• Home
    • Plwyf LLangathen
    • Llangathen Parish
    • Notices
  • Meeting Minutes
    • Council Meeting Agendas
    • Audit Notice 2019
    • Notices
  • Your Council
    • Payments to members
    • Accounts
    • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
  • Planning
  • Enquiries / Comments
    • Concerns and Complaints Policy
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
    • Family Research
      • Family Research Enquiries
  • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
  • Accessibility statement

Cyngor Cymuned Llangathen / Llangathen Community Council

Cofnodion / Minutes, Medi / September 2019

November 27, 2019 By justin

CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN  / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth , 17 Medi 2019 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.

Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 17th September 2019 at The Reading Room, Court Henry.

Presennol / Present: Cyng. Cllrs : B. Jones (cadeirydd / chair), A. Davies,  M. Williams, E. Rees,  E. Morgan, M. Wynne a/and C. Moses.

Hefyd yn presennol / In attendance Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell, Mrs M.Rees (clerc / clerk), Mr John Williams “Go Safe”, Mr Rob Lashley and Mr Brian James. 

19/24  YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  / Apologies for absence was received from  Cyng. / Cllr. L. Hughes.

19/25 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. / There were no declarations of interest.

19/26 COFNODION / MINUTES

Cynigiwyd gan Cyng. A. Davies ac eiliwyd gan Cyng. C. Moses  fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.

It was proposed by Cllr. A. Davies and seconded by Cllr. C. Moses that the minutes of the meeting held on Tuesday, 16th  July 2019 be accepted as a correct record of proceedings.

19/27  MATERION YN CODI /  MATTERS ARISING

Cof/Min 19/15 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN

Gweler Diogelwch y Ffyrdd  / See Road Safety

Cof/Min 19/15 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR

Cadarnhawyd bod y ddau ddiffibriliwr (yn Nerwen-fawr a Siop Dryslwyn) yn gweithio’n iawn.

It was confirmed that the two Defibrillators (Broad Oak and Dryslwyn Shop) were in working order.

Cof. / Min. 19/15 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE

Roedd y fainc ger Sgwâr Milton bellach yn ei lle. Diolchwyd i’r Cyng. C. Moses am ei amser a’i waith wrth gyflawni’r dasg hon.

The bench near Milton Square was now in position.  Cllr. C. Moses was thanked for his time and effort in carrying out this task.

Cof./Min 19/15 (4) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.

Roedd y clerc wedi anfon negeseuon e-bost at swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch gosod peiriannau cyfrif cyflymder i fonitro sefyllfa’r traffig. Gan nad oedd ymateb wedi dod i law, byddai’r clerc a’r Cyng. C. Campbell yn mynd ar drywydd hyn.

The clerk had sent e-mails to CCC officers regarding the installation of speed counters in order to monitor the traffic situation.  As no reply had been received, the clerk and Cllr. C. Campbell to follow up.

Cof/Min 19/15 (5) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC

Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro.

The situation will be monitored.

Cof/Min 19/15 (7) BROAD OAK – DAMAGED CONCRETE BOLLARDS

Dywedwyd bod y gwaith wedi cael ei gwblhau.

It was reported that the work had been completed.

Cof/Min 19/15 (8)  BROAD OAK – PARCIO / PARKING

Cadarnhawyd bod yr ardal wedi cael ei mesur yn barod ar gyfer y gwaith. Dywedodd y Cyng. Cefin Campbell y byddai’n mynd ar drywydd y mater.

It was confirmed that the area had been measured in readiness for the work.  Cllr. Cefin Campbell advised he would follow up the matter.

Cof/Min 19/15 (9) DIOGELWCH Y FFYRDD / ROAD SAFETY – A40

Agorwyd y cyfarfod i drafod materion yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd ar yr A40, yn enwedig wrth gyffordd Derwen-fawr.

Cyflwynodd Mr Rob Lashley adroddiad ar y sefyllfa bresennol.

Roedd Mr John Williams o “Go Safe” yn bresennol, a dywedodd ei fod wedi cynnal arolwg o’r safle/arolwg cyflymder ar 15 Medi 2019. Cadarnhaodd hefyd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cynnal adolygiad cyflymder ar holl ffyrdd Cymru.

Cafwyd trafodaeth ddefnyddiol a amlygodd y trafferthion yn y cyffiniau.

Cadarnhaodd Mr Williams y byddai’n cynnig yr argymhellion canlynol i LlC:

 

Mae angen diweddaru’r arwyddion (rhybudd)

Mae angen gosod dangosyddion cyflymder (sy’n dangos i fodurwyr beth yw eu cyflymder)

Argymell gostwng y cyflymder

Byddai 40 mya yn gyflymder rhesymol ar y rhan o’r A40 sy’n mynd trwy Dderwen-fawr

Y gilfan – parcio cyfyngedig, neu ei chau

Torri’r gwrychoedd y rheolaidd

Cymhwyso gorfodaeth cyflymder cyn gynted â phosibl

 

Nodwyd bod BT yn parcio yn y gilfan ger Derwen-fawr, ac awgrymwyd y dylid anfon llythyr at BT yn gofyn am iddynt beidio â pharcio yno gan fod hyn yn cyfyngu’n fawr ar welededd modurwyr wrth gyffordd Capel Isaac.

Nodwyd hefyd fod y Cyngor Cymuned wedi bod yn ceisio gwella materion traffig ger Sgwâr Dryslwyn ers dros 20 mlynedd, a hynny heb unrhyw ganlyniad.

Ailgynullwyd y cyfarfod.

The meeting was opened in order to discuss matters regarding road safety on the A40, in particular, the Broad Oak junction.

Mr Rob Lashley gave a report on where the situation was at present.

Mr John Williams from “Go Safe” was in attendance and advised that he had carried out a site/speed survey on 15th September 2019. He also confirmed that the Welsh Government (WG) were carrying out a speed review on all roads in Wales.

An informative discussion took place which highlighted the troubles in the vicinity.

Mr Williams confirmed that he would be putting forward the following recommendations to WG:

 

Signs need to be updated (warning)

Speed indicators need to be installed (advising motorists of their speed)

Recommend a reduction in speed

40mph would be a reasonable speed at the Broad Oak section of the A40

The lay-by – restricted parking or to be closed off

Hedges to be cut down regularly

Speed enforcement to be applied as soon as possible

 

It was noted that BT  parked in the lay-by at Broad Oak and it was suggested that a letter be sent to them requesting that they do not park there as this caused major visibility restrictions on motorist at the Capel Isaac junction.

It was also noted that the Community Council had been trying to improve traffic matters at the Dryslwyn Square location for over 20years with no results.

The meeting was reconvened.

Cof/Min 19/15 (10) BAW CWN / DOG FOULING – FELINDRE / CASTELL DRYSLWYN CASTLE

Cadarnhaodd y Cyng. Cefin Campbell y byddai’n trafod y mater ag Adran yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Cllr. Cefin Campbell confirmed that he would discuss the matter with the Environmental Department, CCC.

19/28   GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE

Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:

The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:

1.  Cylch Meithrin Cwrt Henri – llythyr o ddiolch / thank you letter

2.  CSG/CCC Isetholiadau Achlysurol / Casual By Elections / Recriwtio Staff Gorsafoedd Pleidleisio / Recruitment of Polling Staff.

3.  Auditor General for Wales

4.  Eluned Morgan

5.  Maer Caerfyrddin / Mayor of Carmarthen .  Gwahoddiad / Invitation

6.  Lloyds Bank – Statement July 2019 – £5544.32

7.  Arolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar Gyfer Sir Gaerfyrddin / Review of County Electoral Arrangements for the County of Carmarthenshire

Requests for Financial Assistance

1.  CFFI Sir Gar/ Carmarthenshire YFC

Brochures/Circulars

1.  Proludic

2.  J Parkers

Un Llais Cymru / One Voice Wales

* Un Llais Cymru / One Voice Wales – Bwletin Newyddion / News Bulletin

tgilmartinward@onevoicewales.wales

* Digwyddiadau Ymgynghori – Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru / Consultation Events – National Strategy for Flood and Coastal Erosion Risk Management in Wales.

* Comisiynydd Pobl Hyn Cymru Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19 \\ Older People’s Commissioner for Wales Impact and Reach Report 2018-19

* Wales Audit Office’s Good Practice Exchange Programme 2019/20; Rhaglen Ymarfer Da

* Long Forest Project – Free App for Community Councils to Survey Hedgerows

* PLANNING SURVEY

* Cymru Oed-Gyfeillgar Cylchythyr/Age-Friendly Wales Newsletter

* Facebook – Heneiddio yn Dda yng Nghymru / Ageing Well in Wales

* Environment Wales Act 2016 – Community & Town Councils Duty under Section 6 / Ddeddf yr Amgylchedd Cymru 2016 – Dyletswydd Cynghorau Chymuned a Thref o dan Adran 6 – Forwarded to Cllrs.

* Gwireddu Cymru Gydradd | Making an Equal Wales a Reality – Cardiff /Llanrwst

*One Voice Wales Conference and AGM 05/10/2019 – ATGOFFA Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru 05/10/19 – Pontrhydfendigaid,

* Survey to find out more about the sector’s use of digital mechanisms to engage, meet and share information with your communities / Arolwg i ddarganfod mwy am ddefnydd y sector o fecanweithiau digidol i ymgysylltu, cwrdd a rhannu gwybodaeth â’ch cymunedau (8/11/19)

wpatience@onevoicewales.wales

* RECRUITMENT OF ADDITIONAL TRAINING ASSOCIATES / RECRIWTIO CYMDEITHION HYFFORDDIANT YCHWANEGOL

* MID WALES TRAINING SESSIONS / SESSIWN HYFFORDDIANT Y CANOLBATH CYMRU

*Revised Model Financial Regulations – y Model Reoliadau Ariannol Diwygiedig

* National Development Framework – Newsletter 008 – August 2019

* MID WALES TRAINING SESSIONS – SEPTEMBER – OCTOBER 2019 / SESSIWN HYFFORDDIANT CANOLBARTH – MEDI / HYDREF 2019

AYMcAvoy@carmarthenshire.gov.uk

* Dyfed Powys Police & Crime Panel/Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys – Chairmans Annual Report/Adroddiad Blynyddol Y Cadeirydd

WelshGovernment@public.govdelivery.com

* Natural Resources Bulletin – Issue 42 – August 2019 Welsh Government

LlinEvans@carmarthenshire.gov.uk

* Arolwg Ynni Sir Gâr / Carmarthenshire Energy Survey Llinos Evans (Policy) – sent to Cllrs.

* Gwahoddiad – Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen / Moving Rural Carmarthenshire Forward – invitation

    8/10/19

* Newidiadau sy’n effeithio ar y gwasanaeth ailgylchu / biniau | Changes affecting bins / recycling service LlinEvans@carmarthenshire.gov.uk

Chris@ablecommunitycare.com

Free ‘Do not knock’ door stickers Chris Cook  –

Trafodwyd y mater hwn, ac awgrymodd y Cyng. Cefin Campbell y dylai siarad ag Age Cymru i gael cyngor.

 This matter was discussed and Cllr. Cefin Campell suggested he talked to Age Cymru for advise.

TNeumayer-James@carmarthenshire.gov.uk

Ysgol Cwrt Henri School –

– Y clerc i ddweud nad oedd yna’r un enwebiad gan Gyngor Cymuned Llangathen; fodd bynnag, gallai’r Cyng. B. Jones, fel rhiant-lywodraethwr presennol, fod yn gynrychiolydd y cyngor gan felly adael swydd wag ar gyfer rhiant-lywodraethwr.

The clerk to advise that there were no nominations from Llangathen Community Council, however, Cllr. B. Jones, as an existing parent governor could become the council representative thereby leaving a vacancy for a parent governor.

*Carmarthenshire County Council – Remittance Advice/Cyngor Sir Caerfyrddin – Manylion am y taliad – (19772) – 28/08/2019 14:11:29  Precept £2400 – 28/8/19

*FFORWM CYHOEDDUS TYNGED YR IAITH – 09.30-11.30 Bore Sadwrn 21 Medi – Llyfrgell Caerfyrddin dyfed@cymdeithas.cymru

19/29 TYSTYSGRIF ARCHWILIO ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU/ THE AUDITOR GENERAL FOR WALES’ AUDIT CERTIFICATE

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar gyfer Cyngor Cymuned Llangathen.

Roedd rhai materion wedi cael eu nodi nad oeddent yn effeithio ar y farn archwilio. Byddai’r materion hyn yn cael eu trosglwyddo i’r archwilydd mewnol.

Roedd hysbysiad o Gasgliad yr Archwiliad yn cael ei arddangos yn yr hysbysfwrdd cymunedol ac ar y wefan.

The Auditor General for Wales issued Llangathen Community Council an unqualified audit report.

Some matters were identified which did not affect the audit opinion.  These matters would be passed on to the internal auditor.

Notice of Conclusion of Audit is being displayed in the community notice board and web site.

 

19/30  CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT

Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:

The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:

Trywydd:

Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation £

(Mai/May 2019) 22.56

Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation

(Gorffennaf/July 2019) 24.82

M. Rees – Cyflog Mis Gorffennaf / July Salary             266.66

M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 106.38

Cadarnhaodd y clerc fod hawliad TAW ar-lein wedi cael ei gyflwyno.

The clerk confirmed that an online VAT claim had been submitted for £367.81

 

19/30  CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS

 

Cafodd y ceisiad canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:

The following application was considered by the Council and their observations noted:

RHIF CAIS DATBLYGIAD LLEOLIAD /  APPLICATION NO. DEVELOPMENT LOCATION

 

E/39294 Discharge of conditions 9 Glandulais Fawr

Conversion of Courtyard Dryslwyn

outbuildings into three Carmarthen

holiday let cottages SA32 8RD

Dim gwrthwynebiadau  /No objections

 

Ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd:

Approved planning applications:

 

E/38983 – Caeaunewydd, Carmarthen – Sied Da Byw/Livestock shed

E/38934 – Cwrt Henry Farm, Dryslwyn, Carmarthen – To dros y lle tail presennol/Roof over existing dung stead.

 

19/31 TALIADAU I AELODAU CYNGHORAU CYMUNED (tynnu allan) PAYMENTS TO MEMBERS OF COMMUNITY COUNCIL (opt out)

Roedd yr holl aelodau bellach wedi llenwi’r ffurflenni optio allan ar gyfer taliadau. Y clerc i drefnu i ddatganiad blynyddol o ddim gael ei drosglwyddo i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac i arddangos y datganiad ar y wefan.

All members had now completed the opt out payment forms.  The clerk to arrange for a nil annual return to be forwarded to the Independent Remuneration Panel for Wales and to display the return on the website.

19/32 RHEOLIADAU ARIANNOL (CYMRU) 2019 / FINANCIAL REGULATIONS (WALES) 2019

Roedd copïau o’r ddogfen ddiweddaraf hon wedi cael eu hanfon at bob Cynghorydd. Yn dilyn y drafodaeth, cytunwyd yn unfrydol i fabwysiadu’r polisi.

Copies of this up dated document had been forwarded to all Councillors.  After a discussion, it was unanimously agreed to adopt the policy.

19/33 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT

Nododd y Cyng. Cefin Campbell fod y llwybr beicio o ben Caerfyrddin yn cael ei oedi o ganlyniad i broblemau yn ymwneud â phrynu tir fferm. Y bwriad oedd dechrau ar y gwaith yn Ffair-fach.

Pan ofynnwyd iddo ynghylch y ffordd osgoi wrth Heol y Gât, Gorslas, cadarnhaodd fod yr oedi, unwaith eto, yn ganlyniad i broblemau wrth brynu tir. At hynny, byddai’n rhaid cynnwys twneli er mwyn darparu ar gyfer bywyd gwyllt.

Cllr. Cefin Campbell noted that the Cycle Path from the Carmarthen end was being delayed due to the problems encountered in purchasing farm land.  It was the intention to commence work at Ffairfach.

When asked about the by-pass at Gate Road, Gorslas, he confirmed that again, the delays were due to problems in purchasing land . Also, tunnels would need to be encompassed in order to provide for wildlife.

19/34 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS

1. Nodwyd nad oedd golau’r stryd ger Caeaunewydd, Dryslwyn, yn gweithio o hyd. Y clerc i roi gwybod i SWTRA am hyn.

It was noted that the street light near Caeaunewydd, Dryslwyn, remains out of order.  The clerk to report again to SWTRA.

2.Nodwyd y byddai noson gwis yn cael ei chynnal yn Temple Bar, Carmel, i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, 2021. Byddai llawer o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu cynnal wedi hyn.

 It was noted that there is to be a quiz evening in Temple Bar, Carmel in order to raise funds to the Urdd Eisteddfod, Llandovery, 2021.  Numerous funds raising events will be forthcoming.

 

DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING

Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen  yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2019 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.

It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 19th November 2019 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.

Llofnod / Signed…………………………….

Dyddiad / Date………………………………….

 

Filed Under: Council Meeting Minutes

Council Agendas / Minutes

  • Accounts (24)
  • Annual Report (10)
  • Audit Hysbysiad (7)
  • Council Meeting Agendas (68)
  • Council Meeting Minutes (89)
  • Family Research (1)
  • Notices (33)
  • Uncategorized (3)

Latest Minutes / Agendas

  • LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
  • Hysbysiad Archwilio 2025 Audit Notice
  • Gwybodaeth Allweddol Mai 2025 May Key Information 
  • Agenda Mai 2025 May Agenda
  • Cofnodion Cyfarfod  Mawrth 2025 Minutes March
  • Gwybodaeth Allweddol Mawrth 2025 Key Information March
  • Agenda Mawrth 2025 March Agenda
  • Cofnodion Ionawr 2025 Minutes January
  • Gwybodaeth Allweddol Ionawr 2025 Key Information January
  • Cofnodion Tachwedd 2024 Minutes November
  • Agenda Ionawr 2025 January Agenda
  • Ffurflen flynyddol 2024 Annual return 2024

Search

Contact Details

Mrs M Rees
Llangathen Community Council
Crachty Isaf
Capel Isaac
Llandeilo
SA19 7UH

Tel: 01558 668349

Email:
Council@Llangathen.org.uk

Contact Details

Mrs M Rees
Llangathen Community Council
Crachty Isaf
Capel Isaac
Llandeilo
SA19 7UH

Tel: 01558 668349

Email:
Council@Llangathen.org.uk

www.llangathen.org.uk

Serving:

Broad Oak
Cilsan
Dryslwyn
Felindre
Golden Grove
Llangathen
Pantgwyn
Pentrefelin

Web Pages

  • Home
    • Plwyf LLangathen
    • Llangathen Parish
    • Notices
  • Meeting Minutes
    • Council Meeting Agendas
    • Audit Notice 2019
    • Notices
  • Your Council
    • Payments to members
    • Accounts
    • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
  • Planning
  • Enquiries / Comments
    • Concerns and Complaints Policy
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
    • Family Research
      • Family Research Enquiries
  • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
  • Accessibility statement

Copyright © 2025· Log in