CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Mai 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 17th May 2016 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs H. James, (cadeirydd/chair) , E.Morgan, M. Wynne a / and S.Collins. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a / and Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
15/50 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. L. Hughes, G.Davies, M. Williams a / and C. Moses.
15/51 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. There were no declarations of interest.
15/52 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. S. Collins ac eiliwyd gan Cyng. H. James fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 15 Mawrth 2016 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. S. Collins and seconded by Cllr. H. James that the minutes of the meeting held on Tuesday, 15th March 2016 be accepted as a correct record of proceedings.
15/53 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof. / Min 15/42 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Cafwyd trafodaeth am ddiogelwch Sgwâr Dryslwyn. Roedd dau aelod o’r cyhoedd wedi rhoi gwybod eu bod bron iawn â chael damwain yn y lleoliad hwn oherwydd modurwyr yn goddiweddyd. Ailbwysleisiwyd y ffaith mai terfyn cyflymder ac arwyddion camera fyddai’r ffordd orau o wella mesurau diogelwch. Cytunodd y Cynghorydd Sir C. Campbell i siarad â swyddogion Cyngor Sir Gâr a gofyn iddynt ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn nodi eu pryderon.
A discussion ensued regarding the safety at Dryslwyn Square. Two members of the general public had made it known that they had encountered a very near accident at this location due to motorists overtaking. It was reiterated that a speed limit and camera signage would be the best outcome to improve safety measures. County Councillor C. Campbell agreed to speak to officers of Carmarthenshire County Council and request that they write and put forward their concerns to Welsh Government and South Wales Road Trunk Agency.
Cof. / Min 15/42 (2) DATBLYGIADAU AMAETHYDDOL, LAN FARM, DERWEN-FAWR / AGRICULTURAL DEVELOPMENTS, LAN FARM, BROAD OAK
Roedd y clerc wedi gofyn i Rosie Carmichael am ddiweddariad ar y sefyllfa, ond nid oedd wedi cael unrhyw wybodaeth hyd yma. Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater.
The clerk had requested an up date on the situation from Rosie Carmichael but to date no information had been received. The clerk was asked to follow up the matter.
Cof. / Min 15/42 (4) ARWYNEB Y FFORDD, SIOP GYMUNEDOL DRYSLWYN /ROAD SURFACE,DRYSLWYN COMMUNITY SHOP
Roedd y Cyng. E. Morgan wedi rhoi gwybod i BT am y mater ac roedd y sgyrsiau’n parhau. Cytunodd y Cyng. Morgan i barhau i fynd ar drywydd y mater.
Cllr. E. Morgan had reported the matter to BT and conversations are ongoing. Cllr. Morgan agreed to continue to pursue the matter.
Cof. / Min 15/42 (5) BUDDIANT AELODAU / MEMBERS INTEREST
Mae’r dull o gofnodi datganiadau o fuddiant bellach ar waith.
The method of recording declarations of interest is now in place.
Cof. / Min 15/42 (6) HYSBYSFWRDD, DERWEN-FAWR a LLOCHES BYSIAU, DRYSLWYN /NOTICE BOARD, BROAD OAK and BUS SHELTER, DRYSLWYN
I’w hadolygu yn y cyfarfod nesaf. To review at the next meeting.
Cof / Min 15/42 (6) GWEFAN Y GYMUNED / COMMUNITY WEBSITE
Yn sgil trafodaeth am ddatblygu Gwefan y Gymuned, cytunwyd yn unfrydol i ymgymryd ag awgrym Justin Lewis ar gyfer cynnal a chadw’r wefan. Byddai’r clerc yn cysylltu â Mr Lewis ac yn gofyn iddo ddarparu anfoneb pan fo hynny’n briodol.
Following a discussion regarding the development of the Community Website, it was unanimously agreed to take up Justin Lewis’ suggestion for the maintenance of the site. The clerk to contact Mr Lewis and request that he provide an invoice when appropriate.
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
15/54 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
1.Zurich Municipal – Insurance Quote
2. Neuadd Llangathen Hall – Llythyr o ddiolch / thank you letter.
3. CFfI / YFC Sir Gâr / Carmarthenshire – Llythyr o ddiolch, tocynnau i’r Rali / thank you letter, tickets to Rally.
4. CSG / CCC – Côd Ymarfer Cynghorwyr / Councillors Code of Conduct
Cydymffurfio â’r Côd Ymddygiad – gwybodaeth yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
– information under the Freedom of Information Act
Roedd y clerc wedi danfon y wybodaeth / The clerk had provided the required information
5. CSG /CCC – Manylion am y Taliad Presept / Remittance Advice regarding the Precept – £2333.34
6. CSG /CCC – Mae gofal a chymorth yang Nghymru yn newid / Care and support in Wales is changing.
7. Un Llais Cymru – Cyfarfod / Meeting 26/4/16 – Cofnodion / Minutes 3/2/16. Derbynneb /acknowledgement £66
8. Y Comisiwn Etholiadol / The Electoral Commission
9. Radio Glangwili – Llythyr o ddiolch / thank you letter.
10. Awdurdod Tân ac Achub Cano Barth a Gorllewin Cymru / Mid and West Wales Fire and Rescue Authority
11. Lloffwr – Llythyr o ddiolch / thank you letter
12. CSG /CCC – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu / Police and Crime Commissioner
13. Ystafell Ddarllen Cwrt Henry – e-bost o ddiolch / thank you e-mail
14. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda University Health Board – Iechyd Meddwl / Mental Health Services
15. Ysgol Gynradd / Primary School Cwrt Henri – Llythyr o ddiolch / thank you letter.
16. Ambiwlans Awyr Cymru / Wales Air Ambulance – e-bost o ddiolch / thank you e-mail
Brochures / Circulars
1. Clerks and Councils Direct
Requests for Financial Assistance
1. Eglwys y Plwyf Llangathen Parish Church
2. Age Cymru Sir Gâr
E-mail Correspondence
Tracy Gilmartin-ward [tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Community Asset Transfer Guide – Revised Edition
* Polisi Cynllunio Cymru Pennod 6 / Planning Policy Wales Chapter 6
* Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Trafod yr ymgynghoriad ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft | Finance Committee report: Consideration of the consultation on the Draft Public Services Ombudsman (Wales) Bill
* Corff Gwarchod Iechyd yn gofyn barn am y Gwasanaeth Nyrsio Ardal yng ngogledd Cymru / Health Watchdog seeks views about the District Nursing Service in North Wales
* Launch of Public Health Outcomes Framework for Wales – Lasio’r Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
* Future Wellbeing of Internal Audit Shared Learning Seminar/ Seminar Dysgu ar y Cyd ar Les Archwiliad Mewnol yn y Dyfodol
* Financial Regulations – Rheoliadau Ariannol Newydd
* One Voice Wales/SLCC Joint Event – 22 June 2016 / Digwyddiad ar y Cyd gan Un Llais Cymru/SLCC – 22 Mehefin 2016
* Motions for 2016 Annual General Meeting / Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016
* Update to Model Financial Regulations – Diweddariad i’r Model Reoliadau Ariannol
* Consultation: The Well being of Future Generations and what it means for your audit / Ymgynghoriad: Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r hyny mae’n ei olygu i’ich archwiliad chi
* Cylchlythyr y Comisiynydd / Commissioner’s Newsletter
* Smarter Energy Future for Wales – report
* Important – RECALL OF MODEL FINANCIAL REGULATIONS / Pwysig – ADALW MODEL REOLIADAU ARIANNOL
* The Ombudsman’s Casebook – Issue 24
* Invitation from the Future Generations Commissioner for Wales| Gwahoddiad o Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Wendi Huggett [wendi.huggett@onevoicewales.org.uk ] – CAB quarterly newsletter
[angharad@planningaidwales.org.uk – RTPI Wales Planning Conference, 9th June 2016
15/55 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Trywydd – Cyfieithu 31.54
D G Morris – Archwilio 200.00
M Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 112.12
M Rees – Cyflog Mis Mai / May Salary 266.66
AON – Insurance / Yswiriant 379.45
It was unanimously agreed that a long term agreement be entered into with AON UK Limited, attracting a discount of 5%.
Eglwys y Plwyf Llangathen Parish Church 200.00
15/56 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
Mae angen cwympo coeden onnen er mwyn
sicrhau bod dwy goeden gyfagos yn tyfu’n iach.
Mrs Elizabeth Rowlands Ash tree needs to be removed in order to manage Lluest, Mount Road,
E/33654 healthy growth of two adjacent trees Llangathen. SA32 8QD
Dim sylwadau / No comments
Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer
defnydd neu weithrediad neu weithgaredd sy’n
bodoli: cartref symudol a ddefnyddir fel annedd,
cartref symudol a ddefnyddir fel gweithdy, a storfa
offer wedi’i hadeiladu o waith bloc.
Mr Tim Grant Application for a lawful development Gwaen Fartin,
certificate for an existing use or operation or Capel Isaac, Llandeilo
activity: mobile home used as a dwelling, SA19 7UL
mobile home used as a workshop, and
blockwork-built tool store
Dim sylwadau / No comments
15/57 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Darparodd y Cynghorydd Sir, Cefin Campbell, wybodaeth am brosiect y Llwybr Beicio a fydd, ar ôl ei gwblhau, yn rhedeg ar hyd yr hen reilffordd o Gaerfyrddin i Ffairfach. Mae cyllid wedi’i sicrhau ac mae’r gwaith wedi dechrau. Bydd cymal cyntaf y cynllun yn canolbwyntio ar Gaerfyrddin i Nantgaredig, wedyn Nantgaredig i Gelli Aur ac yna’n olaf Gelli Aur i Ffairfach. Rhagwelir y bydd y prosiect wedi’i gwblhau erbyn 2018, cyhyd ag y bydd popeth yn mynd yn iawn. Bu achosion o brynu gorfodol ar gyfer y llwybr, fodd bynnag, mae rhai ffermwyr/perchenogion tir/pysgotwyr wedi gwrthwynebu’r cynlluniau.
Mae Cyngor Sir Gâr ar fin lansio cynllun newydd cyffrous a fydd yn darparu £2 filiwn ar gyfer prosiectau i hyrwyddo cefn gwlad. Bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni meini prawf penodol, ac un ohonynt fydd y gofyniad i brosiectau greu swyddi newydd
County Councillor Cefin Campbell provided information on the Cycle Track project which when completed will run along the disused rail track from Carmarthen to Ffairfach. Funds have been made available and the work has commenced. The first stage of the scheme will be from Carmarthen to Nantgaredig, followed by Nantgaredig to Golden Grove and finally Golden Grove to Ffairfach. It is anticipated that the project will be completed by 2018 subject to all going according to plan. There have been compulsory purchases made for the track, however, some farmers/land owners/fishermen have opposed the plans.
An exciting new scheme is due to be launched by CCC and this will provide £2 million on projects to promote the countryside. Applicants will require to fulfil certain criteria, one of which will be that projects must create jobs.
15/58 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Nodwyd bod y bont dros afon Myddyfi ger Glanmyddyfi bellach ar gau ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Rhagwelir y dylai’r gwaith gymryd tua phedair wythnos.
It was noted the bridge over the Myddyfi river near Glanmyddyfi is now closed for essential repairs. It is anticipated that the work should take approximately four weeks.
2. Nodwyd bod Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Roger Anthony’n mynychu cyfarfodydd Cynghorau Cymuned cyfagos yn rheolaidd i roi gwybod am ddigwyddiadau/troseddau yn yr ardal. Teimlwyd y byddai’n syniad da i wahodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Roger Anthony, i gyfarfodydd Llangathen o hyn ymlaen. Byddai’r clerc yn trefnu hyn.
It was noted that PCSO Roger Anthony regularly attended neighbouring Community Council meetings to report on incidents/crimes in the vicinity. It was deemed a good idea to invite PCSO Anthony to subsequent meetings of Llangathen. The clerk to arrange.
DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 19th July 2016 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed………………… Dyddiad / Date………………………………….