CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cyn dechrau’r cyfarfod, siaradodd Mr Terry Davies a Mr Robert Evans yn fyr am gais cynllunio E/34266. Yn ystod y cyfarfod, roeddent hwy, ynghyd ag aelodau eraill o’r cyhoedd, yn arsylwi yn unig.
Prior to the commencement of the meeting, Mr Terry Davies and Mr Robert Evans spoke briefly regarding planning application E / 34266. During the meeting, they and other members of the public were observers only.
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 20 Medi 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 20th September 2016 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs M.Wynne, (cadeirydd/chair) , E.Morgan, H. James, C. Moses a M. Williams. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) and the following members of the public: Miss S. Davies, Mrs E. Davies, Mrs D. Evans, Mr O. Davies, Mr T. Davies, Mr C. Davies and Mr R. Evans.
16/13 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. G. Davies and L. Hughes a / and Cynghorydd Sir / County Councillor Cefin Campbell.
16/14 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Datganwyd buddiant gan y Cyng. C. Moses yn eitem rhif 8 ar yr agenda, sef Ceisiadau Cynllunio.
Cllr. C. Moses declared an interest in agenda item 8, Planning Applications. E /34266
16/15 ADRODDIAD GAN SWYDDOG CYMORTH CYMUNEDOL YR HEDDLU/ REPORT BY PCSO
Nid oedd cynrychiolydd yr heddlu yn bresennol i roi adroddiad. Ystyriwyd y byddai’n syniad da i’r clerc anfon e-bost at y Swyddog Cymorth Cymunedol i’w atgoffa am y cyfarfodydd.
There was no police representative present to give a report. It was deemed a good idea for the clerk to e-mail the PCSO in future as a reminder of the meetings.
16/16 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan Cyng. M. Wynne fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2016 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. M. Wynne that the minutes of the meeting held on Tuesday, 19th July 2016 be accepted as a correct record of proceedings.
16/17 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof. / Min 16/05 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Roedd y clerc wedi cael neges e-bost gan Richard Morgan, Pennaeth Is-adran Rheoli Rhwydweithiau a Chynllunio, Llywodraeth Cymru. Roedd yn nodi ei fod wedi cael copi o lythyr Llangathen at Heddlu Dyfed Powys. Roedd yn nodi y byddai’r cyfyngiad cyflymder a fodolai yn y lleoliad hwn yn cael ei gadw, a bod cynigion i wella’r arwyddion a’r marciau ffordd ar hyd y llwybr bellach wedi cael eu dylunio. Gofynnwyd i’r clerc gysylltu â Mr Morgan i ofyn am fanylion y dyluniad.
The clerk had received an e-mail from Richard Morgan, Head of Planning Network Management Division, Welsh Government. He stated that he had received a copy of Llangathen’s letter to Dyfed Powys Police. He noted that the existing speed limit at this location would be retained and that proposals to improve the signing and road markings along the route had now been designed. The clerk was asked to contact Mr Morgan requesting details of the design.
Cof. / Min 16/05 (2) DATBLYGIADAU AMAETHYDDOL, LAN FARM, DERWEN-FAWR
/ AGRICULTURAL DEVELOPMENTS, LAN FARM, BROAD OAK
Roedd neges e-bost wedi dod i law gan Rosie Carmichael, Cyngor Sir Gâr. Roedd hi’n cadarnhau nad oedd rhagor o waith plannu wedi’i wneud, a bod hynny wedi’i sefydlu yn dilyn ymweliad pellach â’r lleoliad uchod. Roedd hi wedi adrodd ar y mater i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd i’r clerc fynd ar drywydd y mater ym mis Tachwedd.
An e-mail had been received from Rosie Carmichael, CCC. She confirmed that further to a visit at the above location it was established that no further planting had been carried out. She had reported the matter to Welsh Government. The clerk was requested to follow up the matter in November.
Cof. / Min. 16/05 (3) ARWYNEB Y FFORDD, SIOP GYMUNEDOL DRYSLWYN /
ROAD SURFACE,DRYSLWYN COMMUNITY SHOP
Cadarnhawyd gan y Cyng. E. Morgan fod BT wedi ei tharmacio y ffordd.
Cllr. E. Morgan confirmed that BT had tarmarced the road.
Cof. / Min 16/05 (4) HYSBYSFWRDD, DERWEN-FAWR a LLOCHES BYSIAU, DRYSLWYN / NOTICE BOARD, BROAD OAK and BUS SHELTER, DRYSLWYN
Roedd y Cyng. C. Moses wedi ymgynghori â’r trigolion lleol ynghylch yr Hysbysfwrdd newydd arfaethedig, ac roedd dewis wedi’i wneud o ran steil. Byddai’r clerc ‘nawr yn ymchwilio i brisiau, ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.
Cllr. C. Moses had consulted with local residents regarding the proposed new Notice Board and a choice on style had been made. The clerk would now look into pricing and report back at the next meeting.
Cof. / Min. 16/05 (5) DIFFIBRILIWR / DIFIBRILLATOR
Roedd Siop Gymunedol Dryslwyn wedi nodi y byddai trafodaethau ynghylch prynu a lleoli Diffibriliwr yn cael eu cynnal yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac y byddent yn cysylltu wedi hynny.
Dryslwyn Community Shop have advised that discussions regarding the purchase and siting of a Debfibrillator will be discussed at their AGM after which they will be in touch.
Cof. / Min. 16/12 (1) ARHOSFAN BWS YN BROAD OAK / BUS SHELTER AT BROAD OAK
Roedd y clerc yn dal i aros am ateb gan Gyngor Sir Gâr.
The clerk was still awaiting a reply from CCC.
Cof. / Min. 16/12 (2) ARCHWILYDD MEWNOL / INTERNAL AUDITOR
Gan nad oedd ateb wedi dod i law gan Mr David Morris, gofynnwyd i’r clerc gysylltu ag ef unwaith eto ynglyn â’r gofynion newydd.
As no reply had been received from Mr David Morris, the clerk was asked to contact him once again regarding new requirements.
Cof. / Min. 16/12 (3) BONT RHWNG YR HAFOD A WERNDDU, CAPEL ISAAC / BRIDGE BETWEEN HAFOD AND WERNDDU, CAPEL ISAAC.
Cytunodd y Cyng. E. Morgan i fynd ar drywydd y mater.
Cllr. E. Morgan agreed to follow up the matter.
Cof. / Min. 16/12 (4 & 5) BROAD OAK
Cytunodd y Cyng. C. Moses i fynd ar drywydd y mater.
Cllr. C. Moses agreed to check the issues regarding furniture and dog mess.
16/18 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. CCC – Remittance Advice – £2333.33
2. Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys Police & Crime Commissioner
3. Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire Local Access Forum
Addroddiad Blynyddol / Annual Report 2015
4. CCC – Cais am Grant Llwybrau Diolgel Mewn Cymunedau / Application for Safe Routes in Communities Grant – roedd dogfennau wedi cael eu rhoi i / the documents were passed on to Cyng. / Cllr. S. Collins.
5. GIG Cymru / NHS Wales – Sgwrs Iach / Let’s Talk Health – Mae’r posteri wedi cael eu harddangos yn lleol / the posters have been displayed locally.
6. Lloyds Bank – July 2016 – £7467.06
– August 2016 – £9800.39
7. Arolwg Datblygu Cymunedol ac Economides y Canolbarth a’r Gorllewin / Community & Economic Development Survey Mid and West Wales -Eluned Morgan AC / AC – Llafur / Labour.
8. Comisiwn y Ffiniau I Gymru / Boundary Commission for Wales – www.comffin-cymru.gov.uk
9. Jonathan Edwards AS / MP – Free Range Chicken Shed E/34266
10. Mr Ronnie Cleland – E / 34266
11. Ms Linda Codeiro – E / 34266
12. Dr Rhys Phillps & Mrs Julia Phillips – E / 34266 also attachment from asbritransport.
13. Dr Rhys Phillips with LvW Highways attachment – E /34266
Brochures / Circulars
1. Clerks & Councils Direct
2. Hags 2016
Requests for Financial Assistance
1. Teigrod Tywi Hockey Club
2. C Ff I Sir Gâr / Carmarthenshire YFC
Tracy Gilmartin-ward [tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Planning Law in Wales – Scoping Paper Summary / Y Gyfraith Gynllunio yng Nghymru – Crynodeb o’n Papur Cwmpasu
* Vacancies – Recruitment of Additional Training Associates / Swyddi Gwag – Recriwtio Cymdeithion Hyfforddiant Ychwanegol
* Advice to Community and Town Councils on Working with Young People / Cyngor i Gynghorau Cymuned a Thref ar Weithio gyda Phobl Ifanc
* One Voice Wales AGM Motions 2016 / Cynigion Cynhadledd Un Llais Cymru 2016
* Getting to Grips with the New Pensions Legislation and Responsibilities Placed on Local Councils / Ymdopi â’r Ddeddfwriaeth Bensiynau Newydd a’r Cyfrifoldebau a Roddir ar Gynghorau Lleol
* Job Vacancy – Pembrey and Burry Port Town Council / Swyddi Wag Cyngor Tref Penbre a Porth Tywyn
* Gohebiaeth a gwybodaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol | Correspondence and information from the Future Generations Commissioner
* The Ombudsman’s Casebook Issue 25
* An update from the Older People’s Commissioner for Wales / Y newyddion diweddaraf gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru
* Gwahoddiad Brecwast Busnes/ Business Breakfast Invite
* Consultation on fee rates and fee scales 2017-18 / Ymgynghoriad ar gyfraddau ffioedd a graddfeydd ffioedd 2017-18
* Holiadur – Polisi Cynllunio Cymru / Questionnaire – Planning Policy Wales
* Ymgynghoriad y Pwyllgor Llifogydd ac Erydiad Arfordiro / Flood and Coastal Erosion Committee Consultation
* REMINDER Getting to Grips with the New Pensions Legislation and Responsibilities Placed on Local Councils / ATGOFFA Ymdopi â’r Ddeddfwriaeth Bensiynau Newydd a’r Cyfrifoldebau a Roddir ar Gynghorau Lleol
Wendi Huggett wendi.huggett@onevoicewales.org.uk
* Training Sessions – September – December 2016 / Sesiynau Hyfforddi – Medi – Rhagfyr 2016
* Module 10 – Chairing Skills – Ammanford – Thursday 22nd September / Modiwl 10 – Sgiliau Cadeirio – Rhydaman – Dydd Ian 22ain Medi
* Ymateb i’r cynnig ar uno Ardaloedd Cyfiawnder Lleol yng Nghymru / Response to the proposal on mergers of Local Justice Areas in Wales
* Swyddogol : Cyfleoedd Penodiadau Cyhoeddus | Official : Public Appointments Opportunities
* Assets of Community Value Questionnaire / Holiadur Asedau o Werth Cymunedol.
* Council as an Employer Training – Llanelli – Thursday 29th September / Hyfforddiant Y Cyngor Fel Cyflogydd – Llanelli – Dydd Iau 29ain Medi
Joseph Thomas joseph@planningaidwales.org.uk
*Planning4communities July 2016
* Place Plans – from concept to reality
Business Wales WelshGovernment@public.govdelivery.com
Business Advice, Information, Funding and Financial Support
LLRees@carmarthenshire.gov.uk Fforwm Blynyddol 50+ Annual Forum
A40 Dryslwyn Square safety concerns Gemma.John@wales.gsi.gov.uk [Gemma.John@wales.gsi.gov.uk] on behalf of EconomyandInfrastructureGovernmentBusiness@wales.gsi.gov.uk EconomyandInfrastructureGovernmentBusiness@wales.gsi.gov.uk
16/19 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
- Trywydd (Cyfieithu Ysgrifenedig) £36.05
- M Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses £105.75
- M Rees – Cyflog Mis Medi / September Salary £266.66
16/20 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
Mr Hadian Steel Barn Land Near, Hafod
E/34167 Ysgubor Ddur Farm, Capel Isaac,
Llandeilo
Dim gwrthwynebiadau
No objections
Mr A Cobby Conversion of Redundant Methodist College Chapel,
E/34239 Chapel to Residential Property Llangathen,
Addasu’r Capel Methodistaidd Segur
yn Adeilad Preswyl Carmarthen
Dim gwrthwynebiadau
No objections
Mr T Davies 32,000 Bird Free Range Chicken Unit Land North of
E/34266 Landscaping and Associated Improvements Glanmyddyfi, to a Highway Junction Pentrefelin,
Tirlunio ar gyfer Uned Cywion Ieir i 32,000 Llandeilo
o adar, a’r Gwelliannau Cysylltiedig i Gyffordd
ar y Ffordd Fawr
Cllr. C. Moses declared an interest.
Penderfynwyd na fyddai penderfyniad yn cael ei wneud yn y cam hwn.
Teimlai’r cynghorwyr y byddai’n fuddiol ymweld â’r Uned Cywion Ieir yn Llanfynydd. Gwnaed trefniadau ar gyfer ymweliad.
It was decided that no decision would be made at this stage.
Cllrs felt it would be beneficial to visit the existing Chicken Unit at Llanfynydd. Arrangements were made for a visit.
16/21 ANNUAL RETURN FOR THE YEAR ENDED 31ST MARCH 2016
Cadarnhawyd gan Grant Thornton UK LLP, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, fod yr wybodaeth yn y Ffurflen Dreth Flynyddol yn unol ag arferion priodol, ac nad oedd unrhyw faterion yn achosi pryder.
Fodd bynnag, argymhellwyd y dylid mynd i’r afael â’r materion canlynol:
Monitro’r Gyllideb yn ystod y Flwyddyn. Llythyr Ymgysylltu’r Archwilydd Mewnol.
Grant Thornton UK LLP, on behalf of Audit General Wales, confirmed that the information contained in the Annual Return was in accordance with proper practices with no matters giving cause for concern.
However, they did recommend that the following matters be addressed:
In Year Budget Monitoring. Internal Auditor Engagement Letter.
16/22 THE LOCAL AUTHORITIES (MODEL CODE OF CONDUCT) (WALES) (AMENDMENT) ORDER 2016
Roedd copïau o’r ddogfen uchod ar gael i bob Cynghorydd. Cynigiwyd gan y Cyng. S. Collins ac eiliwyd gan y Cyng. M. Williams fod y cod ymddygiad diwygiedig yn cael ei fabwysiadu, ac felly penderfynwyd gwneud hynny.
Copies of the above document had been made available to all Councillors. It was proposed by Cllr. S. Collins and seconded by Cllr. M. Williams and therefore resolved that the revised code of conduct be adopted.
16/23 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Roedd cais wedi dod i law ynghylch dau fynediad cudd. Caeaunewydd a Fferm Cwrt Henry, Dryslwyn. Y clerc i gysylltu â John McEvoy ynghylch y posibilrwydd o osod arwyddion er mwyn rhybuddio gyrwyr.
A request had been received regarding two concealed entrances. Caeaunewydd and Court Henry Farm, Dryslwyn. The clerk to contact John McEvoy regarding the prospect of the positioning of signs in order to warn motorists.
2. Roedd hysbysiad ynghylch gwartheg yn croesi’r A40 rhwng ffermydd Caeaunewydd a Manordulais wedi dod i sylw’r Cynghorwyr. Penderfynwyd y dylai’r clerc ysgrifennu at Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ynghylch arwyddion rhybudd.
Notification of cattle crossing the A40 between the farms known as Caeaunewydd and Manordulais had been brought to the Councillors attention. It was concluded that the clerk write to SWTRA regarding warning signs.
3. Roedd glendid yr arosfannau bysiau yn Broad Oak ac yn Sgwâr Dryslwyn yn destun pryder. Cynigiodd y Cyng. E. Morgan ymchwilio i’r mater o ran eu glanhau.
The cleanliness of bus shelters at Broad Oak and Dryslwyn Square was a concern. Cllr. E. Morgan offered to look into the matter regarding cleaning.
4. Mae’r mynediad i Felindre, Dryslwyn yn dod yn rhwystr oherwydd tyfiant cloddiau. Mae’r lleoliad yn agos at Llwynonnen. Y clerc i adrodd.
The access to Felindre, Dryslwyn is becoming obstructed due to overgrown hedge. The location is near the property known as Llwynonnen. The clerk to report.
DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Tachwedd 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 15th November 2016 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….