cyfarfod y cyngor, a pharhaodd y drafodaeth ynghylch y mater hwn. Penderfynwyd y byddai llythyrau dwyieithog yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu i drigolion ardal Derwen-fawr. Gwirfoddolodd y Cyng. B. Jones i ddosbarthu’r llythyrau â llaw er mwyn cadw’r costau i lawr. Trafodwyd y gost yr aeth Mr Lashley iddi ar gyfer argraffu’r Adroddiad Traffig, a chytunwyd yn unfrydol y dylid gwneud cyfraniad o £150 tuag at hyn. Byddai’r clerc yn trefnu i siec gael ei anfon at Mr Lashley, ynghyd â llythyrau o ddiolch i’r ddau a fu’n bresennol yn y cyfarfod.
The meeting was opened for a discussion between Councillors and members of the public.
Members of the public thanked the Community Council for the opportunity to discuss road safety matters, in particular the Broad Oak area of the A40. The discussion followed on from the previous meeting in March. Mr Lashley confirmed that he had now received the Traffic Report. Parts of this report were discussed together with the idea of sending letters to local residents requesting that they recorded any accidents / near misses they may have witnessed. Mr Brian James thanked Mr Lashley for his hard work. It was reported that Mr Lashley had paid £300 for the written report.
Both Mr Lashley and Mr James were thanked by the Councillors.
The council meeting reconvened and the discussions regarding this matter continued. It was resolved that bilingual letters would be printed and circulated to the residents of the Broad Oak area. Cllr. B. Jones volunteered to hand deliver the letters in order to minimise costs. The costs incurred by Mr Lashley for the printing of the Traffic Report was discussed and it was unanimously agreed that o contribution of £150 be made towards this. The clerk to arrange for a cheque to be forward to Mr Lashley together with letters of thanks to both attendees of the meeting.
Cof/Min 18/61 (1) BAW CWN / DOG FOULING – FELINDRE / CASTELL DRYSLWYN
Roedd y clerc wedi dweud wrth Adran yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin, am y mater hwn. Dywedwyd wrthi y byddai’r swyddog gorfodi yn patrolio’r ardal. Byddai’r clerc yn trafod â’r swyddog y posibilrwydd o gael arwyddion.
The clerk had reported this matter to the Environmental Department, CCC. She was advised that the enforcement officer would patrol the area. The clerk to discuss with the officer the possibility of signs.
Cof/Min 16/61 (2) HARD STANDING, BROAD OAK AREA.
Roedd y Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi dweud y byddai astudiaeth o’r protocol cynllunio yn cael ei chynnal. Rhif cyfeirnod E/ENF/09184
Planning Services, CCC have advised that an investigation regarding planning protocol will be carried out. Reference number E/ENF/09184
18/66 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. Llythyr o ddiolch / Thank you letter – Capel Cross Inn
2. Llythyr o ddiolch / Thank you letter – Cylch Meithrin Cwrt Henri
3. Zurich Municipal – Request for quote
4. Llythyr o ddiolch / Thank you letter – Cllr. Mansel Charles
5. BHIB Insurance – Policy Schedule
6. Lloyds Bank – March Statement – £6829.38
April Statement – £8281.38
Request for information – the clerk to telephone Lloyds Bank.
7. Fly the Red Ensign for Merchant Navy Day – 3/9/19
Requests for Financial Assistance
1. Bobath, Children’s Therapy Centre Wales
2. Y Lloffwr
3. Carers Trust Crossroads Sir Gar
4. Cerdd Dant Llanelli a’r Cylch 2019
Brochures/Circulars
1. Clerks & Council Direct 2. Hags 3. Glasdon
Tracy Gilmartin-Ward tgilmartinward@onevoicewales.wales
* Cyfarfod Pwyllgor Ardal Caerfyrddin Un Llais Cymru 02/04/2019 – One Voice Wales Carmarthenshire Area Committee Meeting 02/04/2019
* Consultation: Consideration of proposals to amend the Public Audit (Wales) Act 2013 / Ymgynghoriad: Trafodaeth o’r cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
* One Voice Wales/SLCC Joint Event – 15 May 2019 / Digwyddiad Ar y Cyd rhwng Un Llais Cymru / SLCC – 15 Mai 2019
* Joint One Voice Wales and Planning Aid Wales Network Event / Conference – Digwyddiad Rhwydweithio / Cynhadledd ar y cyd rhwng Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru
* Guidance on Payments to Members of Community and Town Councils / Canllawiau ar Taliadau i Aelodau Cynghorau Cymuned a Thref
* Cllors Allowance Opt Out Form / Ffurflen Tynnu Allan o Dderbyn Lwfans Cynghorwyr
* Swydd Gwag – Swyddog Datblygu Canolbarth a Gorllewin Cymru / Job Vacancy – Mid & West Wales Development Officer
Carmarthenshire CC
*Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft Cyngor Sir Caerfyrddin / Carmarthenshire County Council Draft Local Toilets Strategy – Rhys Davies
* Gweithdy Rheoli Llecynnau Gywrdd – Managing Green Spaces workshop Llinos Evans – the clerk will be attending this workshop. Details to be forwarded to Cllr. B. Jones.`
* Request for Code of Conduct/Cod Ymddygiad data – y clerc i rhoi gwybod i CSG/ the clerk to advise CCC
* Motions for 2019 Annual General Meeting / Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019
* Cymdeithas Prif Swyddogion Cynllunio Cymru – rydym ni eisiau clywed oddi wrthych chi | Planning Officers’ Society for Wales (POSW) – we want to hear from you Emily Dent
* Newyddion Y Panel Heddlu a Throseddu/Police & Crime Panel News -Avril McAvoy
* Hyfforddiant Cod Ymddygiad/Code of Conduct Training 2019 Avril McAvoy
* DIARY MARKER: Official launch of the Carmarthenshire Cycling Tourism Toolkit 23 May 19 Huw L Parsons
* You’re invited to Carmarthenshire Cycling Toolkit Launch Event (23 May 2019)
* Ffioedd am Gladdu Plant 2019/2020 Child Burial Fees 2019/2020 Rhys Davies
Wendi Patience wpatience@onevoicewales.wales
* Welcome Letter – Membership of One Voice Wales for 2019-20 / Llythyr Croeso – Aelodaeth Un Llais Cymru ar gyfer 2019-20 – Acknowledgement of payment.
* Second Life Products Wales Ltd – Recycled Products
* Notification of SWWRCF Renewal and forecast pipeline required – TS South West Wales Regional Contractors Framework
* Will your Town or Parish Council join our Great British Spring Clean? Keep Britain Tidy
Welsh Government
* 2019 Wales Rural Network News Round-up Issue 3; March 2019
* Natural Resources Bulletin – April 2019 – Issue 38
* Wales Rural Network News Round-up 2019 Issue 4; April 2019
* Natural Resources Bulletin – May 2019 – Issue 39
* [SWYDDOGOL OFFICIAL] Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu – Police & Crime Commissioner’s Community Fund Police and Crime Commissioner – forwarded to Cllrs.
* Corinthian Masonry – Introduction and quotation
* Employability in Wales Conference, 19th June, Cardiff Rhys Price rhys.price@seneddinsight.com
* How you can help St Peter’s Church julie rees – Tescos Bags of Help initiative 1/5/19 – 30/6/19
18/67 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
D G Morris – Internal Audit 2018/2019 200.00
Ystafell Ddarllen / Reading Room Cwrt Henri 90.00
C.Raymond – torri porfa / grass cutting 275.00
Trywydd:
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation
(Mawrth/March 2019) 22.08
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation
(Mai /May 2019) 60.72
£
BHIB Yswiriant/ Insurance 374.01
M. Rees – Cyflog Mis Mai / May Salary 266.66
M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 107.64
R Lashley – Diolgelwch / Safety Derwen Fawr/Broad Oak 150.00
18/68 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd:
Approved planning applications:
E/38406 – Penywaun, Capel Isaac, Llandeilo – Single Storey Extension.
E/38329 – Dutch Barn, Y Felin, Dryslwyn, Caerfyrddin – Lean to Extensions
Roedd y Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi dweud y byddai astudiaeth o’r protocol cynllunio yn cael ei chynnal. Rhif cyfeirnod E/ENF/09184
Planning Services advised that the possible unauthorised development of a hardcore base within field near Coed y Ceirw, Broad Oak had been allocated reference number E/ENF/09184.
18/69 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Dywedodd y Cynghorydd Sir Cefin Campbell wrth yr aelodau y byddai Wendy Walters yn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin ar 10/6/19.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri yn 2021. Roedd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer 22/5/19 am 7pm yng Ngharmel gyda’r bwriad o sefydlu pwyllgor apêl.
County Councillor Cefin Campbell advised members that Wendy Walters would be taking up the role as Chief Executive of Carmarthenshire County Council on 10/6/19.
The Urdd Eisteddfod will be held in Llandovery in 2021. A meeting has been arranged for the 22/5/19 at 7pm in Carmel with the view of setting up an appeals committee.
18/70 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Ystyriwyd y byddai’n arfer da adolygu’r Rheoliadau Ariannol (Cymru). Cafodd y rhain eu cymeradwyo ddiwethaf yn 2016. Byddai hyn yn eitem ar yr agenda yn y cyfarfod nesaf.
1. It was deemed good practice to review the Financial Regulations (Wales). These were last approved in 2016. This will be an agenda item at the next meeting.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 16th July 2019 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….