• Home
    • Plwyf LLangathen
    • Llangathen Parish
    • Notices
  • Meeting Minutes
    • Council Meeting Agendas
    • Audit Notice 2019
    • Notices
  • Your Council
    • Payments to members
    • Accounts
    • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
  • Planning
  • Enquiries / Comments
    • Concerns and Complaints Policy
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
    • Family Research
      • Family Research Enquiries
  • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
  • Accessibility statement

Cyngor Cymuned Llangathen / Llangathen Community Council

Cyffwrdd â Bywyd

January 14, 2021 By justin

Bob blwyddyn mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru yn cael ataliad ar y galon yn y gymuned a bydd llawer yn marw onibai y cânt gymorth cynnar.  Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i gynyddu nifer y bobl sy’n goroesi ataliad ar y galon yn y gymuned, Rydym nawr yn ceisio eich cefnogaeth i’n helpu i rannu’r neges bwysig hon er mwyn achub bywydau.

Croesawn y cyfle yma i drafod sut y gallwch chi ein cefnogi ni i annog eich cymuned i: 

  • Wylio ein fideo hyfforddi ar: www.llyw.cymru/achub-bywyd-cymru
  • Gynnal sesiwn hyfforddi adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a sut i ddefnyddio di-ffib.
  • Brynu a gosod di-ffib yn y gymuned  ar gyfer y cyhoedd – efallai na fydd un di-ffib mewn  rhai cymunedau yn ddigonol.
  • Ddarparu cyfleoedd i rannu neges Achub Bywyd Cymru gyda’r cyhoedd.

Ymgyrch i esbonio be ddylai person ei wneud pe bai unigolyn yn digwydd cael ataliad ar y galon, yw Cyffwrdd â Bywyd. Mae ataliad ar y galon yn gyflwr lle mae’r galon yn stopio’n sydyn ac mae’r unigolyn yn disgyn yn anymwybodol. Rhaid dechrau CPR ar unwaith i bwmpio’r gwaed o amgylch y corff a defnyddio di-ffib i ailgychwyn y galon.

Mae ataliad ar y galon yn argyfwng meddygol unigrwy oherwydd nid yw’n bosib ei ragweld ac rhaid i unrhyw ymyraeth ddigwydd yn y munudau cyntaf. Nid oes sefyllfa feddygol arall sy’n dibynnu ar y fath ymyraeth gan y cyhoedd.

Dyma’r camau allweddol i gynyddu cyfradd y rhai sy’n goroesi ataliad ar y galon yw i sylwi’n fuan, gwneud CPR yn syth a diffibrillio prydlon. 

Yng Nghymru, mae oddeutu 80% o ataliadau ar y galon yn y gymuned yn digwydd yn y cartref a gallant ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg. Yn aml, mae llawer sy’n cael ataliad ar y galon yn ymddangos yn iach ac heb unrhyw salwch penodol.

Mae hyn yn pwysleisio’r ffaith y dylai pawb feddu ar sgiliau CPR i achub bywyd teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cymydogion neu ddieithryn

Ein huchelgais yw i annog pawb yng Nghymru i ddeall yr angen i helpu pob un sy’n cael trawiad ar y galon, a chael y sgiliau a’r hyder i ddechrau’r CPR a defnyddio di-ffib.

Gwyddom fod llawer o’n cymunedau, wedi lleoli diffibriliwr mewn mannau cyhoeddus a phrysur. Ond mae llawer mwy i’w wneud ac felly rydym angen eich cefnogaeth chi.

I gael rhagor o wybodaeth sut y gall eich cymuned helpu, cysylltwch ag Achub Bywyd Cymru yn: achubbywycymru@wales.nhs.uk

Filed Under: Notices

Council Agendas / Minutes

  • Accounts (24)
  • Annual Report (10)
  • Audit Hysbysiad (7)
  • Council Meeting Agendas (68)
  • Council Meeting Minutes (89)
  • Family Research (1)
  • Notices (33)
  • Uncategorized (3)

Latest Minutes / Agendas

  • LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
  • Hysbysiad Archwilio 2025 Audit Notice
  • Gwybodaeth Allweddol Mai 2025 May Key Information 
  • Agenda Mai 2025 May Agenda
  • Cofnodion Cyfarfod  Mawrth 2025 Minutes March
  • Gwybodaeth Allweddol Mawrth 2025 Key Information March
  • Agenda Mawrth 2025 March Agenda
  • Cofnodion Ionawr 2025 Minutes January
  • Gwybodaeth Allweddol Ionawr 2025 Key Information January
  • Cofnodion Tachwedd 2024 Minutes November
  • Agenda Ionawr 2025 January Agenda
  • Ffurflen flynyddol 2024 Annual return 2024

Search

Contact Details

Mrs M Rees
Llangathen Community Council
Crachty Isaf
Capel Isaac
Llandeilo
SA19 7UH

Tel: 01558 668349

Email:
Council@Llangathen.org.uk

Contact Details

Mrs M Rees
Llangathen Community Council
Crachty Isaf
Capel Isaac
Llandeilo
SA19 7UH

Tel: 01558 668349

Email:
Council@Llangathen.org.uk

www.llangathen.org.uk

Serving:

Broad Oak
Cilsan
Dryslwyn
Felindre
Golden Grove
Llangathen
Pantgwyn
Pentrefelin

Web Pages

  • Home
    • Plwyf LLangathen
    • Llangathen Parish
    • Notices
  • Meeting Minutes
    • Council Meeting Agendas
    • Audit Notice 2019
    • Notices
  • Your Council
    • Payments to members
    • Accounts
    • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
  • Planning
  • Enquiries / Comments
    • Concerns and Complaints Policy
    • DATA PROTECTION PRIVACY POLICY
    • Family Research
      • Family Research Enquiries
  • POLISI PREIFATRWYDD DIOGELU DATA
  • Accessibility statement

Copyright © 2025· Log in