CYNGOR CYMUNED LLANGATHEN / LLANGATHEN COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llangathen a gynhaliwyd ddydd Lun , 24 Medi 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri.
Minutes of the meeting of Llangathen Community Council held on Monday, 24th September 2018 at The Reading Room, Court Henry.
Presennol / Present: Cyng. Cllrs A. Davies (cadeirydd/acting chair) E. Morgan, E.Rees, B.Jones, a C. Moses. Hefyd yn presennol / In attendance Mrs M.Rees (clerc / clerk) a/and Cynghorydd Sir / County Councillor C. Campbell.
Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol, a chydymdeimlodd â’r Cyng. E. Morgan yn dilyn marwolaeth ei fam yn ddiweddar.
The chair welcomed all present and sympathised with Cllr. E. Morgan following the recent loss of his mother, Mrs Glenys Morgan.
18/19 YMDDIHEURIADAU / APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan / Apologies for absence were received from Cyng. / Cllrs.L. Hughes, M. Williams and M. Wynne.
Roedd Alud Jones, CGGSG, wedi ymddiheuro am na allai fod yn bresennol. Byddai’n bresennol yng nghyfarfod mis Tachwedd.
Alud Jones, CAVS, conveyed his apologies for not being able to attend. He will be present at the November meeting.
18/20 DATGANIADAU O FUDDIANT / DECLARATIONS OF INTEREST
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
There were no declarations of interest.
18/21 ADRODDIAD GAN SWYDDOG CYMORTH CYMUNEDOL YR HEDDLU/ REPORT BY PCSO
Nid oedd y Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gallu bod yn bresennol.
The PCSO was unable to attend.
18/22 COFNODION / MINUTES
Cynigiwyd gan Cyng. E. Morgan ac eiliwyd gan Cyng. E. Rees fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir o’r trafodion.
It was proposed by Cllr. E. Morgan and seconded by Cllr. E. Rees that the minutes of the meeting held on Tuesday, 1tth July 2018 be accepted as a correct record of proceedings.
18/23 MATERION YN CODI / MATTERS ARISING
Cof/Min 18/14 (1) A40 SGWAR DRYSLWYN SQUARE, DRYSLWYN
Cadarnhaodd y Cyng. Cefin Campbell y byddai’n cwrdd â Hywel Davies, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn fuan ynghylch marciau yn yr ardal hon o’r A40. Byddai’n rhoi gwybod i’r clerc am ddyddiad ac amser y cyfarfod fel y gallai Cynghorwyr eraill fod yn bresennol hefyd.
Cllr. Cefin Campbell confirmed that he would soon be meeting with Hywel Davies, South Wales Trunk Road Agency regarding markings at this area of the A40. He would let the clerk know the date and time of the meeting so that other Councillors may attend also.
Cof/Min 18/14 (2) DIFFIBRILIWR / DEFIBRILLATOR
Roedd y Diffibriliwr yn Siop Gymunedol Dryslwyn, Dryslwyn wedi’i osod yn llawn ac yn weithredol bellach.
Byddai Tomos Hughes o Achub Calon Y Dyffryn yn hysbysu’r awdurdodau am leoliadau’r Diffibrilwyr. Byddai cwrs hyfforddi arall yn cael ei gynnal ddydd Llun 12 Tachwedd 2018, yn Neuadd Ddirwestol Llangathen. Roedd y Grant Loteri bellach wedi’i gwblhau.
The Defibrillator sited at Dryslwyn Community Shop, Dryslwyn, was now fully installed and operational.
Tomos Hughes of Achub Calon Y Dyffryn would be notifying the authorities of the locations of the Defibrillators. A further training course has been arranged for Monday, 12th November 2018 at Llangathen Temperance Hall. The Lottery Grant is now complete.
Cof. / Min. 18/14 (3) MAINC GER SGWAR MILTON / BENCH NEAR MILTON SQUARE
Roedd safle’r fainc yn y lleoliad hwn bellach wedi’i gytuno, a byddai’r Cynghorwyr yn trefnu i’w gosod yn fuan. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf.
The site of the bench at this location had now been agreed upon and Cllrs. will be arranging the positioning of same soon. To review at the next meeting.
Cof./Min 18/14 (4) GYFFORDD GER CAPEL CROSS INN / SIOP DRYSLWYN / JUNCTION NEAR CROSS IN CHAPEL / DRYSLWYN SHOP.
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To be reviewed next meeting.
Cof/Min 18/14 (5) CARAFAN / CARAVAN, HAFOD LON, CAPEL ISAAC
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To be reviewed next meeting.
Cof/Min 18/14 (6) CARAVAN, CAE LLOI, DRYSLWYN
I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. To be reviewed next meeting.
Cof/Min 18/14 (7) TRAC LLAWR CALED / HARD STANDING TRACK NEAR RHYD YR AFON, BROAD OAK.
Gweler cynllunio / see planning.
Cof/Min 18/14 (9) BROAD OAK – DAMAGED CONCRETE BOLLARDS
Cyng. E. Morgan yw i edrych mewn i’r mater. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. Cllr. E.Morgan to follow up. Review next meeting.
Cof/Min 18/14 (11) BROAD OAK – PARKING
Cyng. E. Morgan yw i edrych mewn i’r mater. I’w adolygu yn y cyfarfod nesaf. Cllr. E.Morgan to follow up. Review next meeting.
Cof / Min. 18/19 (1) Goleuadau ar yr A40 yn Sgwâr Dryslwyn / Lighting on A40 at Dryslwyn Square
Roedd neges e-bost wedi dod i law gan y Cyng. Mansel Charles o Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn cadarnhau bod yna broblem ynghylch y lampau goleuadau ar y briffordd. Cadarnhawyd bod y broblem hon wedi cael ei datrys oddi ar hynny.
An e-mail received by Cllr. Mansel Charles from South Wales Trunk Road Agency confirming the problem regarding the highway lighting lamps. It was confirmed that the problem has since been resolved.
18/24 GOHEBIAETH / CORRESPONDENCE
Cafodd yr eitemau canlynol o ohebiaeth eu cyflwyno i’r cyngor a’u trafod/nodi, fel sy’n briodol:
The following items of correspondence were presented to council and duly discussed/noted:
Cytunodd y Cyng. B. Jones i ymchwilio i fater rhif 3.
Cytunodd y clerc i fynd i’r noson o hyfforddiant ar Reoli Gwybodaeth (a oedd i gynnwys y GDPR) ar 16 Hydref 2018.
Cytunwyd i enwebu Caryl Thomas, Glansannan, Dryslwyn a Dewi Griffiths, Pantydderwen, Llanfynydd ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin.
Cllr. B. Jones agreed to look into matter numbered 3.
The clerk agreed to attend the training evening on 16th October 2018, Information Management (including GDPR)
It was agreed to nominate Caryl Thomas, Glansannan, Dryslwyn and Dewi Griffiths, Pantydderwen, Llanfynydd for the Carmarthenshire Sports Personality of the Year.
18/25 CYFRIFON I’W TALU / ACCOUNTS FOR PAYMENT
Cymeradwywyd bod y cyfrifon canlynol yn cael eu talu, a pharatowyd sieciau yn unol â hynny:
The following accounts were approved for payment and cheques duly prepared:
£
Trywydd
Cyfieithu Ysgrifenedig / Written Translation (Gorffennaf/July) 33.07
M. Rees – Cyflog Mis Medi / September Salary 266.66
M. Rees – Costau’r Clerc / Clerks Expenses 97.20
18/26 Y FFYRDD – PARATOI AR GYFER Y GAEAF / HIGHWAYS – PREPARING FOR WINTER
Roedd cais wedi dod i law am flwch graean newydd ger y lloches bws yn Nerwen-fawr. Cytunodd y Cyng. E. Morgan i gyflwyno cais i Gyngor Sir Caerfyrddin.
A request had been received for a new grit box near the bus shelter, Broad Oak. Cllr. E. Morgan agreed to submit a request to CCC.
18/27 CEISIADAU CYNLLUNIO / PLANNING APPLICATIONS
Cafodd y ceisiadau canlynol eu hystyried gan y Cyngor a nodwyd eu sylwadau:
The following applications were considered by the Council and their observations noted:
YMGEISYDD DATBLYGIAD LLEOLIAD
APPLICANT DEVELOPMENT LOCATION
Miss Elin Childs Replacement Extension to dwelling Twyn, Broad Oak,
Carmarthen. SA32 8QY
Dim gwrthwynebiadau No objections
Approved planning applications:
E/ENF/08526 – Cais Cynllunio / Planning Application E/37365
Tir trac i’r gogledd o /Track land North of RhydyrAfon, Broad Oak. Cymeradwy / Approved 26/7/18
18/28 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR / COUNTY COUNCILLORS REPORT
Rhoddodd y Cynghorydd Cefin Campbell adroddiad ar lwyddiant y Tour of Britain ddiweddaraf, a ddechreuodd ym Mhen-bre a mynd trwy Sir Gaerfyrddin. Amcangyfrifwyd bod y digwyddiad wedi dod ag £880,000 i economi’r sir o ganlyniad i bobl yn ymweld ac yn aros mewn gwestai/llety gwely a brecwast, ac yn mynd i fwytai/caffis, ac ati.
Cymeradwyodd y Cyng. Campbell Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar eu Celf Tir ardderchog a oedd wedi’i leoli ger Gelli-aur. Roedd y beic, gyda thractorau yn cynrychioli’r olwynion, wedi bod yn destun siarad yn y sir, yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd y Cyng. Campbell nad oedd yna unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer Llanfihangel Aberbythych o dan yr Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Sir Gaerfyrddin.
Cadarnhaodd y Cyng. Campbell fod llawer o bobl yn bresennol yng nghyfarfod Cymunedau a Materion Gwledig yng Nghanolfan Haliwell, Caerfyrddin, a bod syniadau da, cadarnhaol wedi cael eu cynnig.
Councillor Cefin Campbell reported on the success of the recent Tour of Britain that commenced in Pembrey and passed through Carmarthenshire. It is estimated that the event brought £880,000 to the County’s economy by people visiting and staying at hotels/guest houses/ bed and breakfast and visiting restaurants/cafés etc.
He commended the Carmarthenshire Federation of Young Farmers Clubs on their excellent Land Art which was located near Golden Grove. The feature of a bike with tractors representing the wheels had been a talking point in the County, Wales and beyond.
Cllr. Campbell advised that there were no proposed changes for Llanfihangel Aberbythych under the Review of the Electoral Arrangements of the County of Carmarthenshire .
Cllr. Campbell confirmed that the meeting of the Communities and Rural Affairs at the Haliwell Centre, Carmarthen was well attended with some positive, good ideas being put forward.
18/29 ANNUAL AUDIT
Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad archwilio amodol ar gyfer Cyngor Cymuned Talyllychau. Roedd rhai materion wedi cael eu nodi nad oeddent yn effeithio ar farn yr archwiliad, ond byddai’n ofynnol mynd i’r afael â nhw. Byddai’r clerc yn trafod y materion hyn â’r archwilydd mewnol.
The Auditor General for Wales issued Llangathen Community Council a qualified audit report. Some matters were identified which did not affect the audit opinion but should be addressed. The clerk to discuss these matters with the internal auditor.
UNRHYW FATER ARALL / ANY OTHER BUSINESS
1. Roedd cais wedi dod i law i ail-leoli blwch graean yn Llangathen. Roedd ymholiad wedi dod i law ynghylch arwyddion dros dro, ynghyd â chais am arwyddion twristiaid brown. Byddai’r clerc yn ateb y rhain. A request was made to re-locate a grit box in Llangathen. A query regarding temporary signs and a request for brown tourist signs. The clerk to reply.
2. Dywedwyd bod angen rhoi wyneb newydd i’r ffordd yn Felindre oherwydd y problemau a gododd yn sgil y pyllau dwr a fu yno. Cadarnhaodd y Cyng. E. Morgan fod cais wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin.
It was reported that following the ponding problems in Felindre, the surface was now in need of re-surfacing. Cllr. E. Morgan confirmed that a request had been submitted to CCC.
3. Roedd gwrychoedd a oedd wedi tyfu’n wyllt ger Grongar, Derwen-fawr yn achosi problemau. Byddai’r Cyng. E. Morgan yn ymchwilio i’r mater.
Overgrown hedgerows near Grongar, Broad Oak are proving to be a problem. Cllr. E. Morgan will look into the matter.
4. Roedd cais wedi dod i law’r clerc ynghylch BT Openreach a ffeibr optig yn ardal Capel Isaac. Byddai’r cytundeb terfynol i barhau â’r prosiect hwn yn nwylo Llywodraeth Cymru, a chadarnhaodd y Cyng. Campbell nad oedd y llywodraeth wedi cytuno i hyn eto.
The clerk had received a query regarding BT Openreach and fibre optic in the Capel Isaac area. Cllr. Campbell confirmed that it had not yet been agreed by Welsh Government who would have the final contract to continue this project.
DYDDIAD CYFARFOD NESAF / DATE OF NEXT MEETING
Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Cymuned Llangathen yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2018 yn yr Ystafell Ddarllen, Cwrt-henri am 7.30 p.m.
It was resolved that the next meeting of Llangathen Community Council would be held on Tuesday 20th November 2018 at the Reading Room, Court Henry at 7.30pm.
Llofnod / Signed…………………………….
Dyddiad / Date………………………………….