Minutes – AGM – Tuesday, 17th May 2016

CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN

LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Mai 2016 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.

Minutes of the Annual General Meeting of Llangathen Community Council held on Tuesday, 17th  May 2016, at the Reading Rooms, Court Henry.

Presennol / Present:  Cyng/Cllrs.: H. James (chair), E. Morgan, M. Wynne and S. Collins.

Hefyd yn presennol / In attendance were County Cllr. Cefin Campbell and M. Rees (clerk).

16/01 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST

Dros y flwyddyn flaenorol, cofrestrwyd y datganiadau o fuddiant canlynol:

Over the previous year, the following declarations of interest were registered:

  • Cyng. / Cllr. L. Hughes – Sgwar Dryslwyn Square Rhif Cof. / Min Ref. 15/04 (2)
  • Cyng. / Cllr. C. Moses – Neuadd Llangathen Hall Rhif Cof. / Min Ref. 15/48
  • Cyng. / Cllr. S. Collins – Ysgol Cwrt Henri School Rhif Cof. / Min Ref. 15/48
  • Cyng. / Cllr. M. Williams – Cylch Meithrin Cwrt Henri Rhif Cof. / Min Ref. 15/48

 16/02 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  / Apologies for absence were received from Cllrs. C. Moses, L. Hughes, G. Davies and  M. Williams.

16/03 COFNODION / MINUTES

Cynigiwyd gan Cyng. M. Wynne ac eiliwyd gan Cyng. S. Collins fod cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Mawrth 19 Mai 2015 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.

It was proposed by Cllr. M. Wynne and seconded by Cllr. S. Collins that the minutes of the 2015 Annual General Meeting held on 19th May 2015 be accepted as a correct record of the proceedings.

16/04 DATGANIAD O GYFRIFON / STATEMENT OF ACCOUNTS

Dosbarthwyd a thrafodwyd copïau o’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2015.  Roedd y rhain wedi’u harchwilio gan Mr D. G. Morris.  Cynigiwyd gan y Cyng. H. James, ac eiliwyd gan y Cyng. S Collins y dylid derbyn bod y datganiad o gyfrifon yn gywir.

Copies of the accounts were circulated and discussed for the year ended 31st March 2016.  These had been audited by Mr D.G.Morris.  It was proposed by Cllr. H. James and seconded by Cllr. S. Collins that the statement of accounts be accepted as correct.

16/05 ASESIAD RISG / RISK ASSESSMENT

Dosbarthwyd copi o’r Asesiad Risg er mwyn i’r aelodau ei archwilio.  Ni wnaed unrhyw ddiwygiadau. Cynigiwyd gan y Cyng. H. James ac eiliwyd gan y Cyng. S Collins y dylid parhau â’r polisi.

A copy of the Risk Assessment was circulated for inspection by members.  No amendments were made. It was proposed by Cllr. H. James and seconded by Cllr. S. Collins that the policy be continued.

16/06 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL / ANNUAL GOVERNANCE STATEMENT

Darllenwyd yn uchel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac fe’i trafodwyd gan yr aelodau. Cynigiwyd gan y Cyng. H. James ac eiliwyd gan y Cyng. E Morgan y dylai gael ei gymeradwyo gan y cyngor.

The Annual Governance Statement was read out and discussed by members. It was proposed by Cllr. H. James and seconded by Cllr. E. Morgan that it be approved by the council.

16/07 PENODI ARCHWILYDD MEWNOL / APPOINTMENT OF INTERNAL AUDITOR

Cynigiwyd gan Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan Cyng. M. Wynne yw penodi Mr David Morris yn archwilydd mewnol ar gyfer y flwyddyn 2016/2017.

It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded my Cllr. M. Wynne that Mr D. Morris be appointed as the internal auditor for the year 2016/2017.

16/08 PENODI CADEIRYDD / APPOINTMENT OF CHAIRMAN

Roedd y Cyng. M. Wynne wedi bod yn Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2015 – 2016.  Cynigiwyd gan y Cyng. H. James ac eiliwyd gan y Cyng. E Morgan y dylai ef ymgymryd â swydd y Cadeirydd am y flwyddyn 2016 – 2017 i ddod.  Derbyniodd y Cyng. Wynne swydd y Cadeirydd a diolchodd y Cyng. James iddo am ei bresenoldeb a’i effeithlonrwydd dros y flwyddyn flaenorol.  Diolchwyd i’r clerc hefyd am ei gwaith dros y flwyddyn flaenorol.

Cllr. M. Wynne had held the position of vice Chairman for the year 2015 – 2016.  It was proposed by Cllr. H. James and seconded by Cllr. E. Morgan that he now take up the post of Chairman for the coming 2016 – 2017 year.  Cllr. Wynne accepted the position of chair and thanked Cllr. James for his attendance and efficiency over the previous year.  The clerk was also thanked for her work over the previous year.

16/09 PENODI IS-CADEIRYDD / APPOINTMENT OF VICE CHAIR

Cynigiwyd gan y Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan y Cyng. H. James bod y Cyng. S. Collins yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd.  Derbyniodd S. Collins y swydd a diolchodd i’r aelodau.

It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. H. James that Cllr. S. Collins be appointed as Vice Chairman.  Cllr. S. Collins accepted the post and thanked members.

16/10 AELODAETH / MEMBERSHIP AFFILIATION

Cynigiwyd gan y Cyng. S. Collins ac eiliwyd gan y Cyng. E Morgan y dylai’r pwyllgor barhau â’i aelodaeth o Un Llais Cymru ac mai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ddylai fod y cynghorwyr enwebedig i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd chwarterol y pwyllgor ardal. Nhw hefyd ddylai gael y cylchlythyrau, y bwletinau a’r hysbysiadau am gyfarfodydd ac ati.

It was proposed by Cllr. S. Collins and seconded by Cllr. E. Morgan to continue affiliation to Un Llais Cymru and that the chairman and vice-chairman be the nominated councillors to represent quarterly Area Committee meetings and to receive newsletters, bulletins and meeting notifications etc.

16/11  PENODI CYNRYCHIOLWYR AR GYFER AMRYWIOL GYRFF / TO APPOINT REPRESENTATIVES FOR VARIOUS BODIES

i.  Ystafell Ddarllen Cwrt Henri Reading Room  –  Cyng. / Cllr. M. Williams

ii. Un Llais Cymru – Cyng. / Cllr.  M. Wynne and S. Collins

iii. Ysgol Cwrt Henri School – Cyng. / Cllrs. S. Collins and L. Hughes

iv.  Neuadd Llangathen Hall – Cyng. / Cllr. C. Moses

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING

Penderfynwyd y byddai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2017.

It was resolved that the next Annual General Meeting of Llangathen Community Council would be announced in March 2017.

Llofnod / Signed…………………………….

Dyddiad / Date………………………………….