CYNGOR CYMDEITHAS LLANGATHEN /LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 Ionawr 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 19th January 2016 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs H. James, (chair) M. Wynne, G.Davies, M. Williams a / and E.Morgan. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a / and Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
15/28 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs. C. Moses, S. Collins and L. Hughes.
15/29 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. There were no declarations of interest.
15/30 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. M. Wynne ac eiliwyd gan Cyng. M. Williams fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2015 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. M. Wynne and seconded by Cllr. M. Williams that the minutes of the meeting held on Tuesday, 17th November 2015 be accepted as a correct record of proceedings.
15/31 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof. / Min 15/22 (1)
Y BLOC STABLAU YN Y CAE GER RHYDYRAFON/GLANDDU, DERWEN-FAWR / STABLE BLOCK IN FIELD NEAR RHYD YR AFON / GLANDDU, BROAD OAK
Nodwyd bod y lloches cae yn y lleoliad uchod bellach wedi’i symud.
It was noted that the field shelter that was sited at the above location has now been removed.
Cof. / Min 15/22 (2) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Roedd y clerc wedi cael neges e-bost gan y Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yr ohebiaeth yn mynegi pryder y gallai’r mater hwn, o bosibl, fod wedi cael ei gamgyfleu. Roedd y cynghorwyr wedi cael braw nad oedd gwybodaeth bwysig yn cael ei throsglwyddo i Edwina Hart, gan olygu, felly, nad oedd darlun eglur, cyflawn o’r sefyllfa yn cael ei roi. Oherwydd methiant amlasiantaethol i adrodd ac i drosglwyddo gwybodaeth hollbwysig i’r awdurdodau perthnasol, roedd yn ymddangos y gallai oedi yn y gwaith o weithredu mesurau diogelwch fod wedi achosi mwy o ddamweiniau yn y lleoliad, gyda rhai ohonynt, o bosibl, wedi arwain at farwolaethau.
Gofynnwyd i’r clerc gysylltu ag Edwina Hart eto, gan drosglwyddo’r neges e-bost gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, a oedd yn mynegi dryswch ynglyn â pha adroddiad y gallai’r gweinidog fod yn cyfeirio ato. Gofynnwyd i’r clerc hefyd fynegi pryder nad oedd gwybodaeth bwysig, o bosibl, wedi cael ei throsglwyddo, ac i ofyn i gynllun gweithredu addas a manylion cyswllt gael eu rhannu fel y gellid sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei choladu i alluogi penderfyniadau pwysig i gael eu gwneud.
The clerk had received an e-mail from the Customer Relations Advisor, Public Service Bureau, Dyfed Powys Police. The correspondence expresses concern that there may have been miscommunication on this matter. Councillors were alarmed that important information was not being forwarded to Edwina Hart and therefore a clear, full picture of the situation was not being portrayed. It appears that due to a multi agency failure in reporting and passing on crucial information to the relevant authorities, a delay in the carrying out of safety measures may have caused further accidents at this location, some possibly resulting in fatalities.
The clerk was asked to contact Edwina Hart again, passing on the e-mail from the Public Service Bureau, in which it states confusion as to what report the minister may be referring to. Also, to express concern that important information may not have been passed on and request that a suitable action plan and contact details be shared so that it is ensured that all information is collated to enable important decisions to be made.
Cof. / Min 15/22 (3) DATBLYGIADAU AMAETHYDDOL, LAN FARM, DERWEN-FAWR / AGRICULTURAL DEVELOPMENTS, LAN FARM, BROAD OAK
Nid oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law gan Rosie Carmichael, CSC.
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
No information has been received from Rosie Carmichael, CCC.
To review at the next meeting.
Cof. / Min 15/22 (4) ARWYNEB Y FFORDD, SIOP GYMUNEDOL DRYSLWYN /ROAD SURFACE,DRYSLWYN COMMUNITY SHOP
Roedd Cyng. E. Morgan wedi archwilio’r safle. Roedd yn ymddangos mai gwaith BT yn cloddio’r arwyneb wrth osod ceblau band llydan oedd wedi achosi’r pant. Roedd yn bosibl bod y gwarantiad dwy flynedd y mae BT yn ei gynnig bellach wedi dod i ben. Fodd bynnag, roedd Cyng. Morgan wedi rhoi gwybod am y mater. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
Cllr. E. Morgan had inspected the site. It appears that the depression in the road surface is due to BT having excavated the surface whilst laying Broadband lines. It is possible that the two year warranty that BT offer may now have expired. However, Cllr. Morgan has reported this matter. To review at the next meeting.
Cof. / Min 15/27 (1) CYFETHOL CYNGHORWYR / CO-OPTION OF COUNCILLORS
Wedi gwirio’r cofnodion, roedd y Cynghorwyr canlynol wedi’u cyfethol ar y Cyngor:
Having checked records, the following Councillors have been co-opted onto the Council:
Cyng. / Cllrs. H. James, Cllr. M. Wynne, C. Moses and Cllr. S. Collins.
Byddai’r clerc yn trefnu bod yr wybodaeth hon yn cael ei harddangos ar y wefan.
The clerk will arrange for this information to be displayed on the website.
Cof. / Min 15/27 (2) BUDDIANT AELODAU / MEMBERS INTEREST
Roedd y ddogfennaeth berthnasol mewn perthynas â’r uchod wedi cael ei hanfon ymlaen at y clerc trwy Un Llais Cymru. Fodd bynnag, roedd bellach wedi dod i’r amlwg nad oedd hyn yn ofyniad ar gyfer Cynghorau Cymuned. Byddai’r clerc yn cysylltu ag Un Llais Cymru i gael eglurder.
The relevant documentation regarding the above had been forwarded to the clerk via One Voice Wales. However, it had now come to light that it was not a requirement for Community Councils. The clerk would contact OVW and seek clarity.
Cof. / Min 15/27 (4 and 5) HYSBYSFWRDD, DERWEN-FAWR a LLOCHES BYSIAU, DRYSLWYN / NOTICE BOARD, BROAD OAK and BUS SHELTER, DRYSLWYN
I’w hadolygu yn y cyfarfod nesaf.
To review at the next meeting.
15/32 POLICY IAITH CYMRAEG / WELSH LANGUAGE POLICY
Roedd y clerc wedi cael costau ynglyn â chyfieithu’r cofnodion. Roedd y rhain yn seiliedig ar £40/1000 o eiriau – 0.04c/gair. Penderfynwyd bwrw ati i ddarparu’r cofnodion yn ddwyieithog. Cynigiwyd gan y Cyng. M. Wynne ac eiliwyd gan y Cyng. H. James fod polisi’r Gymraeg yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny.
Arwyddwyd y polisi, fel sy’n briodol, gan y Cyng. H. James i gadarnhau hyn. Gofynnwyd i’r clerc roi gwybod i Gomisiynydd y Gymraeg am y penderfyniad.
The clerk had received costings regarding the translation of the minutes. These were based on £40 / 1000 words – 0.04p/ word. It was decided to proceed with producing the minutes bilingually. It was proposed by Cllr. M. Wynne and seconded my Cllr. H. James that the Welsh Language policy be amended accordingly.
Cllr. H. James, duly signed the policy to confirm this. The clerk was requested to advise the Welsh Language Commissioner of the decision.
15/33 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
1. Un Llais Cymru – Pwyllgor Ardal Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire Area Committee – 3/2/16 / Rhydaman
– Fforwm Cyswllt Sirol / Liaison Forum – 8/12/15
2. Cyngor Sir Gar/CCC – Apêl Teganau Nadolig / Christmas Toybox Appeal
3. Llywodraeth Cymru / Welsh Government – Hadolygiad o Ddiogelwch Cefnffyrdd / Road Safety Review
4. ESP Environmental Ltd
5. GIG Cymru / NHS Wales – Gwahoddiad i Ddigwyddiad Ymgysylltu Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl /
Invitation to Attend a Transformation of Mental Health Services Engagement Event
25/1/16 – Nghanolfan Halliwell
6. Manylion Praesept / Precept Advice – £2,333.33
7. Banc Lloyds Bank – Datganiad Tachwedd / November Statement – £ 9009.23
Rhagfyr / December – £11,342.56
– Changes to the Financial Services Compensation instruction
8. Paul Williams, California
9. Cyngor Sir Gar / CCC – Footway Lighting Charges – 2016/2017
– Y Praesept ar gyfer 2016/17 – Precept Requirement 2016/17
– Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sail Treth y Cyngor) (Cymru) 1995
The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base) (Wales) Regualations 1995
10. Llywodraeth Cymru / Welsh Government – Gwariant Adran 137: Y Terfyn ar Gyfer 2016/17
– Section 137 Expenditure: Limit for 2016/17
Brochures / Circulars
1. Clerks & Councils Direct
Requests for Financial Assistance
2. Bobath Children’s Therapy Centre Wales
E-mail Correspondence
Tracy Gilmartin-ward [tracy.gilmartin-ward@onevoicewales.org.uk
* Canllawiau Statudol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 / Statutory Guidance for the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015
* Community Health Councils are looking for members – Mae aelodau Cyngor Iechyd Cymined yn chwilio am aelodau
* Official : Public Appointments Opportunity – Chair & Members – National Entity for Welsh for Adults Scrutiny Committee / Swyddogol : Cyfle Penodiadau Cyhoeddus – Cadeirydd ac Aelodau – Pwyllgor Craffu yr Endid Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion
* Green Growth Wales – Options for Investment Support/Twf Gwyrdd Cymru – Opsiynau ar gyfer Cymorth Buddsoddi
* Draft Local Government (Wales) Bill / Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft
* Launch of Public Health Outcomes Framework Consultation/Lansio Ymgynghoriad ar Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
* Natural Resources Bulletin – Issue 2 – December 2015
* Tryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru / Transparency of Senior Remuneration in the Devolved Welsh Public Sector
* Buckingham Palace Garden Party Invitation – Gwahoddiad Garddwestu Palas Buckingham
* Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cynllunio Cadarnhaol / Publication of the Positive Planning Implementation Plan
* Practical advice to share – what to do before during and after a flood
* Invitation for Nominations – New Year 2017 Honours Round
* Official : Appointment of Independent Member to the Board of Community Health Councils in Wales | Swyddogol : Penodi Aelod Annibynnol – Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
* Ymgynghoriad Cyhoeddus Fframwaith Strategol olynol Mwy na geiriau…. / More than just words…. follow-on Strategic Framework Public Consultation
* Appointment of a Vice-Chair and Independent Members to NHS Wales | Swyddogol : Penodi Is-Gadeirydd ac Aelodau Annibynnol i GIG Cymru
* Wales Audit Office Newsletter December / Newyddlen Swyddfa Archwilio Cymru Rhagfyr
* Guide to Taking Part – The Queen’s 90th Birthday Beacons – 21st April 2016 / Canllaw i Gymryd Rhan – Goleufeydd 90ain Pen-blwydd y Frenhines – 21ain Ebrill 2016
* Diwrnod Partneriaeth Rhyfel Byd Cyntaf 2016 / First World War Partnership Day 2016
* Natural Resources Bulletin – Issue 3 – January 2016
* An invite to the very first Partnership Forum meeting on 2nd February 2016 / Wahoddiad i gyfarfod cyntaf erioed Fforwm Partneriaeth Cyrchfannau Sir Gaerfyrddin ar yr 2ail o Chwefror 2016
WelshGovernment@public.govdelivery.com
* Draft Local Government (Wales) Bill / Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft
* Business Advice, Information, Funding and Financial Support
* An Invitation to attend a Welsh Government Engagement Event on the Draft Local Government (Wales) Bill and Explanatory Memorandum/Gwahoddiad i fynychu Digwyddiad Ymgysylltu Llywodraeth Cymru ar Ddrafft Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a Memorandwm Esboniadol.
Eitem 8, gan Paul Williams, Califfornia. Roedd neges e-bost ddymunol wedi dod i law gan Paul Williams, yn gofyn am gymorth i ymchwilio i’w linach. Gofynnwyd i’r clerc ateb neges Mr Williams, gan roi iddo gyfeiriadau gwefannau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed a Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin, ac i ddweud hefyd y byddai ei ddogfen yn cael ei throsglwyddo i Mr D. T. Davies o Ddryslwyn, yn y gobaith y gallai fod ganddo wybodaeth. Os byddai Mr Williams yn cymeradwyo hynny, byddai’r wybodaeth yn cael ei hychwanegu at wefan y Gymuned fel y gallai’r rhai sydd â diddordeb helpu.
Item 8, from Paul Williams, California. A pleasant e-mail had been received from Paul Williams requesting help in his research of his ancestry. The clerk was requested to reply to Mr Williams, providing the website addresses of Dyfed Family History Society and the Carmarthenshire Archive Services and to advise that his document would be passed on to Mr D. T. Davies of Dryslwyn in the hope that he may have some information. Subject to Mr Williams’ approval, the information will be added to the Community website so that interested parties may help.
15/34 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
M Rees – Cyflog Mis Ionawr /January Salary 266.66
M Rees – Costau’r Clerc /Clerks Expenses 75.70
15/35 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
R & A Amos The use of two timber cabins for Bed & Pantybas,
Breakfast tourist accommodation (began Pentrefelin, more than 10 years ago) Llandeilo
Y defnydd o ddau gaban pren ar gyfer
llety ymwelwyr Gwely a Brecwast
(a ddechreuodd fwy na 10 mlynedd yn ôl)
Dim sylwadau / No comments
The application was approved 13/1/16
Cymeradwywyd y cais ar 13/1/16
Mr Robert Harris Change of use from a disused cowshed Cilsane Mill,
into an annex Llandeilo
Newid defnydd o feudy gwag i
anecs
Dim sylwadau / No comments
15/36 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Rhoddodd y Cynghorydd Sir, Cefin Campbell, adroddiad ar y toriadau i’r gyllideb, a oedd yn cael eu cyfrifo ar y pryd. Yr oeddid wedi rhag-weld y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei thorri 4%, ond daeth i’r amlwg y byddai’r toriad yn 1%. Fodd bynnag, wrth gyfrifo toriadau dros gyfnod o 3 blynedd, rhagwelid y byddai hyn yn cael ei ddilyn gan doriad o 4 – 5% i’r gyllideb.
Cyflwynodd y Cyng. Campbell wybodaeth am yr asedau yn Sir Gaerfyrddin yr oeddid yn ystyried eu trosglwyddo ar y pryd. Nid oedd hyn yn rhywbeth a fyddai’n effeithio ar blwyf Llangathen, ac yn wir, ar y pryd, roedd tua hanner y parciau/caeau chwarae yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu rhedeg gan bwyllgorau neu glybiau.
Roedd yn bosibl y byddai siroedd yn cyfuno, ac y byddid yn gweld yr hen Ddyfed yn dychwelyd.
O ran y gronfa wrth gefn o £70 miliwn yn Sir Gaerfyrddin, roedd awgrym wedi’i wneud y byddai buddsoddiad cyfalaf o £20 miliwn yn gallu creu swyddi. Fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei drafod.
Roedd y Morlyn Llanw yn Abertawe yn cael ei archwilio. Byddai cymeradwyo’r prosiect hwn yn sicrhau cyfleoedd gwaith byrdymor a hirdymor.
County Councillor Cefin Campbell reported on the budget reductions that were currently being calculated. It was anticipated that the Welsh Government budget would be reduced by 4% but it has emerged that the reduction will be by 1%. However, when calculating cuts over a 3 year period, then a 4 – 5% anticipated budget cut would be followed.
Cllr. Campbell advised on the asset transfers that were now being considered in Carmarthenshire. This is not something that effects Llangathen parish and indeed approximately half of the parks/playing fields in Carmarthenshire are currently being run by committees or clubs.
It is possible that counties will merge and we will see the return of Dyfed
With regard to the £70 million reserve in Carmarthenshire, is has been suggested that a capital investment of £20 million could create jobs. However, this is being debated.
The Tidal Lagoon in Swansea is being examined. The approval of this project would provide short term and long term job opportunities.
15/37 GOFYNIAD PRAESEPT / PRECEPT REQUIREMENT 2016 / 2017
Gofynnwyd am ofyniad praesept 2016/2017 gan Gyngor Sir Gâr.
Roedd manylion am gostau “Goleuadau Troetffyrdd” ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi dod i law, sef £1668.98 (£1390.82 + £278.16 TAW), a hefyd fanylion am Derfyn Gwariant Adran 137 ar gyfer 2016/17 – sef £7.42 yr etholwr. Roedd 407 o etholwyr yn y plwyf.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995: y ffigur ar gyfer 2016/17 oedd 256.31
Trafodwyd a rhoddwyd ystyriaeth i’r gwariant a amcangyfrifir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Penderfynwyd na ddylid cynyddu’r gofyniad praesept ar gyfer 2016/17 ac y byddai’n aros ar £7,000.
Yn unol â hynny, arwyddwyd y ffurflen gan y clerc, fel y Swyddog Ariannol Cyfrifol, a’r Cadeirydd. Byddai’r ffurflen yn cael ei hanfon ymlaen i Adran Adnoddau Cyngor Sir Gâr.
The precept requirement for 2016 / 2017 was requested by Carmarthenshire County Council.
Details of “Footway Lighting” charges for the financial year had been received, £1668.98 (£1390.82 + £278.16 VAT) and also details of Section 137 Expenditure Limit for 2016/17 – this being £7.42 per elector. There being 407 electors within the parish.
The Local Authorities (Calculation of Council Tax Base ( (Wales) Regulations 1995, the figure for 2016/17 being 256.31
Estimated expenditure for the coming financial year was discussed and considered.
It was resolved that the precept requirement for 2016/17 should not be increased and will remain at £7,000.
The clerk, as the Responsible Financial Officer and Chair duly signed the form which is to be forwarded to Resources Department, CCC.
15/38 UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Trafodwyd gwefan y gymuned, ac ystyriwyd y byddai o fudd i’r gymuned petai’n cael ei datblygu ymhellach. Byddai digwyddiadau, lluniau ac ati yn cael eu cynnwys arni, a gobeithid y byddai aelodau’r gymuned yn helpu i ddarparu deunydd.
1. The Community website was discussed and it was considered to be in the interest of the community to develop this further. Events, photographs etc to be included and it is hoped that members of the community would assist in providing material.
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Mawrth 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am
7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday, 15th March 2016 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….